Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth gyffredinol

Mae faint o gwyr clust a gynhyrchir yn amrywio o berson i berson. Rydych yn fwy tebygol o ddatblygu rhwystr cwyr yn y gamlas glust os ydych: 

  • defnyddio ffon gotwm i lanhau'r glust ac yn cael ei wthio'n ddyfnach i'r gamlas;
  • gwisgo cymorth clyw, plygiau clust neu defnyddio seinyddion yn y glust - gall y rhain i gyd ymyrryd â'r broses naturiol o ddiarddel cwyr;
  • yn oedrannus – oherwydd bod y cwyr clust rydych chi'n ei gynhyrchu yn sychach ac yn galetach;
  • â phroblem croen sych fel ecsema neu soriasis;
  • â chamlas clust arbennig o gul .

 

Dim ond os yw'n achosi byddardod, anesmwythder, tinitws, chwibanu o ddyfais cymorth clyw neu os yw eich gweithiwr iechyd proffesiynol angen golwg glir neu drwm eich clust y daw cwyr clust yn broblem. 

Ceisiwch gyngor gan eich meddyg teulu neu nyrs, a pheidiwch â cheisio hunan-drin os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi: 

  • poen, byddardod sydyn neu suo yn y glust;
  • hanes o drydylliad drwm clust neu lawdriniaeth flaenorol yn y glust yr effeithiwyd arni;
  • ysmptomau haint yn y glust – poen neu redlif drewllyd;
  • darn dieithr yn y glust.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: