Ni yw Gwasanaeth Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Oedolion Hywel Dda. Derbynnir atgyfeiriadau ar gyfer pobl dros 17 oed a chwe mis oed. Mae'n rhaid eu bod wedi bod yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro am chwe mis gydag ADHD tybiedig neu wedi cael diagnosis o ADHD.
Ar hyn o bryd rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan weithiwr proffesiynol yn unig (fel arfer eich Meddyg Teulu. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer asesiad diagnostig a thriniaeth.
Os nad yw eich ymholiad wedi'i ateb gan y wybodaeth a ddarperir yma, gallwch anfon e-bost atom yn: adultADHDservice.hdd@wales.nhs.uk
Byddwch yn ymwybodol, nid yw e-byst yn cael eu monitro bob dydd, a byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn.