Neidio i'r prif gynnwy

Dermatoleg

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael os ydych yn glaf presennol ac wedi cael diagnosis dermatoleg wedi'i gadarnhau gan ddermatolegydd. Rydym yn dîm o Feddygon, GPwER (Meddygon Teulu gyda Rolau Estynedig) yn ogystal â Nyrsys Clinigol Arbenigol. Rydym yn darparu gwybodaeth a chymorth ar gyflyrau dermatolegol i chi fel cleifion.

Rydym yn cynnig cymorth wyneb yn wyneb drwy glinigau dan arweiniad nyrsys. Mae cymorth dros y ffôn ar gael i helpu cleifion i ddeall nodau triniaeth, rheoli monitro cyffuriau ac i helpu i reoli effeithiau emosiynol, corfforol a gwaith wrth reoli afiechyd cronig. Gellir gwneud cyfeiriadau at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Gallwn roi gwybodaeth i chi am ffynonellau eraill o wybodaeth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: