Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg ac ar ein gwefan mewn fformatau arall fel fersiwn sain a fersiwn hawdd ei ddeall. Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael mewn ieithoedd ychwanegol (gan gynnwys Arabeg, Iaith Arwyddion Prydain, Pwyleg, Rwsieg ac Wcreineg).
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip a sut rydym yn darparu gofal iechyd sy’n ddiogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig. Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg tan 22 Gorffennaf 2025, felly mae angen i ni glywed eich barn cyn hynny. Gwiriwch ein tudalennau gwe neu ffoniwch ni i gael gwybod am ddigwyddiad yn eich ardal chi neu ddigwyddiad ar-lein. Os hoffai eich mudiad neu grŵp cymunedol wybod mwy am yr ymgynghoriad, cysylltwch â ni ar y manylion cyswllt isod. Mae mwy o wybodaeth ar dudalen 23, ond gallwch rannu eich barn yn y ffyrdd canlynol: X llenwi’r holiadur ar-lein: biphdd.gig.cymru/UMAYTP neu fel copi caled (gallwch ofyn am gopi caled trwy gysylltu â ni ar ebost neu dros y ffôn), ai bostio i: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD (nid oes angen stamp) X anfon ebost atom: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk X dod i siarad â ni yn y digwyddiadau (trowch at ein gwefan i weld digwyddiad sy’n lleol i chi neu ddigwyddiad ar-lein), neu ffoniwch ni ar 0300 303 8322 (opsiwn 5) (pris galwad leol)
Diolch am ddangos diddordeb yn ein hymgynghoriad ar sut y gallem ddarparu gwasanaethau yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli yn y dyfodol.
Rydym yn ceisio eich barn ar y model gorau ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn dilyn gostyngiad dros dro yn yr oriau agor (o 24 awr y dydd i 12 awr y dydd) a gytunwyd gan ein Bwrdd ym mis Medi 2024 ac a gyflwynwyd ar 1 Tachwedd 2024 am gyfnod o chwe mis, tra datblygwyd opsiynau ar gyfer dyfodol yr uned.
Gwnaed y newid brys a thros dro hyn i oriau agor oherwydd pryderon am ansawdd a diogelwch, a godwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Yn ogystal â’r materion diogelwch ac ansawdd, roedd diffyg meddygon ar gael i weithio dros nos yn yr uned, gan olygu bod y risg i ddiogelwch yn fwy. Bu ymdrechion i recriwtio meddygon yn genedlaethol ond ni fu’n bosibl recriwtio digon o feddygon sy’n fodlon gweithio dros nos yn yr Uned.
Gall fod yn anodd cyflwyno newidiadau dros dro a brys i wasanaethau a dim ond pan fyddwn yn teimlo nad oes gennym unrhyw ddewis arall i sicrhau diogelwch ac ansawdd ein gwasanaethau y gwneir hyn. Rydym yn ddiolchgar i’n cymunedau, a’n staff, am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y newid i oriau agor.
Ym mis Tachwedd 2024, bu’r Bwrdd yn ystyried sut y gellid datblygu’r opsiynau tymor hwy ar gyfer y model darparu gwasanaeth yn yr Uned Mân Anafiadau.
I gefnogi’r gwaith hwn, sefydlwyd tri grŵp:
Yng nghyfarfod y Bwrdd Cyhoeddus ym mis Mawrth 2025, ystyriodd ein Bwrdd a allem adfer yr oriau agor 24 awr bob dydd yn yr Uned Mân Anafiadau. Penderfynodd aelodau’r Bwrdd, yn seiliedig yn bennaf ar bwysau staffio ac nad oes rota 24 awr gadarn ar waith, na allai ddychwelyd i’r oriau agor gwreiddiol. Cytunodd y Bwrdd y dylai’r newid dros dro i oriau agor o 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos barhau hyd nes y gellir gweithredu opsiwn hirdymor.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu o’u hamser a’u hadborth i helpu i ddatblygu’r opsiynau yr ydym yn awr yn ceisio eich barn arnynt. Mae hyn yn cynnwys yr adborth a gafwyd gan aelodau o’n cymuned a fynychodd y digwyddiadau galw heibio ym mis Hydref 2024, ac yn fwy diweddar ym mis Mawrth 2025.
Nid oes unrhyw benderfyniadau am fodel y dyfodol ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau wedi’u gwneud eto ac rydym am siarad â chi – ein staff, cleifion, cymunedau ehangach, sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw a phobl sydd â diddordeb mewn iechyd a llesiant yn ein hardal.
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am yr opsiynau yn yr ymgynghoriad hwn a sut y gallent effeithio arnoch chi, neu unrhyw syniadau newydd a allai fod gennych, trwy lenwi ein holiadur erbyn 22 Gorffennaf 2025.
Neil Wooding, Cadeirydd
Yr Athro Philip Kloer, Prif Weithredwr
Mr Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw eich sefydliad GIG lleol.
Rydym yn cynllunio, yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer bron i 400,000 o bobl. Mae hyn ar draws chwarter ehangdir Cymru yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn ogystal â chymunedau ar ein ffiniau yn ne Gwynedd, gogledd Powys, ac Abertawe/Castell-nedd Port Talbot.
Mae ein cymunedau yn eithaf gwasgaredig mewn ardaloedd gwledig. Mae bron i hanner ein poblogaeth (49.10%) yn byw yn Sir Gaerfyrddin, 32.23% yn Sir Benfro a 18.7% yng Ngheredigion. Rydym yn rheoli ac yn talu am y gofal a’r driniaeth y mae pobl yn eu derbyn yn yr ardal hon ar gyfer iechyd corfforol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Ar hyn o bryd rydym yn darparu gwasanaethau drwy’r canlynol:
Mae gwasanaethau tra arbenigol, fel rhai triniaethau trawma mawr, gofal cardiaidd (y galon), triniaethau llygaid arbenigol, a llosgiadau cymhleth, yn cael eu trefnu’n bennaf drwy Gydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Gellir darparu’r gwasanaethau hyn y tu allan i’n hardal, er enghraifft yn Abertawe, Caerdydd, neu hyd yn oed y tu allan i Gymru megis ym Mryste.
Mae Unedau Mân Anafiadau yn darparu gofal ar gyfer anafiadau sydd angen sylw ar frys ond nad ydynt yn argyfwng nac yn bygwth bywyd. Maent yn tueddu i fod yn wasanaethau galw i mewn, ond gall pobl ffonio ymlaen llaw i archebu slotiau mewn rhai achosion. Yn Hywel Dda mae gennym Unedau Mân Anafiadau ym mhob un o’n hysbytai mwy, ac rydym hefyd yn darparu gwasanaethau tebyg drwy wasanaethau Gofal Argyfwng/Brys yr Un Diwrnod.
Mae’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli yn darparu gofal i oedolion a phlant dros 12 mis oed sydd â mân anafiadau fel:
Mae unedau mân anafiadau yn cael eu rhedeg gan dîm profiadol o ymarferwyr nyrsio brys, nyrsys brysbennu a gweithwyr cymorth gofal iechyd medrus ag hyfforddiant arbennig. Mae Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn uned dan arweiniad meddygon. Gall uned dan arweiniad meddyg hefyd drin cleifion sydd ag achosion mwy cymhleth o’r anafiadau a restrir uchod a phroblemau meddygol nad ydynt yn rhai brys. Nid yw Uned Mân Anafiadau yn adran Achosion Brys, dim ond mân anafiadau, fel y rhestrir uchod, y gellir eu trin.
Mae unedau mân anafiadau yn cael eu rhedeg mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai yn cael eu rhedeg gan feddygon a nyrsys, ac eraill yn cael eu rhedeg gan nyrsys.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â sut y gallem ddarparu gwasanaethau yn Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn y dyfodol.
Yn dilyn newid dros dro i oriau agor – newid o 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos – i wasanaeth 12 awr sydd ar gael rhwng 8am ac 8pm saith diwrnod yr wythnos, mae angen i ni nawr gytuno ar fodel gwasanaeth sy’n addas ar gyfer y tymor hwy.
Mae gennym bedwar opsiwn sydd wedi’u datblygu gyda’n grwpiau rhanddeiliaid yr hoffem gael eich adborth arnynt. Rydym hefyd yn agored i syniadau newydd nad ydynt wedi’u hystyried fel rhan o’r broses ddatblygu. Nid yw’r Uned Asesu Meddygol Acíwt a’r gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Tywysog Philip yn rhan o’r ymgynghoriad hwn.
Mae’r Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) yn trin cleifion meddygol sâl iawn yn Ysbyty Tywysog Philip a’i bod ar agor 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos. Nid yw’n wasanaeth galw i mewn - mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio i’r Uned Asesu Meddygol Acíwt trwy 111, 999, neu eu meddyg teulu.
Nid oedd y model gwasanaeth diweddar a oedd yn gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn gynaliadwy am sawl rheswm. Arweiniodd hyn at y newid brys a thros dro i oriau agor ym mis Tachwedd 2024.
Gellir crynhoi’r rhesymau dros y newid fel:
Yn ei gyfarfod ym mis Medi 2024, cytunodd y Bwrdd i newid oriau agor yr Uned Mân Anafiadau, a hynny dros dro. Cytunwyd hefyd i weithio gyda staff a’n cymuned i ddatblygu cyfres o opsiynau ar gyfer model gwasanaeth y dyfodol ar gyfer yr Uned.
Ym mis Tachwedd 2024, cafodd y Bwrdd adroddiad arall a oedd yn egluro’r dull o ddatblygu’r opsiynau hirdymor ar gyfer y model darparu gwasanaeth yn yr Uned Mân Anafiadau. Mae’r papur hwn hefyd ar gael yn yr adran dogfennau ategol ar ein gwefan.
Cytunodd y Bwrdd i sefydlu:
Nod y broses hon oedd nodi modelau clinigol hirdymor ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau a fyddai’n darparu gwasanaeth diogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig, i ddiwallu anghenion poblogaeth Llanelli a’r cymunedau cyfagos, yn ogystal â bodloni safonau ansawdd iechyd a gofal.
Mae proses ymgysylltu barhaus wedi’i chynnal ag amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys:
Gyda’i gilydd, ffurfiodd y cynrychiolwyr hyn y grŵp rhanddeiliaid arfarnu opsiynau a gwahoddwyd aelodau o’r gymuned leol i fynegi eu diddordeb mewn ymuno â’r grŵp. Roedd cyfanswm o 42 o bobl yn rhan o’r grŵp gwerthuso opsiynau, gan gynnwys 11 o gynrychiolwyr cymunedol a SOSPPAN.
Fel rhan o’r broses o reoli’r newidiadau i’r Uned Mân Anafiadau yn ddiogel yn dilyn y newid dros dro ac i gefnogi datblygu a sgorio opsiynau, casglwyd a chyflwynwyd data yn ystod y gweithdy terfynol i ddangos yr effaith ar yr Uned Mân Anafiadau a gwasanaethau eraill. Mae hyn yn cynnwys y galw ar wasanaethau Adran Achosion Brys yn ysbytai Glangwili a Threforys.
Roedd y data’n dangos:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran dogfennau ategol ar wefan (agor mewn dolen newydd).
Yn y broses arfarnu opsiynau, datblygwyd cyfres o opsiynau ar gyfer darparu gofal iechyd yn yr Uned Mân Anafiadau yn seiliedig ar egwyddorion gofal sy’n ddiogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig. Mae angen i’r opsiynau hefyd fodloni argymhellion adroddiad arolygu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), a amlygodd faterion diogelwch cleifion.
Cytunodd y Grŵp Llywio ar y cwmpas a’r broses ar gyfer datblygu opsiynau a gweithgareddau gwerthuso.
Cytunodd y Grŵp Llywio y dylai’r opsiynau a ddatblygwyd:
Ar yr un pryd, cytunodd y Grŵp Llywio fod y canlynol y tu allan i gwmpas datblygu’r opsiynau, ac nad ydynt yn rhan o’r ymgynghoriad hwn:
Mae’r ymagwedd hon yn seiliedig ar ymgysylltu parhaus ac mae’n galluogi unigolion i rannu gwybodaeth drwy gydol y broses i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau, hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o’r grŵp rhanddeiliaid sy’n arfarnu opsiynau. Gwnaethpwyd hyn trwy ymatebion i arolygon, sgyrsiau mewn digwyddiadau galw heibio cyhoeddus, cyfarfodydd gyda grwpiau cymunedol, a gyda’n tîm Datblygu Cymunedol ac Allgymorth.
Roedd y broses a ddilynwyd yn cynnwys:
Cam cyntaf Hydref 2024-Ionawr 2025
Ail gam Chwefror 2025 – Mawrth 2025
Roedd dau gam i’r rhan datblygu opsiynau. Roedd y cam cyntaf yn cynnwys staff sy’n gweithio yn yr Uned Mân Anafiadau, a staff o gymuned ehangach Ysbyty Tywysog Philip (gan gynnwys staff clinigol, therapïau a rheolwyr gwasanaeth), a ddatblygodd restr hir o opsiynau posibl.
Roedd yr ail gam yn cynnwys y grŵp rhanddeiliaid arfarnu opsiynau a fynychodd gyfres o weithdai i ystyried y rhestr hir o opsiynau, awgrymu opsiynau ychwanegol a llunio’r rhestr fer o opsiynau yr ydym yn ceisio eich barn arnynt yn yr ymgynghoriad hwn. Roedd y grŵp rhanddeiliaid arfarnu opsiynau yn cynnwys ein staff, aelodau Llais a SOSPPAN, a thrigolion Llanelli a oedd wedi mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r broses.
Yn ystod y cam cyntaf, a oedd yn cynnwys staff, datblygwyd rhestr hir gychwynnol o wyth opsiwn posibl gan grŵp dan arweiniad clinigol, gan gynnwys y model 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos gwreiddiol a’r model 12 awr dros dro.
Yn ystod yr ail gam, a oedd yn cynnwys aelodau o’n cymuned, cynigiwyd pedwar opsiwn arall a derbyniwyd eu bod o fewn y cwmpas, a hynny yn y sesiwn gwirio a herio rhestr hir gyda’r grŵp rhanddeiliaid arfarnu opsiynau ehangach.
Yna, adolygwyd y 12 opsiwn hyn yn erbyn meini prawf rhwystr. Meini prawf rhwystr yw’r meini prawf lleiaf y mae’n rhaid i’r opsiwn arfaethedig eu bodloni. Roedd hyn er mwyn sicrhau mai dim ond opsiynau ymarferol a chyflawnadwy a fyddai’n cael eu datblygu ar gyfer datblygiad parhaus cyn y broses o lunio rhestr fer, a oedd yn edrych yn fanylach ar yr opsiynau sy’n weddill.
Dyma’r meini prawf rhwystr, a adolygwyd gan y Grŵp Llywio ac a ddefnyddiwyd yn y sesiwn gweithdy:
Clinigol gynaliadwy – a yw’r opsiwn posibl yn glinigol gynaliadwy?
Cyflawnadwy – a ellir gweithredu’r opsiwn posibl hwn?
Hygyrch – a yw’r opsiwn posibl yn hygyrch?
Wedi’i alinio’n strategol – a yw’r opsiwn posibl yn cyd-fynd yn strategol?
Ariannol gynaliadwy – a yw’r opsiwn a ffefrir yn sicrhau ei fod yn ariannol gynaliadwy?
Rhoddwyd y pedwar opsiwn a basiodd y meini prawf rhwystr trwy’r ail sesiwn gwirio a herio. Dyma’r pedwar opsiwn:
Dyma’r wyth opsiwn a fethodd â bodloni’r meini prawf rhwystr ac na fyddent yn cael eu hystyried fel opsiynau amgen:
Er nad oes gennym opsiwn a ffefrir, cynhaliwyd ymarfer sgorio cychwynnol gyda’r grŵp rhanddeiliaid arfarnu opsiynau i ddeall a oes gwahaniaeth rhwng y pedwar opsiwn arfaethedig.
Ar ôl yr ail sesiwn wirio a herio, sgoriwyd y pedwar opsiwn ar y rhestr fer mewn sesiwn gyda’r grŵp rhanddeiliaid. Sgoriwyd yr opsiynau gan ddefnyddio cyfres o feini prawf gwerthuso a oedd yn cyd-fynd â themâu a ganfuwyd o fewn Asesiadau Effaith Ansawdd, sef: Diogel, Amserol, Effeithiol, Effeithlon, Teg a Pherson-ganolog (STEEEP).
Ar gyfer y thema ddiogel, y categorïau ar gyfer sgoriau oedd:
Ar gyfer y thema amserol, y categori ar gyfer sgoriau oedd:
Ar gyfer y thema effeithiol, y categori ar gyfer sgoriau oedd:
Ar gyfer y thema effeithlon, y categorïau ar gyfer sgoriau oedd:
Ar gyfer y thema deg, y categorïau ar gyfer sgoriau oedd:
Ar gyfer y thema person-ganolog, y categori ar gyfer sgorau oedd:
Cafodd y meini prawf arfarnu eu pwysoli yn ystod y sesiwn llunio rhestr fer derfynol a’u defnyddio i sgorio’r opsiynau.
Nesaf, rydym yn amlinellu nodweddion allweddol pob opsiwn gan ddefnyddio’r cyflwyniadau o’r opsiynau a gafodd eu rhannu yn ystod y sesiwn sgorio derfynol.
Mae’r categori coch, oren a gwyrdd yn disgrifio a yw’r data a gasglwyd yn ystod y broses yn awgrymu y bydd yr opsiwn yn bodloni’r meini prawf, er enghraifft ar staff neu gyllid.
Mae’r model hwn yn seiliedig ar yr Uned dan Arweiniad Meddyg 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos presennol, gyda dwy awr arall o staffio i ganiatáu i gleifion yn yr uned gael eu trin. Byddai hyn yn unol â model cau dros dro sydd wedi bod ar waith ers 1 Tachwedd 2024 sydd ar agor rhwng 8am ac 8pm bob dydd.
Roedd yr oriau agor yn seiliedig ar lai o bresenoldeb rhwng 8pm ac 8am, cyn i’r newid dros dro gael ei gyflwyno.
Yn yr opsiwn hwn:
Fel atgoffa,
Mae’r uned ar agor i’r cyhoedd am 14 awr; gyda dwy awr arall o staffio i ganiatáu i gleifion yn yr uned gael eu trin.
Yn yr opsiwn hwn:
Fel atgoffa,
Byddai’r uned hon ar agor am y 12 awr bresennol i ddechrau, gyda dwy awr arall o staffio i ganiatáu i gleifion yn yr uned gael eu trin. Byddai wedyn yn symud i 14 awr, gyda dwy awr arall o staffio i ganiatáu i gleifion yn yr uned gael eu trin ac yn y pen draw 24 awr yn gyffredinol. Os bydd yr opsiwn hwn yn cael ei ddewis, bydd y cyflwyno fesul cam yn cael ei ddatblygu dros amser, ond byddai ymrwymiad i ddychwelyd i fodel 24 awr, saith diwrnod yr wythnos cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ac yn ymarferol i wneud hynny.
Yn yr opsiwn hwn:
Fel atgoffa,
Byddai’r opsiwn hwn yn ffordd newydd o ddarparu’r gwasanaeth a byddai’n dwyn yr Uned Mân Anafiadau a’r gwasanaethau Gofal Brys yr Un Diwrnod ynghyd. Mae Gofal Brys yr Un Diwrnod yn darparu profion a thriniaethau i gleifion sy’n oedolion sydd â phroblemau meddygol nad oes angen eu derbyn i’r Ysbyty, a gellir cael mynediad at y gwasanaeth trwy feddyg teulu claf. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer gweld a thrin mwy o anafiadau/salwch sydd angen sylw ar frys ond nad ydynt yn argyfwng nac yn bygwth bywyd, nag y mae’r gwasanaeth presennol yn ei gynnig.
Mae gwasanaethau Gofal Brys yr Un Diwrnod yn darparu gofal ar unwaith ar gyfer salwch nad yw’n bygwth bywyd, a hynny ar yr un diwrnod y mae angen help arnoch. Gall gweithwyr proffesiynol eraill atgyfeirio cleifion at y gwasanaeth, neu gallant fynychu ar y diwrnod. Gallant wneud diagnosis a delio â llawer o’r problemau cyffredin gan gynnwys mân anafiadau a welir fel arfer mewn Uned Mân Anafiadau, yn ogystal â mân salwch.
Gall cleifion gael eu hasesu, eu diagnosio, a’u trin ac yna gallant ddychwelyd adref yr un diwrnod. Efallai y rhoddir cynllun gofal iddynt sy’n cynnwys atgyfeiriadau i wasanaethau eraill os oes angen. Bydd y gwasanaethau hyn hefyd yn datblygu cysylltiadau â gwasanaethau cymunedol fel y gall cleifion gael profion a thriniaethau ar gyfer rhai cyflyrau, gan osgoi’r angen i ddod i’r ysbyty.
Yn yr opsiwn hwn:
Fel atgoffa,
Y sgorau a ddangosir yw’r sgorau wedi’u pwysoli ar gyfer pob maen prawf ac maent yn dangos nad oes llawer o wahaniaeth rhwng cyfanswm sgoriau’r ddau opsiwn a gafodd y sgôr uchaf. Mae dadansoddiad o’r sgorau opsiwn yn ôl meini prawf yn rhoi mwy o fanylion rhwng yr opsiynau. Roedd y sgoriau ar gyfer yr opsiynau fel a ganlyn:
Opsiwn 1: uned 12 awr dan arweiniad meddyg
Cyfanswm – 11908
Opsiwn 2: uned 14 awr dan arweiniad meddyg
Cyfanswm – 11051
Opsiwn 3: uned dan arweiniad meddyg – fesul cam
Cyfanswm – 9650
Opsiwn 4: canolfan gofal/ triniaeth ‘Brys’ 14 awr
Cyfanswm – 11969
O ystyried bod pob opsiwn yn eithaf tebyg yn eu sgorau, rydym yn awyddus i glywed eich barn ar y pedwar opsiwn. Gallai’r wybodaeth sgorio uchod eich helpu i benderfynu pa opsiwn sy’n bodloni amcanion yr ymghynghoriad orau yn eich barn chi.
Rydym wedi datblygu pedwar opsiwn ar gyfer sut rydym yn meddwl y gellid darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae rhai pethau yr un peth ar gyfer pob un o’r pedwar opsiwn, ond mae yna hefyd elfennau newydd ac unigryw ar gyfer pob opsiwn.
Nid oes gennym opsiwn a ffefrir, ac rydym hefyd yn agored i glywed unrhyw syniadau newydd a allai fod gennych sydd o fewn cwmpas yr ymgynghoriad ac nad ydynt eisoes wedi’u hystyried a’u diystyru drwy’r broses datblygu opsiynau. Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau a gafodd eu diystyru yn ystod y broses ar dudalen 12 (agor mewn dolen newydd) ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dogfennau technegol sydd ar gael ar ein gwefan (agor mewn dolen newydd).
Dyma’r pedwar opsiwn yr hoffem gael eich barn arnynt:
Opsiwn 1 - Gwasanaeth dan arweiniad meddyg ar gael bob dydd am 12 awr
Opsiwn 2 - Gwasanaeth dan arweiniad meddyg ar gael bob dydd am 14 awr
Opsiwn 3 - Gwasanaeth fesul cam dan arweiniad meddyg ar gael bob dydd, i ddechrau am 12 awr, gan gynyddu i 14 awr, ac yna i 24 awr
Opsiwn 4 - Canolfan gofal brys (model math Gofal Brys yr Un Diwrnod) ar gael bob dydd am 14 awr.
Rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn cymryd yr amser i rannu eich barn. Rydym yn ymgynghori â phob aelod o staff, y cyhoedd sy’n byw yn Llanelli neu’n gweithio yno, neu sydd â diddordeb yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau partner a rhanddeiliaid.
Rydym yn cydnabod bod gan bobl ddiddordebau a safbwyntiau gwahanol.
Gallwch chi fod yn:
Mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar farn pawb.
Mae arnom angen ateb cynaliadwy ar gyfer sut rydym yn darparu gwasanaethau yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip. Mae llawer o waith wedi’i wneud i ddatblygu pedwar opsiwn ar gyfer yr ymgynghoriad. Ar hyn o bryd nid oes gennym opsiwn a ffefrir o ran sut y dylid darparu gwasanaethau yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn y dyfodol.
Yn yr ymgynghoriad hwn rydym yn gofyn i chi ddweud y canlynol wrthym:
Bydd aelodau’r Bwrdd yn ystyried y cyfan y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau unrhyw effaith negyddol. Byddant hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a allai ddod i’r amlwg oherwydd yr ymgynghoriad hwn.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod bod yr ymgynghoriad yn benodol i drafod model gwasanaeth y dyfodol ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip. Mae hyn yn golygu nad yw’r gwasanaethau canlynol yn agored i ddylanwad fel rhan o’r ymgynghoriad hwn:
Gall newid gwasanaethau iechyd a gofal gael effaith ar bob un ohonom sy’n byw neu’n gweithio yn ardal Hywel Dda, waeth beth fo’n hoedran, rhyw, anabledd (corfforol, iechyd meddwl, ac anableddau dysgu), hil, crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, neu statws beichiogrwydd a mamolaeth.
Rhaid inni sicrhau bod ein cynigion yn deg i bawb a chymryd gofal arbennig i ystyried pobl sy’n agored i niwed. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â rhai grwpiau sy’n cynrychioli pobl agored i niwed a byddwn yn parhau i wneud hynny i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys drwy gydol ein hymgynghoriad.
Rydym wedi cynhyrchu’r hyn a elwir yn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EqIA) ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip. Mae’r Asesiad yn cynnwys trosolwg o effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl y newid ar bobl, a sut y byddwn yn eu lliniaru ac yn mynd i’r afael â’n dyletswyddau cydraddoldeb.
Gallwch ddarllen mwy yn fersiwn gyfredol lawn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn adran Dogfennau Ategol ein tudalen we (agor mewn dolen newydd). Mae gennym ddogfen ategol a all roi enghreifftiau i chi o sut y gallai’r gwahanol opsiynau effeithio ar rywun fel chi neu’ch anwyliaid.
Nid yw’r Teulu Jones a’u ffrindiau yn deulu go iawn, ond maent yn enghreifftiau nodweddiadol o rai pobl sy’n byw yn ein hardal. Gallant helpu i ddangos sut y gallai cleifion gael eu heffeithio gan wahanol opsiynau yn yr ymgynghoriad hwn a gallent eich helpu i feddwl am newidiadau posibl i chi.
Gallwch ddarllen ein hastudiaethau achos Teulu Jones sydd ar gael yn yr adran Dogfennau Ategol ar ein tudalennau gwe (agor mewn dolen newydd). Byddwn yn siarad am senarios mewn digwyddiadau cymunedol y byddwn yn eu cynnal yn ystod yr ymgynghoriad hwn. Rydym hefyd yn bwriadu cynnal grwpiau ffocws gyda’r cyhoedd, ac yn arbennig gyda grwpiau agored i niwed neu ddifreintiedig (y cyfeirir atynt fel pobl â nodweddion gwarchodedig) neu bobl y gallai’r newidiadau hyn i wasanaethau effeithio arnynt. Bydd gwybodaeth o’r grwpiau hyn yn cael ei defnyddio yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wrth i ni ddysgu mwy.
Defnyddir Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau wrth ystyried datblygiadau yn y dyfodol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth fanwl, mae croeso i chi gysylltu: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
Gall rhai pobl â nodwedd warchodedig fod yn fwy difreintiedig neu wynebu mwy o anawsterau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl rhag cael eu trin yn waeth na phobl eraill oherwydd:
Mae ein Hasesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb hefyd yn ystyried yr effeithiau posibl y gall unigolion eu cael o ganlyniad i fod yn rhan o gymuned y Lluoedd Arfog, sefyllfa gymdeithasol a/neu economaidd person, yn gymdeithasol-economaidd a’r iaith Gymraeg.
Yn ein polisïau a sut rydym yn gweithio, rhaid inni:
Rydym hefyd yn anelu at y canlynol:
Gall newid y ffordd y mae ein gwasanaethau’n gweithredu achosi i bobl â nodwedd warchodedig brofi effeithiau cadarnhaol, a/neu negyddol, canlyniadau anfwriadol, neu fylchau yn y ddarpariaeth gofal iechyd. Byddwn yn archwilio ymhellach, yn ystod yr ymgynghoriad hwn, y gwahaniaethau posibl a achosir gan bob un o’r opsiynau. Byddwn hefyd yn dangos sut y gellid osgoi neu leihau effeithiau negyddol yn ogystal â gwneud y mwyaf o effeithiau cadarnhaol.
Mae llawer yn yr ardal a gwmpesir gan Hywel Dda, 45%, yn siarad Cymraeg, sy’n nifer uwch na’r cyfartaledd o gymharu â’r cyfartaledd ar draws Cymru. Rydym yn parhau i wneud cynnydd tuag at gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg statudol, gan sicrhau bod pob cyfathrebiad, gan gynnwys digidol, print ac arwyddion, yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda’r Gymraeg ddim yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ymdrechwn i hyrwyddo amgylchedd dwyieithog i chi a’n staff a chefnogi ein staff i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn ein gweithleoedd a’n cymunedau. Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod pobl yn cael cynnig gwasanaethau yn Gymraeg heb orfod gofyn, fel y disgrifir yng nghynllun Mwy Na Geiriau Llywodraeth Cymru.
Mae gennym darged i sicrhau bod gan 50% o’n gweithlu lefel sylfaen o Gymraeg o fewn y 10 mlynedd nesaf ac rydym yn adrodd ar ein cynnydd trwy ein Hadroddiad Blynyddol Iaith Gymraeg sydd i’w weld ar ein gwefan.
Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Gydreddoldeb llawn yn rhoi rhagor o fanylion am sut y gallai’r newidiadau i wasanaethau effeithio ar y Gymraeg, ond byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ac adborth arall.
Yn y ddogfen hon, rydym wedi nodi’r cefndir, pam mae angen inni newid, a’r opsiynau yr ydym yn ymgynghori arnynt. Ceir disgrifiad llawn o’r pedwar opsiwn yma (agor mewn dolen newydd).
Mae eich adborth, ynghyd â thystiolaeth ac ystyriaethau eraill gyda’n helpu ein Bwrdd i ddewis yr opsiwn gorau ar gyfer model gwasanaeth y dyfodol yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y flwyddyn (disgwylir i hyn fod tua diwedd 2025) i benderfynu ar yr opsiwn mwyaf priodol.
Bydd gwybodaeth ar sut i gymryd rhan a rhannu eich barn ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ein hysbytai a’n safleoedd cymunedol, adeiladau’r cyngor a thrwy sefydliadau’r sector gwirfoddol.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau galw heibio, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae manylion am ble a phryd y byddwch yn gallu dod i gwrdd â ni ar ein gwefan (agor mewn dolen newydd) ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda’r cyfryngau lleol, gan gynnwys sefydliadau radio a’r wasg i godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad hwn.
Rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn cymryd yr amser i rannu eich barn – mae mewnbwn pob person yn bwysig. Cymerwch amser i ddarllen y ddogfen hon a dywedwch wrthym beth yw eich barn erbyn 22 Gorffennaf 2025.
Gallwch wneud hyn drwy:
Bydd yr adborth a gawn gan unigolion yn ddienw. Gall safbwyntiau a ddarperir gan sefydliadau neu bobl sy’n gweithredu mewn swyddogaeth swyddogol gael eu cyhoeddi’n llawn.
Bydd ein hadroddiad dadansoddi ac allbwn yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod o’r Bwrdd Cyhoeddus a bydd ar gael ar ein gwefan. Bydd hwn yn cael ei rannu gyda Llais am eu sylwadau. Llais yw’r corff statudol annibynnol sy’n rhoi mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn casglu’r data a gyflwynwch fel gwybodaeth hanfodol er mwyn i ni allu cyflawni’r dasg gyhoeddus o ymgynghori â chi, a dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio’ch data personol. Bydd y Bwrdd Iechyd yn prosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn unol â’r rheoliadau diogelu data diweddaraf. Bydd y Bwrdd Iechyd yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir am ddim mwy na blwyddyn ar ôl i unrhyw benderfyniadau gael eu cwblhau.
Bydd themâu cyffredinol a godir gan gymunedau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd, ond nid gwybodaeth bersonol, yn cael eu casglu fel y gellir cynnwys y rhain yn yr adroddiad allbwn.
I gael ein datganiad preifatrwydd llawn gweld ein hysbysiad preifatrwydd (agor mewn dolen newydd).
Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bwysig eich diweddaru chi, yn enwedig pan fyddwch chi wedi cymryd yr amser i rannu eich barn gyda ni.
Bydd adroddiad allbwn i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi, ei ystyried yn llawn, a’i drafod fel rhan o gyfarfod Bwrdd Iechyd, a gynhelir yn ddiweddarach yn 2025.
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd yn gyhoeddus, gyda phobl naill ai’n gallu mynychu’n bersonol neu wylio’n ddigidol. Byddwn yn hysbysebu’r cyfarfod hwn ar ein gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Bydd grŵp prosiect ar gyfer yr ymgynghoriad, sy’n cynnwys staff y Bwrdd Iechyd, Llais a SOSPPAN, yn cyflwyno argymhelliad i Gyfarwyddwyr ac Aelodau Annibynnol y Bwrdd Iechyd ar y ffordd bosibl ymlaen o ran sut y gallem ddarparu gwasanaethau yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn y dyfodol. Gelwir hyn yn adroddiad terfynol.
Bydd aelodau’r Bwrdd yn ystyried popeth y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a dogfennau a data ategol eraill yr ydym wedi’u casglu ac y cyfeiriwyd atynt yn y ddogfen hon. Fe fyddan nhw hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a allai ddod i’r amlwg o’r ymgynghoriad.
Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad allbwn a’r adroddiad terfynol ar ein gwefan, a byddwn yn cyhoeddi’n swyddogol pan fydd ar gael.
Byddwn yn rhannu’r adroddiadau hyn mor eang â phosibl â phobl sy’n byw yn ein hardal sydd wedi gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a thrwy ddefnyddio diweddariadau drwy randdeiliaid allweddol, y cyfryngau lleol, a’r cyfryngau cymdeithasol.
Os hoffech gael y diweddariadau hyn, ymunwch â’n cynllun cynnwys ac ymgysylltu Siarad Iechyd / Talking Health drwy: