Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Dirprwy a Dirprwy Brif Weithredwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB
01267 235151
Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Dirprwy a Dirprwy Brif Weithredwr
Rwyf wedi gweithio i Hywel Dda a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd ers 1993 ac wedi datblygu fy ngyrfa ym maes datblygu’r gweithlu a’r sefydliad. Cefais fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn 2015 ac ymgymerais â’r cyfrifoldeb ychwanegol fel Dirprwy Brif Weithredwr dros dro ym mis Chwefror 2024. Fy rôl flaenorol o fewn y bwrdd iechyd oedd cyfarwyddwr cynorthwyol y gweithlu a datblygu sefydliadol (moderneiddio a chynllunio’r gweithlu).
Rwy’n falch iawn o gyflawniadau ein staff ar draws y bwrdd iechyd. Yn y gweithlu a datblygu sefydliadol rydym yn gweithio i gefnogi ein staff sydd yn y pen draw yn cefnogi ac yn gofalu am ein cleifion. Er bod y GIG yn gweithredu mewn cyfnod anodd, a chyda phrinder cenedlaethol yn y gweithlu, rwy’n falch y gallwn ddenu pobl dalentog i ymuno â’n timau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Mae ein dull arloesol o recriwtio a datblygu staff, ynghyd â’n Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd wedi dangos ein hymrwymiad i’n cymunedau lleol.
Rwy’n annog unrhyw un sy’n dymuno datblygu gyrfa foddhaus o fewn y GIG i edrych ar yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael yn Hywel Dda. Gweithio i ni (Agor mewn dolen newydd)