Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw celfyddydau ac iechyd?

Defnyddir celfyddydau ac iechyd i gyfeirio at yr holl waith gyda chreadigrwydd, y celfyddydau a diwylliant sy’n cefnogi iechyd a lles pobl.

Wrth sôn am y celfyddydau ac iechyd, rydym yn golygu pob ffurf ar gelfyddyd a all gynnwys celfyddydau gweledol a chrefft, cerddoriaeth, dawns, theatr, ysgrifennu creadigol, adrodd straeon, canu a mwy.

Darperir y celfyddydau ac iechyd gan ymarferwyr medrus, artistiaid, cerddorion, dawnswyr, awduron a gwneuthurwyr theatr mewn cydweithrediad â chleifion, staff a chymunedau.

Rhai enghreifftiau gwych yw:

  • cerddoriaeth fyw i dawelu a chysuro cleifion;
  • dawns i atal codymau a phoen cronig;
  • canu i wella iechyd a chof yr ysgyfaint;
  • celfyddydau gweledol i wella iechyd meddwl a lles.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: