Neidio i'r prif gynnwy
Lee Davies - Cyfarwyddwr Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol
Lee Davies

Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

Lee.Davies3@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio

Ers 18 mlynedd dwi wedi gweithio yn GIG Cymru, ar ôl ymuno’n wreiddiol fel rhan o’r Cynllun Datblygu Arweinyddiaeth i Raddedigion ar ôl astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd ganddo swyddi rheoli gweithredol yn Ymddiriedolaeth GIG Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg cyn ymgymryd â rôl gwella perfformiad gydag Uned Cyflenwi a Chefnogi GIG Cymru. Yn 2013, ymunais â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gan gymryd swydd gynllunioyn 2015, gan ddod yn Gyfarwyddwr Cynllunio Gweithredol dair blynedd yn ddiweddarach.

Trwy gydol fy ngyrfa, dwi wedi ennill cyfoeth o brofiad o weithio gyda thimau clinigol a chydweithio ar draws sefydliadau i sicrhau trawsnewider budd gofal cleifion. Enghraifft ddiweddar o hyn oedd sefydlu CAV 24/7, dull newydd ac arloesol o sut mae cleifion yn cael mynediad at ofal brys o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae gen i ddiddordeb arbennig hefyd yn y defnyddo ddata a dadansoddeg i gefnogi gwella ac ailgynllunio gwasanaethau.

Dwi'n byw yn Llangennech ac mae wedi byw trwy gydol fy oes yn ardal Hywel Dda ar ôl cael fy ngeni a fagu ym Mhorth Tywyn. Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â theulu Hywel Dda wrth i ni edrych ymlaen at amseroedd gwell ar ôl y cyfnod anodd hwn i’r GIG a’n cymunedau. Mae’n fraint arbennigcael y cyfle i lunio gwasanaethau iechyd a gofal yn fy mwrdd iechyd lleol ac i wireddu’r uchelgeisiau a nodir yn‘ Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach’.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: