Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddol

Gofal deintyddol brys (dydd Llun i ddydd Gwener)

I breswylwyr Bwrdd Iechyd Hywel Dda heb ddeintydd rheolaidd ac sy’n dioddef o argyfwng deintyddol, gallwch gael apwyntiad brys drwy Wasanaeth Deintyddol y Tu Mewn i Oriau’r Bwrdd Iechyd. I gael gafael ar y gwasanaeth ffoniwch 111.

Byddwch yn siarad â nyrs ddeintyddol gymwys a fydd yn blaenoriaethu’ch symptomau a rhoi cyngor ar reoli poen. Os yw’n briodol, bydd y nyrs yn rhoi cod mynediad y gwasanaeth i chi. Yna bydd angen ffonio’r llinell bwcio brys ar 01437 834440 (8.30am - 4.30pm), er mwyn trefnu apwyntiad. Lle y bo’n bosibl, byddwn yn ceisio cynnig apwyntiad ar amser cyfleus ac mewn lleoliad cyfleus.

 

Gofal deintyddol brys (dydd Sadwrn a dydd Sul)

Ar gyfer preswylwyr Bwrdd Iechyd Hywel Dda nad oes deintydd rheolaidd ganddynt ac sy’n dioddef o argyfwng deintyddol, gallwch gael apwyntiad brys drwy Wasanaeth Deintyddol y Tu Allan i Oriau’r Bwrdd Iechyd. I gael gafael ar y gwasanaeth ffoniwch 111.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: