Neidio i'r prif gynnwy

Pam y mae arnom angen y ddeddf?

Bob dydd, mae pobl yn gwneud penderfyniadau ynghylch pethau yn eu bywydau. Yr enw ar y gallu hwn i wneud penderfyniadau yw galluedd meddyliol. Weithiau, mae rhai pobl yn ei chael yn anodd gwneud penderfyniadau am nad oes ganddynt y galluedd meddyliol. 
 
Mae hon yn gyfraith newydd a fydd yn helpu i gefnogi pobl sy'n cael anhawster gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, neu sydd am gynllunio ymlaen rhag ofn na fyddant yn gallu gwneud penderfyniadau yn y dyfodol. Bydd y Ddeddf yn diogelu'r bobl hynny nad oes ganddynt alluedd.
 
Bydd y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn effeithio ar bobl sy'n cael anhawster gwneud penderfyniadau. Bydd hefyd yn effeithio ar eu teuluoedd, eu gofalwyr, staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â phobl eraill a allai ddod i gysylltiad â nhw.
 
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Adran Materion Cyfansoddiadol wedi darparu gwybodaeth mewn amryw o fformatau ac ieithoedd, i helpu pobl i ddeall y Ddeddf a'r modd y gall eu helpu.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: