Cyfarwyddwr Gweithredol Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB
01267 235151
Cyfarwyddwr Gweithredol Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd
Rwy’n Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd profiadol sydd wedi gweithio ers dros ddegawd mewn ystod o ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr. Fy rôl ddiweddaraf oedd Ymddiriedolaeth GIG Sandwell and West Birmingham lle bûm yn Brif Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd gyda chyfrifoldeb am iechyd perthynol a gwyddorau iechyd.
Yn wreiddiol o Lerpwl dechreuais fy ngyrfa fel parafeddyg ar ôl graddio o Brifysgol Coventry. Mae gen i radd ôl-raddedig mewn Gwyddor Parafeddygol, a enillwyd o Brifysgol Swydd Hertford. Camais i rolau arwain tra’n gweithio i Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Prifysgol Bryste ac Ymddiriedolaeth y GIG Partneriaeth Iechyd Meddwl Avon a Wiltshire cyn i mi gael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Gofal Iechyd Corfforol gyda Gofal Iechyd St Andrew’s yn Northampton.
Rwy'n parhau i weithio'n glinigol fel parafeddyg, ac rwy'n addysgu ar gyrsiau cynnal bywyd achrededig cenedlaethol ar gyfer Cyngor Dadebru (DU).
I ffwrdd o'r swyddfa, rwy'n mwynhau bod yn yr awyr agored a cherdded llwybrau arfordirol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at brofi prydferthwch arfordir Cymru.