Neidio i'r prif gynnwy
Joanne Wilson

Cyfarwyddwr Llwyodraethu Corfforaethol (Ysgrifenyddes y Bwrdd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

joanne.L.wilson@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Llwyodraethu Corfforaethol (Ysgrifenyddes y Bwrdd

Cefais fy mhenodi i rôl Ysgrifennydd y Bwrdd ym mis Ionawr 2016. Mae’r rôl hon yn hanfodol wrth ddwyn y sefydliad i gyfrif wrth weithredu ei werthoedd a fi yw ‘cwnsler doeth’ y bwrdd ar bob mater llywodraethu a chywirdeb. Cyn hyn roeddwn yn gyfarwyddwr cynorthwyol llywodraethu corfforaethol ar gyfer y bwrdd iechyd am bedair blynedd. Dechreuais fy ngyrfa fel rheolwr cangen gofal cartref yn Goldsborough Homecare (rhan o BUPA) rôl a ddaliais am dros dair blynedd ac a ddatblygodd fy ngwybodaeth a'm profiad mewn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chynllunio gofal cartref ar gyfer cleientiaid gwasanaethau preifat a chymdeithasol. Cyn ymuno â'r bwrdd iechyd yn 2010, daliais rolau Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a gweithiais hefyd fel uwch archwilydd / arbenigwr gwrth-dwyll lleol am dros dair blynedd.

Mae fy nghefndir wedi'i wreiddio'n gadarn mewn llywodraethu corfforaethol, llywodraethu gwybodaeth, sicrwydd, rheoli risg, archwilio mewnol a gwrth-dwyll. Rwyf hefyd wedi ymgymryd â'r cymwysterau i ddod yn arbenigwr gwrth-dwyll ardystiedig ac mae gen i hefyd y cymwysterau ISEB mewn Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data.

Rwy’n angerddol am gryfhau’r systemau llywodraethu a sicrwydd, sicrhau bod y bwrdd yn parhau i fod yn agored, ac yn dryloyw gyda llais ein staff, cleifion a gofalwyr wedi’u hymgorffori ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r bwrdd.

Rwy'n byw yn Sir Benfro gyda fy mab a'm gŵr a thu allan i'r gwaith rwy'n mwynhau cerdded llwybr yr arfordir ac rwy'n cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau ysgol a chymuned.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: