Is-Gadeirydd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB
01267 235151
Is-Gadeirydd
Cefais fy mhenodi’n Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Chwefror 2024. Mae iechyd a lles ein cymunedau yn arbennig o bwysig i mi. Rwyf wrth fy modd y byddaf yn gallu chwarae rhan wrth lunio sut yr ydym yn diwallu anghenion ein cymunedau lleol yn awr ac yn y dyfodol. Fel un o drigolion sir Gaerfyrddin, rwyf wedi ymrwymo i waith ein bwrdd iechyd ac i’w weld yn llwyddo.
Rwy’n arweinydd profiadol ac, yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi dal nifer o uwch swyddi ar draws ystod eang o sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru. Cyn ymuno â Hywel Dda, fy rôl ddiweddaraf oedd Cyfarwyddwr Cymru yn Ofcom, rôl a ddaliais ers 2018.
Mae fy rolau blaenorol yn cynnwys uwch swyddi o fewn Llywodraeth Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Yn ystod fy amser yn Llywodraeth Cymru, cefnogais banel o arbenigwyr yn eu hadolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rwy'n aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yn ymddiriedolwr yn Prime Cymru, ac yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol er Annog y Celfyddydau, Cynhyrchwyr a Masnach (RSA).
Yn fy amser hamdden rwy'n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, yn enwedig chwarae golff, cerdded a bod yn ddeiliad tocyn tymor y Scarlets.