Neidio i'r prif gynnwy
Alwena Hughes-Moakes

Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

alwena.hughes-moakes@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Mae’n fraint cael arwain y timau cyfathrebu, ymgysylltu, a’r Gymraeg yn y bwrdd iechyd. Rwy’n ffodus i weithio gyda thîm brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i’n cleifion a’n staff, a llwyddiant Hywel Dda.

Rydw i wedi galw Ceredigion yn gartref i mi am y rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn. Symudais i Aberystwyth am y tro cyntaf yn y 1990au cynnar i astudio Gwyddor yr Amgylchedd yn y brifysgol ac roeddwn i wrth fy modd gyda'r hyn oedd gan canolbarth Cymru i'w gynnig. Ychydig ar ôl graddio, dychwelais i ogledd Cymru am rai blynyddoedd i weithio mewn rolau cynaliadwyedd a strategaeth gymunedol i awdurdodau lleol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cwblheais fy meistr mewn rheoli newid, ond yn fuan gwelais fod galwad canolbarth a gorllewin Cymru yn ormod!

Dychwelais i Aberystwyth yn 2004 a datblygu fy ngyrfa cyfathrebu ac ymgysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Roedd hyn yn cynnwys dal swydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Materion Cyhoeddus Prifysgol Aberystwyth.

Cyn ymuno â Hywel Dda fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu ym mis Ionawr 2022, treuliais chwe blynedd a hanner yn byw a gweithio yn y Swistir. Yno, bûm yn gweithio fel Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Gweithwyr Byd-eang i gwmni amaethyddiaeth rhyngwladol yn ei bencadlys yn Basel.

Rwy'n byw ychydig filltiroedd i'r de o Aberystwyth gyda fy ngŵr a'm merch. Ar benwythnos, fe’m canfyddir yn aml yn mwynhau Aberystwyth a’r cyffiniau. Mae gen i angerdd am deithio a phan nad ydw i’n gallu crwydro tiroedd pell dwi’n mwynhau dianc rhwng tudalennau llyfr da. Yn fy amser hamdden rwy’n ymddiriedolwr ac yn aelod o fwrdd Cyngor Llyfrau Cymru.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: