Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau ymgynghori fideo gan ddefnyddio Medio

Os cynigir apwyntiad ymgynghori fideo i chi, mae hyn oherwydd bod eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi nodi ei fod yn ddiogel ac yn briodol. Bydd eich apwyntiad fideo yn gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei recordio.

Yr hyn sydd ei angen arnoch i ymuno ag ymgynghoriad fideo

Er mwyn ymuno â'ch apwyntiad bydd angen y canlynol arnoch:

  • Offer:
    • mynediad at ddyfais a fydd yn caniatáu ichi gysylltu â'r rhyngrwyd (e.e. cyfrifiadur, gliniadur, tabled neu ffôn clyfar symudol).
    • gwe-gamera (camera), seinyddion a meicroffon.
  • Porwr rhyngrwyd:
    • Porwr gwe Google Chrome neu Microsoft Edge os ydych chi'n cysylltu ar gyfrifiadur neu liniadur, tabled Android neu ffôn clyfar.
    • Porwr gwe Safari os ydych chi'n cysylltu ar Apple iMac, MacBook, iPad, neu iPhone.
  • Mynediad i'r rhyngrwyd:
    • cysylltiad rhyngrwyd da (os gallwch wylio fideo YouTube, mae hyn yn awgrymu bod gennych gysylltiad da). Defnyddiwch ein "galwad brawf" i wirio.
    • cynllun defnydd rhyngrwyd sy'n ddigonol i gwmpasu'r defnydd o ddata ar gyfer galwad fideo – yn ddelfrydol defnyddiwch gysylltiad Wi-Fi os oes gennych chi hwn ar gael.

Sut i ymuno ag ymgynghoriad fideo

Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn anfon llythyr, e-bost neu neges destun atoch gyda manylion eich apwyntiad ymgynghoriad fideo. Bydd yn cynnwys y ddolen cyfeiriad gwe briodol i gael mynediad at eich apwyntiad fideo gofal iechyd.

Teipiwch y ddolen cyfeiriad gwe o'ch cadarnhad apwyntiad i far eich porwr gwe (nid blwch peiriant chwilio) gan ddefnyddio dyfais sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd.

Os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad at eich ymgynghoriad fideo, cysylltwch â ni ar y rhif ffôn a ddarperir yn eich llythyr apwyntiad, e-bost neu neges destun. Gellir defnyddio'r rhif hwn hefyd i ganslo/aildrefnu eich apwyntiad gofal iechyd.

Os na allwch fynychu eich apwyntiad rhithiol, rhowch wybod i ni drwy ffonio'r rhif sydd ar eich llythyr apwyntiad, neu cysylltwch â'r derbynnydd rhithiol drwy'r Ganolfan Gyswllt ar 0300 303 9642.

Mae'r fideo byr isod yn dangos sut i fynychu eich ymgynghoriad fideo.

 

Noder - gallwch ymuno â'ch apwyntiad unrhyw bryd (a phrofi'ch offer os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny). Cewch eich galw i'r ymgynghoriad pan fydd y clinigwr yn barod. Byddwch yn amyneddgar os ydym ychydig yn hwyr - bydd eich clinigwr yn gwybod eich bod yn aros.

Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'r apwyntiad galwad fideo, cyfeiriwch at ein hadran "Cwestiynau Cyffredin," "Cael trafferth" ac "Adnoddau" isod.

    Dilynwch ni ar:
    Rhannwch: