Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth cyfathrebu ychwanegol

Relay UK

Os ydych chi'n F/fyddar ac yn drwm eich clyw neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid cenedlaethol. Mae Relay UK yn wasanaeth hawdd ei ddefnyddio sy’n helpu pobl F/fyddar, neu â nam a’u lleferydd neu glyw i siarad â’i gilydd dros y ffôn gan ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid. Gallwch ddarganfod mwy am Relay UK trwy ymweld â'u tudalen we yma (yn agor mewn dolen newydd). Os oes angen i chi gysylltu ag un o'n swyddfeydd gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun hwn, ffoniwch 18001 cyn y rhif ffôn yr hoffech gysylltu ag ef.
 

Cymorth Cyfieithu Iaith

Os oes angen BSL neu gyfieithydd iaith arall arnoch ar gyfer eich apwyntiad neu os ydych yn pryderu na fydd cyfieithydd wedi'i drefnu, cysylltwch â'r adran sy'n darparu eich apwyntiad. Sylwch, rhaid i bob cais cyfieithu ar y pryd gael ei wneud ar eich rhan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Cymorth Cyfathrebu a Gwybodaeth Arall

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae gennych yr hawl i gyfathrebu a gwybodaeth hygyrch pryd bynnag y byddwch yn defnyddio ein gwasanaethau gofal iechyd.

Er mwyn helpu i allu darparu'r cymorth cywir:

  • Dywedwch wrth feddygon, nyrsys, parafeddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sut yr ydych am i staff gyfathrebu â chi;
  • Gofynnwch am gael gwybodaeth mewn fformat hygyrch gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu'ch dewis iaith, print bras, sain, electronig neu Braille;
  • Rhannwch eich pryderon gyda'ch meddygfa neu ysbyty os nad yw'r wybodaeth a gewch yn hygyrch i chi.

Dywedwch wrthym beth yw eich profiad trwy gysylltu â'n Gwasanaeth Cymorth Cleifion (yn agor mewn dolen newydd).

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: