Bydd teleiechyd yn dod yn nodwedd gyffredin o ran gofal a chymorth i’n cleifion yng ngorllewin Cymru.
Bydd yn rhoi nifer o fanteision i chi a'n gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, megis:
- monitro eich iechyd yn gyfleus yn eich cartref eich hun. Mae hyn yn ychwanegu at y gofal a gynigir eisoes gan eich meddyg teulu/nyrs ac arbenigwyr;
- y gallu i ddatgelu unrhyw broblemau â'ch iechyd yn gynnar;
- lleihau'r angen i chi fynd i apwyntiadau cleifion allanol;
- sicrhau cyfathrebu rheolaidd â'ch gweithwyr iechyd proffesiynol, drwy negeseuon testun ac ymgynghoriad fideo.