Neidio i'r prif gynnwy

Dogfennau Ymgynghori

Mae siapiau hecsagon yn cynnwys pobl ac eiconau gwasanaeth clinigol.

Gallwch lawrlwytho copi o'r ddogfen ymgynghori i'w hargraffu yma (agor mewn dolen newydd).

Gallwch lawrlwytho copi o'r ddogfen ymgynghori gryno i'w hargraffu yma (agor mewn dolen newydd).

Diolch am eich diddordeb yn ein hymgynghoriad ynghylch sut y gellid darparu naw gwasanaeth gofal iechyd clinigol mewn ysbytai a chyfleusterau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.

Mae hwn yn amser i ni gydweithio i benderfynu ar gyfran a chwmpas gwasanaethau yn y dyfodol ar draws y tair sir, gan sicrhau gwasanaethau diogel o ansawdd uchel neu ofal iechyd fforddiadwy yn y dyfodol.

Bydd y newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud yn canolbwyntio ar fuddiannau gorau pobl gorllewin Cymru a’u profiad fel cleifion.

Mae ein trafodaethau cychwynnol a’n hymgysylltiad â chymunedau wedi dylanwadu ar gynnwys y ddogfen hon ac wedi ein helpu i ddeall beth sydd bwysicaf i bobl pan fyddant yn cael mynediad at ofal iechyd.

Ni fydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud nes i ni roi i bawb - ein staff, cleifion, cymunedau ehangach, sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw, a phobl sydd â diddordeb mewn iechyd a llesiant yn ein hardal.

Gallwch wneud hyn trwy lenwi ein holiadur. Rydym yn cydnabod bod ymgysylltu â chi ar naw maes gwasanaeth yn gymhleth, ond rydym am i chi wybod mai dim ond ar y meysydd hynny sydd o ddiddordeb i chi y gallwch ymateb os dymunwch.

Edrychwn ymlaen hefyd at eich cyfarfod mewn digwyddiadau yn y dyfodol, ar-lein ac wyneb yn wyneb yn y gymuned. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon neu awgrymiadau, byddwn yn hapus iawn i wrando arnoch. Mae eich barn yn bwysig i ni.

Yn y ddogfen hon, rydym yn nodi: 

  • pam y mae angen i ni newid y dull o ddarparu’r naw gwasanaeth hyn 
  • yr hyn yr ydym wedi’i wneud hyd yma, a pham yr ydym wedi awgrymu’r opsiynau dan sylw 
  • manylion am yr opsiynau a gwybodaeth arall y mae’n bosibl y byddwch am ei hystyried wrth lunio eich barn 
  • y modd y gallwch gymryd rhan a’r hyn y byddwn yn ei wneud â’r adborth a rennir gennych.

Ar hyn o bryd, nid oes gennym opsiynau a ffefrir yn naw maes gwasanaeth yr ymgynghoriad hwn. Er mai dim ond un opsiwn a gyflwynir ar gyfer wroleg, nid hwn yw’r opsiwn a ffefrir a byddwn yn croesawu syniadau newydd gan bobl.

Yn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn gofyn i chi ddweud y canlynol wrthym: 

  • pa opsiynau, yn eich barn chi, a fyddai’n gallu mynd i’r afael orau ag elfennau bregus ein gwasanaethau, gwella safonau, neu leihau amseroedd aros 
  • unrhyw bryderon a allai fod gennych ynghylch yr opsiynau, neu’r effeithiau y byddant yn eu cael yn eich barn chi 
  • syniadau a allai fod gennych ynghylch rôl ein hysbytai yn y dyfodol 
  • unrhyw beth arall y mae angen i ni ei ystyried, yn eich barn chi, yn cynnwys opsiynau neu syniadau eraill a allai fod gennych.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: