Neidio i'r prif gynnwy

Chwarae therapiwtig

Mae ein Tîm Gwasanaethau Chwarae Therapiwtig yn cynnwys Arbenigwyr Chwarae ym Maes Iechyd, sy'n cael eu cefnogi gan Gynorthwywyr Chwarae ar Ward Cilgerran ac yn Uned y Pâl. Ein nod yw defnyddio chwarae, yn ei ffurfiau niferus, i gefnogi a chynorthwyo plant a phobl ifanc yn yr ysbyty. Ein prif ffocws yw defnyddio chwarae i leihau'r pryder y gall plant a phobl ifanc ei deimlo pan fyddant yn yr ysbyty, neu pan fyddant yn cael triniaeth, a hynny trwy ddefnyddio technegau paratoi, tynnu sylw, ac ymdopi sy'n seiliedig ar chwarae.

Mae aelodau o'n Tîm Gwasanaeth Chwarae ar gael bob dydd rhwng 9.00am a 5.00pm, ar y rhifau ffôn a ddarperir isod.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: