Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, wedi llunio’r hyn sy’n cael ei alw’n Gynllun Cyhoeddi Enghreifftiol ar gyfer yr holl sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Hefyd, mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi dogfen ddiffinio ar gyfer sefydliadau’r GIG sy’n nodi’n fanwl ei ddisgwyliadau lleiaf mewn perthynas â’r Bwrdd Iechyd Prifysgol.
Cliciwch yma i weld Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol (PDF, 294KB)
Cliciwch yma i weld Ddogfen Ddiffinio ar gyfer Sefydliadau’r GIG (PDF, 162KB)
Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi datblygu canllaw i’n gwybodaeth ni sy’n pennu’r math o wybodaeth mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn ei chynhyrchu a’r prosesau penderfynu cysylltiedig sydd ar gael yn gyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o wybodaeth sydd gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol ar gael yn rheolaidd a gellir cael gafael arni trwy'r wefan hon gan ddefnyddio'r blwch chwilio. Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru’n rheolaidd.
Yn gyffredinol mae gwybodaeth sydd ar gael trwy’r Cynllun Cyhoeddi yn rhad ac am ddim, er y gallai’r Bwrdd Iechyd Prifysgol godi ffi os oes angen copi caled neu os oes angen ei chopïo i gyfrwng arall.