Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Cyhoeddus - Cyfarfod y Bwrdd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol - 30 Gorffennaf 2020

Bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd y Brifysgol yn cael ei gynnal ddydd Iau 30 Gorffennaf 2020 am 9.30am gyda Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) i ddilyn am 3.00pm yn yr Ystafell Fwrdd, Adeilad Ystwyth, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3BB

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso i aelodau'r cyhoedd ei mynychu a'i arsylwi fel rheol. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r cyngor a'r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19) byddem yn gofyn i aelodau'r cyhoedd beidio â mynychu'r cyfarfod hwn o'r Bwrdd yn bersonol. Byddwn yn cynnal y cyfarfodydd hyn yn fyw trwy Ddigwyddiad MS Teams - gellir ei weld trwy'r ddolen ganlynol i wefan BIPHDd ar ddiwrnod y cyfarfodydd:
Cyfarfodydd y bwrdd 2020

Mae copïau electronig o’r papurau ar gael ac yn hygyrch i’w lawrlwytho o wefan Bwrdd Iechyd y Brifysgol 6 diwrnod cyn y cyfarfod drwy’r ddolen uchod.

Gellir sicrhau bod yr agendâu a'r papurau ategol ar gael mewn fformat gwahanol os oes angen (ee print bras) trwy gysylltu ag Ysgrifennydd y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3BB neu drwy e-bost i: joanne.wilson4@wales.nhs.uk, ffôn 01267 239644

Gellir cyflwyno cwestiynau ar gyfer Sesiwn Holi ac Ateb y CCB trwy:

Maria Battle, Cadeirydd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: