Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Cyllid (FC)

Diben y Pwyllgor Cyllid yw gwneud y canlynol:

  • Craffu ar ganlyniadau ariannol a refeniw'r gwaith o gynllunio buddsoddiad (mewn perthynas â chynaliadwyedd byrdymor a hirdymor, fel ei gilydd), a darparu trosolwg ohonynt.
  • Adolygu perfformiad ariannol ac unrhyw feysydd sy'n peri pryder ariannol, yn ogystal ag adrodd amdanynt wrth y Bwrdd.
  • Ar ran y Bwrdd, cynnal archwiliad manwl o bob agwedd ar y perfformiad ariannol, y goblygiadau ariannol mewn perthynas â phrif achosion busnes, y prosiectau, a'r penderfyniadau buddsoddi arfaethedig.
  • Adolygu contractau yn rheolaidd, a hynny ar y cyd â phartneriaid cyflawni allweddol.
  • Rhoi sicrwydd mewn perthynas â pherfformiad ariannol, ynghyd â'r broses o'i gyflawni, a hynny yn erbyn cynlluniau ac amcanion ariannol y Bwrdd Iechyd. At hyn, yn achos rheolaeth ariannol, rhoi rhybudd cynnar mewn perthynas â materion perfformiad posibl ac argymell camau gweithredu, er mwyn sicrhau bod sefyllfa ariannol y sefydliad yn gwella'n barhaus, gan ganolbwyntio mewn manylder ar faterion penodol lle y mae'r perfformiad ariannol yn dirywio, neu lle mae yna feysydd sy'n peri pryder.

Mae manylion swyddogaeth lawn y Pwyllgor Cyllid i’w gweld yn y Cylch Gorchwyl Pwyllgor Cyllid (PDF, 835KB)

Cliciwch isod i gael mynediad at papurau'r Pwyllgor Cyllid. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.

2021

2020

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: