Neidio i'r prif gynnwy
Mandy Rayani - Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf
Mandy Rayani

Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

mandy.rayani@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf

Rwyf wedi gweithio mewn ystod amrywiol o rolau nyrsio yn y GIG a Llywodraeth Cymru yn ystod fy ngyrfa sydd hyd yma wedi rhychwantu 36 mlynedd. Ar ôl hyfforddi yn Abertawe fel nyrs iechyd meddwl, euthum ymlaen i arbenigo i ddechrau mewn gofal pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl cyn ymgymryd â rôl uwch arweinyddiaeth ar draws yr is-adran iechyd meddwl yn ogystal ag arwain nifer o fentrau traws-ymddiriedolaeth.

Yn 2005, fel Nyrs Ranbarthol Llywodraeth Cymru ar gyfer canol a gorllewin Cymru, bûm yn gweithio fel aelod o'r tîm perfformiad rhanbarthol, gan ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i sefydliadau'r GIG ar yr agenda llywodraethu ansawdd clinigol. Yn dilyn hyn treuliais saith mlynedd brysur ond boddhaus fel dirprwy gyfarwyddwr nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro cyn ymgymryd â rôl prif nyrs, gan ddarparu arweinyddiaeth i nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHP) yn Ymddiriedolaeth GIG Solent, a leolir yn Southampton.

Pan gododd y cyfle yn 2017 i ddod i weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, gwireddwyd y freuddwyd! Er y bu llawer o uchafbwyntiau yn ystod y ddwy flynedd a mwy diwethaf, rwy'n arbennig o falch o gyflwyno'r rhaglen Galluogi Gwella Ansawdd mewn Ymarfer (EQIiP) a chynnal cynhadledd nyrsio a bydwreigiaeth gyntaf y Bwrdd Iechyd yn 2019.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: