Mae tai yn effeithio ar iechyd mewn sawl ffordd. Er enghraifft, gall cwympo yn y cartref arwain at anaf a allai olygu bod angen ymweld â'r ysbyty. Gall cartrefi oer neu laith waethygu'r cyflyrau iechyd presennol, fel clefyd yr ysgyfaint.
Rydym yn falch iawn o weithio gyda sawl asiantaeth bartner leol a all gynorthwyo gyda phrosiectau cysylltiedig â thai. Gallwch hefyd edrych ar y cyngor, y gefnogaeth a'r gwasanaethau y gall adrannau tai eich awdurdod lleol eu darparu.
Cliciwch yma i droi at dudalen Tai Cyngor Sir Gâr (agor mewn dolen newydd)
Cliciwch yma i droi at dudalen Tai Cyngor Sir Ceredigion (agor mewn dolen newydd)
Cliciwch yma i droi at dudalen Tai Cyngor Sir Penfro (agor mewn dolen newydd)
Isod, cewch fwy o wybodaeth am ein hasiantaethau partner a’r gwasanaethau meant yn eu cynnig:
Mae Gofal a Thrwsio yn elusen genedlaethol sy'n gweithio i sicrhau bod cartrefi pobl hŷn yn ddiogel ac yn briodol i'w hanghenion. Gallant helpu trwy gynorthwyo gyda gwelliannau, atgyweiriadau ac addasiadau i'w cartref. Mae'r gwasanaethau hyn ar gael i unrhyw un sy'n 60 oed neu'n hŷn, boed yn berchennog tŷ neu'n denant i landlord preifat.
Yn ogystal â threfnu atgyweiriadau ac addasiadau maent yn cefnogi cleientiaid i wneud y mwyaf o'u hincwm, gwresogi cartrefi a chyfeirio at sefydliadau eraill i gael cefnogaeth bellach lle bo angen.
Efallai y codir tâl am rai gwasanaethau yn dibynnu ar gymhwysedd.
Cysylltwch â’ch asiantaeth Gofal a Thrwsio ar 0300 111 3333
Cliciwch yma i droi at wefan Gofal a Thrwsio (yn agor mewn tab newydd)
Os ydych chi'n cael triniaeth canser, efallai eich bod gartref fwy. Efallai y bydd angen i chi droi'r gwres i fyny i ymdopi â sgil-effeithiau, megis colli pwysau, colli gwallt a blinder. Mae hyn yn golygu y gall eich biliau ynni gynyddu pan na fyddwch yn gallu gweithio neu os oes gennych incwm is. Gall cymorth canser Macmillan eich helpu i gael cefnogaeth i helpu i gynhesu'ch cartref a rheoli'ch biliau tra'ch bod chi'n cael triniaeth.
Cysylltwch â Chymorth Canser Macmillan ar 0808 8080 000
Mae Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys y cynllun Nyth, yn cefnogi pobl yng Nghymru sy'n byw ar incwm is. Os ydych chi'n derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd neu'n byw gyda chyflwr anadlol, cylchrediad y gwaed neu iechyd meddwl efallai y byddan nhw'n gallu'ch helpu chi.
Mae Nyth yn cynnig ystod o gyngor diduedd am ddim ac, i rai pobl, mae’n pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim. Gall gwelliannau ynni cartref gynnwys boeler, gwres canolog neu inswleiddio newydd. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a bod o fudd i'ch iechyd a'ch llesiant.
Os hoffech wybod mwy am y cynllun Nyth ac i weld a ydych chi’n gymwys, ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 neu cliciwch yma i droi at wefan Nyth (yn agor mewn dolen newydd).
Mae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor ar fudd-daliadau lles, dyled, cyflogaeth, addysg, tai, mewnfudo a gwahaniaethu.
Nod y gwasanaeth yw helpu pobl i gael gafael ar y cyngor cywir, ar yr adeg iawn. Mae Adviceline Cymru hefyd yn ei gwneud hi'n haws i chi gyrchu gwasanaethau eto os oes angen help pellach arnoch.
Gall pobl yng Nghymru gael mynediad i’r gwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm: 0800 702 2020.
Relay UK — os na allwch glywed na siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn yr ydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 144 8884