Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Iechyd a Diogelwch (HSC)

Rhoi sicrwydd ynghylch trefniadau Bwrdd Iechyd y Brifysgol ar gyfer sicrhau iechyd, diogelwch, lles a sicrwydd yr holl gyflogeion, yn ogystal â'r rheiny y gallai gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r gwaith effeithio arnynt, er enghraifft cleifion, aelodau o'r cyhoedd, gwirfoddolwyr, contractwyr, ac ati.

Cynghori a sicrhau'r Bwrdd ynghylch a oes trefniadau effeithiol ar waith i sicrhau cydymffurfedd ledled y sefydliad â Pholisi Iechyd a Diogelwch y Bwrdd Iechyd, cymeradwyo a monitro cyflawniad yn erbyn y Cynllun Gwella Blaenoriaeth Iechyd a Diogelwch, a sicrhau cydymffurfedd â'r Safonau perthnasol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru.

Lle y bo'n briodol, bydd y Pwyllgor yn cynghori'r Bwrdd ar le a sut y gellir cryfhau a datblygu ei reolaeth o ran iechyd a diogelwch ymhellach.

Rhoi cyngor ar gydymffurfedd â phob agwedd ar ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.

O ran ei rôl i ddarparu cyngor i'r Bwrdd, bydd y Pwyllgor yn gwneud sylwadau penodol ar ddigonolrwydd trefniadau a phrosesau sicrwydd ar gyfer darparu swyddogaeth Iechyd a Diogelwch effeithiol sy'n cwmpasu:

  • Iechyd a Diogelwch Staff (i gynnwys unrhyw ganlyniadau lles yng nghyd-destun iechyd a diogelwch)
  • Iechyd a Diogelwch Adeiladau
  • Trais ac Ymddygiad Ymosodol (gan gynnwys Strategaeth Gweithio ar eich Pen eich Hun a Diogelwch)
  • Diogelwch Rhag Tân
  • Asesu Risg
  • Codi a Chario
  • Iechyd, Lles, Sylweddau Peryglus, Amgylchedd Diogelwch
  • Iechyd a Diogelwch Cleifion – Yr Amgylchedd, Cwympiadau Cleifion, Codi a Chario Cleifion

Manylir ar rôl lawn y Pwyllgor yng Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch (PDF 634KB, agor mewn dolen newydd)

Cliciwch yma i weld cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch cymeradwy (agor mewn dolen newydd)

Cliciwch isod i gael mynediad at bapurau cyfarfodydd y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.

2023

2022

2021

2020

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: