Neidio i'r prif gynnwy

Ar bwy y mae'r ddeddf yn effeithio?

Mae'r ddeddf yn effeithio ar unrhyw sefyllfa sy'n ymwneud ag unigolyn nad oes ganddo alluedd. Mae'r Ddeddf yn berthnasol i unrhyw un sydd dros 16 oed ac y mae nam ar ei alluedd meddyliol, gan gynnwys pobl yr effeithir arnynt gan ddementia, salwch corfforol neu driniaeth ar ei gyfer, anabledd dysgu, ac anaf i'r ymennydd.
 
Mae'r ddeddf yn sicrhau bod yr unigolyn sydd heb alluedd wrth galon y broses o wneud penderfyniadau, ac mae’n rhoi pwyslais mawr ar gefnogi a galluogi'r unigolyn i wneud ei benderfyniadau ei hun. 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: