Apwyntiad yw ymgynghoriad fideo sy'n digwydd rhwng claf a chlinigwr dros fideo, yn lle wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Byddwch yn derbyn yr un ansawdd gofal ag y byddech mewn apwyntiad wyneb yn wyneb.
Mae llawer o fanteision i ddefnyddio ymgynghoriadau fideo, gan gynnwys:
Ydy. Mae Medio yn darparu ymgynghoriadau fideo diogel. Ni chaiff galwadau fideo eu recordio ac nid yw'r system yn storio unrhyw wybodaeth am gleifion. Nid oes angen i chi lawrlwytho Ap na chreu cyfrif i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Mae ymgynghoriadau fideo yn addas i lawer o gleifion nad oes angen archwiliad corfforol arnynt ac sy'n gallu cyfathrebu drwy fideo. Dim ond os yw'n credu ei fod yn iawn i chi y bydd eich clinigwr yn eich gwahodd i ymgynghoriad fideo. Mae eich caniatâd yn hanfodol.
Os byddwch chi'n teimlo ar unrhyw adeg yr hoffech chi ddod â'r ymgynghoriad fideo i ben, gallwch chi hysbysu'ch clinigwr yr hoffech chi ddod â'r alwad fideo i ben a threfnu apwyntiad arall.
Nid oes rhaid i chi dderbyn y cynnig o ymgynghoriad fideo, cynigir apwyntiad dros y ffôn i chi os yw hyn yn well gennych.
Ydw. Gall hyn ddigwydd mewn dwy ffordd:
Eglurir manylion yr offer sydd ei angen arnoch a sut i ymuno â'ch apwyntiad yma (agor mewn dolen newydd). Gallwch hyd yn oed wylio fideo byr yn esbonio beth i'w wneud.
Rydym yn argymell eich bod yn cynnal prawf offer byr ymlaen llaw i helpu i nodi problemau technegol cyn eich apwyntiad. Dim ond tua 30 eiliad y mae'n ei gymryd. I wneud y prawf hwn, agorwch y cyfeiriad gwe a ddarperir yn eich llythyr neu gyfathrebiad, a chliciwch ar y botwm sy'n dweud offer profi .
Efallai y bydd eich clinigwr yn gallu cynnal ymgynghoriad hwyr neu beidio. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â'r derbynnydd rhithiol drwy'r Ganolfan Gyswllt ar y rhif ffôn 0300 303 9642 i aildrefnu eich apwyntiad os bydd hyn yn digwydd.
Darperir y platfform MEDIO Consult gan Involve ac mae wedi'i gynllunio i gynnig profiad hygyrch a chynhwysol i bawb. Mae'n gydnaws â thechnolegau cynorthwyol ac yn cydymffurfio â Safon ar y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 AA.
Darllenwch ddatganiad hygyrchedd dwyieithog MEDIO Consult (agor mewn dolen newydd)