Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael cymorth ar ôl ymosodiad rhywiol

Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)

Efallai y byddwch am ystyried ceisio cymorth meddygol os ydych wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn ddiweddar. Mae cyfleusterau arbenigol a elwir yn Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) ar gael i ddarparu'r cymorth y gallai fod ei angen arnoch. Mae’n bwysig cael mynediad at y cymorth hwn cyn gynted â phosibl, yn enwedig oherwydd y risgiau o feichiogrwydd a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Am gymorth ar unwaith, ffoniwch linell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800. Mae rhagor o wybodaeth am eu gwasanaethau i’w gweld ymhellach i lawr y dudalen, isod.

Mewn SARC, cewch gymorth gan Weithiwr Argyfwng a chyfle i weld archwilydd meddygol fforensig. Cewch gymorth hefyd i ddweud wrth yr heddlu beth sydd wedi digwydd i chi, os byddwch chi’n dymuno gwneud hynny. Mae yna gymorth a chyngor arbenigol ar gael hefyd gan eiriolwr sy’n gallu cynnig cymorth ac aros gyda chi gydol y broses.

Gallwch ddarganfod mwy am beth yw SARC a’r cymorth y byddwch yn ei dderbyn yn fideo Gweithrediaeth GIG Cymru isod:

I ddod o hyd i’ch SARC agosaf, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn

Cysylltwch â Byw Heb Ofn

Cysylltwch â Byw Heb Ofn am ddim drwy ffonio, sgwrsio ar-lein neu e-bost.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Gall Byw Heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol;
  • pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth.Er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr;
  • ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol.

Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy'n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n llawn.

Ffoniwch: 0808 80 10 800

Croesawir galwadau yn Gymraeg. Ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am linell gymorth Byw Heb Ofn (agor mewn dolen newydd)

Neges testun: 07860077333

Ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am wasanaeth neges destun Byw Heb Ofn (agor mewn dolen newydd)

E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

Ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Gwybodaeth am y gwasanaeth e-bost

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am wasanaeth e-bost Byw Heb Ofn (agor mewn dolen newydd)

Cliciwch yma i ymweld â thudalen Byw Heb Ofn ar wefan Llywodraeth Cymru (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: