Neidio i'r prif gynnwy

Darlleniadau sain o ddogfennau pwysig (audio readings)

Mae menyw yn gwisgo clustffonau yn gwrando ar ddogfen yn darllen.

Nid yw pawb yn medru defnyddio dogfennau ysgrifenedig yr ymgynghoriad, felly rydym yn cynnig recordiadau sain o ddogfennau allweddol.  

Trwy wrando ar recordiadau sain o’r ddogfen ymgynghori a’r holiadur, gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd rydym yn darparu rhai o’n gwasanaethau clinigol ar draws rhanbarth Hywel Dda 

Gellir chwarae’r ffeiliau sain yn uniongyrchol ar y dudalen neu eu lawrlwytho a gwrando arnynt maes o law. Gallwch wrando ar y wybodaeth ar amser ac mewn lle sy’n gyfleus i chi, boed gartref, wrth deithio neu yn yr awyr agored.  

Mae’r recordiadau sain yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i hygyrchedd a chynhwysiant, gan sicrhau bod gan bawb yn ein cymunedau y cyfle i gymryd rhan yn y broses ymgynghori a bod llais pob un yn cael ei glywed.  

Gwrandewch ar y ddogfen ymgynghori ac holiadur isod;  
 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: