Neidio i'r prif gynnwy
Huw Thomas

Cyfarwyddwr Cyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

huw.thomas6@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Cyllid

Fi yw Cyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda chyfrifoldeb am ddigidol a pherfformiad.

Yr wyf yn dod o Bontsian, gerllaw Llandysul ; yn dychwelyd adref i weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ôl cael profiad mewn nifer o wahanol sectorau a lleoliadau ar draws y DU. Fel rhywun sy’n cael y fraint o weithio lle cefais fy magu fel plentyn, rwy’n angerddol am y gwahaniaeth y dylem ei wneud i’n cymunedau lleol drwy ganolbwyntio ar y canlyniadau sydd o bwys i’r rhai yr ydym yn eu gwasanaethu.

Yn fy ngyrfa gynnar, bûm yn gweithio i PricewaterhouseCoopers LLP yn Llundain, Bryste a Chaerdydd. I ddechrau, roedd fy nghleientiaid yn y sector bancio cyn i mi symud ymlaen i arbenigo ar gleientiaid y GIG, awdurdodau lleol a thrydydd sector. Gweithiais i'r GIG yn Lloegr cyn symud yn ôl i Gymru.

Rwy'n aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban ac wedi gwasanaethu ar eu Cyngor Llywodraethu. Rwyf hefyd wedi bod yn ymddiriedolwr y Gymdeithas Rheolaeth Ariannol Gofal Iechyd ac wedi gwasanaethu fel cadeirydd eu cangen yng Nghymru. Ar hyn o bryd rwy'n Ymddiriedolwr y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol ac mae'n fraint cael rôl Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: