Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan gyswllt cleifion allanol

Mae'r ganolfan gyswllt cleifion allanol yn rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer Ysbytai Cyffredinol Bronglais, Glangwili, y Tywysog Philip a Llwynhelyg lle gallwch drefnu, cadarnhau, newid neu ganslo apwyntiad claf allanol.

Ffoniwch: 0300 303 9642

Oriau agor: 8.00am tan 6.00pm dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau’r banc)

Bydd y ganolfan gyswllt yn sicrhau y gellir trefnu apwyntiadau cleifion allanol cyn gynted â phosibl - yn enwedig i'r bobl hynny â chyflyrau sy'n bygwth bywyd, megis canser.

Trwy ffonio un rhif ffôn pwrpasol, bydd defnyddwyr gwasanaethau'n gallu cysylltu a threfnu apwyntiadau'n hawdd, gan sicrhau bod sesiynau clinig cleifion allanol yn cael eu defnyddio i'r eithaf.

Yn ogystal â hynny, bydd cleifion yn gallu gofyn am opsiwn ‘ffonio’n ôl’ er mwyn osgoi aros ar y ffôn.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: