Mae ein tîm yn cynnwys pediatregwyr cymunedol a nyrs arbenigol. Rydym yn darparu asesiad, diagnosis a chefnogaeth barhaus i blant ac ieuenctid sy'n arddangos ymddygiadau sy'n awgrymu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Derbynnir atgyfeiriadau ar gyfer pobl hyd at 17 oed a chwe mis.
Os nad yw eich ymholiad wedi’i ateb gan y wybodaeth a ddarperir yma, gallwch anfon e-bost atom yn: adhdreferrals.ggh.hdd@wales.nhs.uk
Byddwch yn ymwybodol, nid yw e-bost yn cael eu monitro bob dydd, a byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn.