Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch at ddiben trefnu profion gwrthgyrff ar gyfer COVID-19. Profion ar gyfer gweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a gweithwyr ym maes Gofal Sylfaenol yw’r rhain ar hyn o bryd ond byddant yn cael eu hehangu i gynnwys sectorau eraill maes o law.
Mae deddfau sy’n bodoli’n barod, sy’n caniatáu i wybodaeth bersonol gael ei defnyddio a’i rhannu’n briodol ac yn gyfreithlon yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus, yn cael eu defnyddio yn ystod y pandemig hwn. Mae prosesau diogelu data ar waith i’n galluogi i ddarparu’r wybodaeth gywir i’r sefydliadau cywir er mwyn sicrhau bod gwasanaethau priodol yn gallu cael eu rhoi ar waith wrth i’r pandemig ddatblygu. Byddwn yn sicrhau bod y mesurau diogelu priodol ar waith wrth ymdrin ag unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chasglu, ei defnyddio neu’i rhannu a byddwn yn ymdrin â’r wybodaeth honno’n unol â mesurau rheoli llym sy’n bodloni gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Mae’r hysbysiad hwn yn disgrifio sut y gallai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddefnyddio eich gwybodaeth er mwyn eich gwarchod chi a gwarchod pobl eraill yn ystod y pandemig Covid-19. Mae'n ategu ein Hysbysiadau Preifatrwydd llawn (agor mewn dolen newydd) sydd ar gael.
Dyma’r seiliau cyfreithlon dros brosesu’r wybodaeth hon: