Aelod Annibynnol - Cyfreithiol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB
01267235151
Aelod Annibynnol - Cyfreithiol
Rwy’n gyfreithiwr, mewn practis yng Nghaerdydd, ac rwyf wedi gweithredu dros bobl agored i niwed, undebau llafur, elusennau, a grwpiau ymgyrchu ers blynyddoedd lawer – gan fod yn eiriolwr angerddol dros hawliau’r rhai sy’n agored i niwed, cydraddoldeb a chyfiawnder. Mae fy ngwaith wedi cynnwys cymryd rhan mewn sawl achos cyfreithiol proffil uchel, gan gynnwys ym meysydd darpariaeth iechyd ac addysg. Rwyf hefyd wedi cynrychioli unigolion mewn nifer o ymholiadau a chwestau cyhoeddus mawr.
Yn ogystal â fy rôl fel yr Aelod Annibynnol, Cyfreithiol, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rwyf hefyd yn dal rolau ar ychydig o bwyllgorau allanol. Mae’r rhain yn cynnwys bod yn aelod o bwyllgor Hawliau Dynol Cymdeithas y Cyfreithwyr, yn ddirprwy gadeirydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, ac yn aelod o banel Cadeiryddion y Tribiwnlys Prisio.
Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau dilyn nifer o wahanol chwaraeon a cherdded yng nghefn gwlad Cymru gyda fy ngwraig, gan geisio osgoi mynd ar goll.