Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB
01267 235151
Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf
Mae Hywel Dda yn gartref i mi. Mae fy nheulu a minnau yn rhan o’r boblogaeth, ac rwyf wedi gweithio o fewn gofal iechyd ers i mi orffen fy hyfforddiant ffurfiol.
Mae fy nghariad at nyrsio wedi tyfu dros y blynyddoedd. O hyfforddiant mewn nyrsio oedolion i reoli safle a darlithydd, ymgymerais hefyd â rôl pennaeth atal a rheoli heintiau. Treuliais beth amser mewn llywodraethu clinigol a rheolaeth gyffredinol, cyn dod yn nyrs cyfarwyddiaeth pan ddaeth ein sefydliadau etifeddol yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ers 2015, fel cyfarwyddwr cynorthwyol nyrsio, rwyf wedi gweithio gyda thimau ym meysydd atal a rheoli heintiau a safonau proffesiynol. Ym mis Mai 2023, roeddwn yn falch iawn o dderbyn rôl dirprwy gyfarwyddwr nyrsio, ac wrth fy modd o gael fy mhenodi i rôl Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Gofal Cleifion ym mis Ebrill 2025, swydd y bues ynddi dros dro ers Ionawr 2024.