Neidio i'r prif gynnwy
22/05/25
001 - Cyflwyniad

GIG Cymru
NHS Wales

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda University Health Board

Cynllun Gwasanaethau Clinigol
Dogfen Ymgynghori Gryno

22/05/25
002 - Geirfa

Geirfa

 

Aciwt
Gofal tymor byr sydd ei angen ar bobl pan fyddant yn sâl iawn ac yn cael eu derbyn I ysbytai i gael profion a thriniaethau.

Achosion dydd
Pan fydd pobl yn dod i’r ysbyty i gael llawdriniaeth wedi’i chynllunio neu driniaeth sy’n ymwneud yn fwy ag apwyntiad claf allanol. Efallai y bydd angen rhywfaint o amser adfer arnoch yn yr ysbyty, ond dylech allu mynd adref yr un diwrnod.

Diagnosteg
Profion neu weithdrefnau a ddefnyddir i nodi clefyd neu gyflwr person.

Claf mewnol
Pan fydd pobl yn aros yn yr ysbyty dros nos tra’n derbyn triniaeth.

Claf Allanol
Pan fydd gan bobl apwyntiad mewn Ysbyty neu glinig ond nad oes angen iddynt aros.

24/7
24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

22/05/25
003 - Cysylltu â ni

Cysylltu â ni

 

Mae fersiwn fanylach o’r ddogfen gryno hon o’r enw Dogfen Ymgynghorol y
Cynllun Gwasanaethau Clinigol ac weithiau byddwn yn cyfeirio ati yn y ddogfen hon.
Mae yna hefyd fformatau amgen fel sain, hawdd eu darllen, ac sy’n addas i bobl ifanc.
Mae ieithoedd ychwanegol ar gael fel Arabeg, BSL, Pwyleg, Wcreineg a Rwsieg.

Gallwch ddarllen neu
lawrlwytho dogfennau trwy
sganio’r cod QR neu ewch i
biphdd.gig.cymru/cynllungwasanaethau-
clinigol Mae
gwybodaeth gefndir fanylach hefyd ar gael
o’r adran dogfennau ategol ar y wefan yn www.biphdd.gig.cymru/CGC-dogfennauategol.
Os oes angen help arnoch i gael y ddogfen
gywir, ffoniwch ni ar 0300 303 8322 (opsiwn
5). Codir cyfraddau lleol.

27/05/25
004 - Ychydig o wybodaeth amdanom ni

Ychydig o wybodaeth amdanom ni

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw eich sefydliad GIG lleol.

Rydym yn cynllunio, yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer bron i 400,000 o bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro. Mae rhai o’n gwasanaethau hefyd yn cael eu defnyddio gan gymunedau sy’n ffinio â ni yn ne Gwynedd, a rhannau o Bowys ac Abertawe/Castell-nedd Port Talbot.

Mae ein cymunedau yn eithaf gwasgaredig mewn ardaloedd gwledig.

Rydym yn darparu gwasanaethau trwy:

  • bedwar prif ysbyty (Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd)
  • pum ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion, Ysbyty Dinbych-y-pysgod ac Ysbyty De Sir Benfro yn Sir Benfro)
  • dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, y ddwy yng Ngheredigion)
  • cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys meddygfeydd, practisau deintyddol, fferyllfeydd cymunedol, practisau offthalmig (gofal llygaid) a safleoedd sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu
  • gofal yn eich cartref eich hun.

Gellir darparu gwasanaethau tra arbenigol y tu allan i’n hardal, er enghraifft yn Abertawe, Caerdydd, neu hyd yn oed y tu allan i Gymru megis ym Mryste.

27/05/25
005 - Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â naw gwasanaeth iechyd a ddarperir yn ein hysbytai. Maent yn:

  • gofal critigol 
  • dermatoleg
  • llawfeddygaeth gyffredinol frys
  • endosgopi
  • offthalmoleg
  • orthopedeg
  • strôc
  • radioleg
  • wroleg

Rydym wedi siarad â chi dros y blynyddoedd am sut mae rhai o’n gwasanaethau ysbyty yn fregus. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod ein staff clinigol a thimau wedi’u gwasgaru ar draws llawer o safleoedd, ac weithiau rydym yn dibynnu ar staff unigol.

Hefyd, mae effeithiau pandemig COVID-19 yn parhau i effeithio arnom ni. Mae wedi ein gadael â rhestrau aros hir, bylchau staffio (wedi’u gwneud yn waeth gan brinder yn genedlaethol ar gyfer rhai staff gofal iechyd), pwysau gofal cymdeithasol, a mwy o alw am wasanaethau iechyd.

Nid yw rhai o’n gwasanaethau wedi gallu dychwelyd i lefelau gweithgarwch cyn bandemig. Mae hyn yn golygu bod cleifion yn aros yn hirach nag yr hoffem am rywfaint o driniaeth a gofal.

O ystyried yr heriau, rydym wedi datblygu cynllun gwasanaethau clinigol. Mae hyn yn cynnwys opsiynau i newid naw gwasanaeth. Rydym yn meddwl y byddai’r newidiadau hyn yn digwydd ymhen hyd at bedair blynedd o’r penderfyniadau a wneir yn eu cylch. Rydym hefyd yn ystyried pa newid pellach y gellid ei wneud mewn mwy na phedair blynedd.

Rydym yn anelu at:
• ymateb i freuder gwasanaethau gofal critigol a llawfeddygaeth gyffredinol frys
• gwella safonau a mynd i’r afael â heriau staffio yn y gwasanaeth strôc
• gwella mynediad at a lleihau amseroedd aros ar gyfer cleifion gofal wedi’i gynllunio (offthalmoleg, dermatoleg, wroleg ac orthopedeg wedi’i gynllunio) a diagnosteg, sef profion neu weithdrefnau i nodi clefyd neu gyflwr (endosgopi a radioleg).

Gall unrhyw newidiadau yn y gwasanaethau hyn yn y dyfodol effeithio ar y modd y cânt eu trefnu yn ein pedwar prif ysbyty ac mewn rhai cyfleusterau cymunedol.
Mae’r ymgynghoriad hwn ar eich cyfer chi a phawb sy’n defnyddio, neu a allai ddefnyddio, ein gwasanaethau a’u hanwyliaid a’u gofalwyr.
Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n gweithio gyda ni, yn fyfyrwyr, neu’n wirfoddolwyr yn ein gwasanaethau. Rydym hefyd am glywed gan sefydliadau a allai gael eu heffeithio gan opsiynau, neu bobl sydd â diddordeb mewn iechyd a lles.
Rydym am i chi ddweud wrthym:
• pa opsiynau, yn eich barn chi, a fyddai’n gallu mynd i’r afael orau ag elfennau bregus ein gwasanaethau, gwella safonau, neu leihau amseroedd aros
• unrhyw bryderon a allai fod gennych ynghylch yr opsiynau, neu’r effeithiau y byddant yn eu cael yn eich barn chi
• syniadau a allai fod gennych ynghylch rôl ein hysbytai yn y dyfodol
• unrhyw beth arall y mae angen i ni ei ystyried, yn eich barn chi, yn cynnwys opsiynau neu syniadau eraill a allai fod gennych.
Penderfynir ar y pwyntiau canlynol ac nad oes modd dylanwadu arnynt yn yr ymgynghoriad hwn:
• y meysydd gwasanaeth sy›n rhan o›r ymgynghoriad hwn
• cyfeiriad cyffredinol ein strategaeth ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach’
- symud tuag at wasanaeth ‘iechyd da’ yn hytrach na gwasanaeth ‘salwch’
- datblygu model cymdeithasol ar gyfer iechyd
- cefnogi pobl trwy dechnoleg a dulliau eraill i gadw’n iach, yn annibynnol, ac i aros yn eu cartrefi eu hunain
- buddsoddiad cyfalaf sylweddol gwella neu adnewyddu hen adeiladau
- dod â gwasanaethau Ysbyty acíwt ynghyd i’w gwneud yn gryfach a gwella safonau gofal.

27/05/25
006 - Beth sydd wedi digwydd hyd yma

Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

 

Cam un

Yn ystod y cam hwn, bu i ni asesu ein naw gwasanaeth gofal iechyd, a hynny dan arweiniad arbenigwyr clinigol.

Edrychwyd ar y ffactorau sy’n effeithio ar y gwasanaethau hyn. Roedd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw newidiadau dros dro, canllawiau a pholisïau clinigol, materion staffio a heriau cost.

Gwnaethom gynnwys staff a’r cyhoedd, gan nodi pobl a sefydliadau (rhanddeiliaid) a ddylai fod yn rhan o’r sgwrs. Llenwodd bron i 6,000 o gleifion a gofalwyr diweddar sydd wedi defnyddio’r naw gwasanaeth ymatebion arolwg. Hefyd, llenwodd 350 o staff gofal iechyd a oedd yn gweithio yn y meysydd hyn arolygon.

 

Cam dau

Fe wnaethom ddatblygu opsiynau posibl ar gyfer dyfodol ein naw maes gwasanaeth. Gwnaethpwyd hyn gan ystod o wahanol weithdai rhwng Chwefror 2024 a Medi 2024.

Roedd rhai gweithdai yn cynnwys cynrychiolwyr cleifion a chynrychiolwyr rhanddeiliaid. Roeddent yn gallu ‘gwirio a herio’ ein ffordd o feddwl a dod â safbwyntiau gwahanol i sgorio a llunio rhestr fer o opsiynau posibl.

Yn y gweithdai fe wnaethom:

  • ystyried sut y gallai newid mewn un maes gwasanaeth effeithio ar faes arall (cyd-ddibyniaeth) 
  • gosod meini prawf ar gyfer y gofynion sylfaenol y byddai angen i’r opsiynau arfaethedig eu bodloni (meini prawf rhwystr) 
  • rhannu syniadau a ddatblygodd yn opsiynau arfaethedig 
  • rhoi opsiynau ar y rhestr fer trwy eu sgorio.

Yna penderfynodd aelodau ein Bwrdd Iechyd y dylem ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar opsiynau ar y rhestr fer i roi cyfle i chi gymryd rhan a rhannu eich barn a’ch syniadau.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y gwnaethom lunio rhestr fer o opsiynau a phenderfyniad y Bwrdd Iechyd i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar gael yn y Ddogfen Ymgynghori, sydd ar gael yma. 

 

Yr opsiynau

Yn yr adran hon rydym yn disgrifio’r opsiynau fesul maes gwasanaeth.

Rydym yn defnyddio tablau ar gyfer pob gwasanaeth i roi ‘cipolwg’ i chi o’r modd y mae’r gwasanaethau cyfredol yn cael eu darparu, a’r hyn y gallai’r opsiynau ar gyfer newid ei olygu, a hynny fesul prif ysbyty a chyfleuster cymunedol. Rydym hefyd yn disgrifio hyn, fesul opsiwn, ar ffurf testun.

Rydym wedi disgrifio effeithiau posibl gwahanol opsiynau arnoch chi a’ch anwyliaid.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am faint fyddai mwy neu lai o opsiynau yn ei gostio o gymharu â nawr. Dangosir costau dros filiwn fel £x.xxx miliwn. Mae costau o dan filiwn, yn y cannoedd o filoedd ac yn cael eu harddangos fel £xxx mil. Amcangyfrifon yw’r holl gostau a’u nod yw dangos yr effeithiau bras ar gyllid y Bwrdd Iechyd.

Byddai rhai opsiynau angen mwy o arian ar gyfer costau adeiladu ac offer. Mae gan y Bwrdd Iechyd rywfaint o arian ar gael ar gyfer y math hwn o waith a gall wneud penderfyniadau ar sut i’w ddefnyddio.

Byddai rhai opsiynau hefyd angen mwy o gostau staff. Byddai’r costau hyn yn berthnasol bob blwyddyn a byddai angen i’r Bwrdd Iechyd ddyrannu mwy o gyllid bob blwyddyn. Nid yw’r elfennau hyn wedi’u gwarantu ac, os cânt eu cefnogi, byddent yn cymryd mwy o amser i’w cyflawni.

Rydym yn disgrifio hyn o dan y pennawd ‘Cyflawni opsiynau’. Mae hyn er mwyn i chi allu gweld pa mor gyflym y gellir darparu rhannau o opsiynau, a pha rannau o opsiynau sy’n dibynnu ar y Bwrdd Iechyd yn cytuno ar arian ychwanegol ar gyfer staffio.

 

27/05/25
007 - Opsiynau ar gyfer gofal critigol

Opsiynau ar gyfer gofal critigol

 

Beth yw gofal critigol?
Mae gofal critigol yn darparu gofal ar gyfer oedolion sy'n ddifrifol wael â chyflyrau sy'n bygwth bywyd, o fewn unedau gofal dwys.

Gwasanaethau gofal critigol presennol
Ar hyn o bryd, mae gofal critigol ar gael yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg drwy unedau gofal dwys.
Yn y Tywysog Philip, mae trefniant dros dro wedi bod ar waith. Mae hyn yn golygu bod rhai o'r cleifion mwyaf difrifol wael mewn gofal dwys yn cael eu sefydlogi a'u trosglwyddo i Ysbyty Glangwili am ofal pellach.

Materion y mae'r opsiynau'n ceisio mynd i'r afael â nhw
Mae staffio gwasanaethau gofal critigol ar draws ein holl brif safleoedd ysbytai yn anodd. Nid oes yr un o'n hysbytai yn bodloni safonau ansawdd a diogelwch gofynnol. Mae ein hopsiynau yn cynnig cael llai o unedau gofal dwys. Byddai hyn yn gwneud y gwasanaeth yn fwy cynaliadwy, yn gwella diogelwch, ac yn helpu i gyrraedd safonau ansawdd ar gyfer ein cleifion.

Byddai gan ysbytai nad oes ganddynt uned gofal dwys yn ein hopsiynau arfaethedig uned gofal lefel uwch yn lle hynny. Byddai uned gofal lefel uwch yn trin cleifion sydd angen mwy o ofal ac arsylwadau mwy manwl ond nid gofal critigol arbenigol.

Byddai cleifion sydd angen gofal critigol arbenigol yn cael eu sefydlogi a'u trosglwyddo i uned gofal dwys Glangwili.

Ein bwriad yw darparu cymorth therapi ychwanegol ym mhob prif ysbyty a phob opsiwn arfaethedig.

Opsiwn A 

Beth yw’r opsiwn?

Unedau gofal dwys yn cael eu cadw ym Mronglais a Glangwili. Byddai unedau gofal lefel uwch yn cael ei darparu yn Llwynhelyg a Thywysog Philip. Byddai uned gofal lefel uwch arall yn cael ei datblygu yng Nglangwili hefyd. Mae hyn er mwyn i'r uned gofal dwys yng Nglangwili allu canolbwyntio ar y cleifion mwyaf sâl.

Cyflawni’r opsiwn
O fewn dwy flynedd, gan gynnwys y therapïau ychwanegol ym mhob ysbyty.

Effeithiau'r opsiwn
Mae gan yr opsiwn hwn y nifer lleiaf o safleoedd sydd angen mewnbwn gofal critigol arbenigol ac felly'r cyfle mwyaf i leihau'r her staffio a gwella safonau gofal i gleifion.

Byddai cleifion yn Ysbyty Tywysog Philip neu Llwynhelyg sydd angen gofal critigol arbenigol yn cael eu trosglwyddo i uned gofal dwys Glangwili. Byddai'r opsiwn hwn yn golygu'r nifer fwyaf o gleifion yn cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai.

Byddai'n rhaid i ymwelwyr sy'n gleifion o Sir Benfro a dwyrain Sir Gaerfyrddin deithio ymhellach i ymweld ag anwyliaid a ffrindiau yn yr opsiwn hwn.

Byddai'r opsiwn hwn yn lleihau costau staffio tua £274k. Byddai costau adeiladu ac offer tua £1.345m.

Opsiwn B

Beth yw’r opsiwn?

Byddai unedau gofal dwys yn cael eu cadw ym Mronglais, Glangwili a Llwynhelyg. Byddai gan y Tywysog Philip uned gofal lefel uwch. Byddai cleifion sydd angen gofal critigol arbenigol yn cael eu sefydlogi yn Ysbyty Tywysog Philip a'u trosglwyddo i uned gofal dwys Glangwili.

Cyflawni’r opsiwn
O fewn dwy flynedd, gan gynnwys y therapïau ychwanegol ym mhob ysbyty.

Effeithiau'r opsiwn
Mae gan yr opsiwn hwn lai o safleoedd sydd angen mewnbwn gofal critigol arbenigol nag Opsiwn C. Mae hyn yn golygu bod mwy o gyfle i leihau'r her staffio a gwella safonau gofal i gleifion. Fodd bynnag, mae hyn i raddau llai nag Opsiwn A.

Byddai cleifion yn Ysbyty Tywysog Philip sydd ag anghenion uwch sydd angen gofal critigol arbenigol yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili. Mae hyn yn golygu bod llai o gleifion yn cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai nag Opsiwn A ond yn fwy nag Opsiwn C.

Byddai'n rhaid i ymwelwyr sy'n gleifion o ddwyrain Sir Gaerfyrddin deithio ymhellach i ymweld â'u hanwyliaid yn yr opsiwn hwn.

Byddai'r opsiwn hwn yn lleihau costau staffio tua £255k. Byddai costau adeiladu ac offer tua £1.407m.

Opsiwn C

Beth yw’r opsiwn?

Cedwir unedau gofal dwys ar bob safle. Byddai'r trefniant dros dro yn y Tywysog Philip yn cael ei gadw. Mae hyn yn golygu bod y cleifion mwyaf sâl yn cael eu trosglwyddo i uned gofal dwys Glangwili, tra bod y Tywysog Philip yn parhau i ofalu am rai cleifion.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai'r newidiadau dros dro yn y Tywysog Philip yn parhau fel yn yr opsiwn hwn. Byddai therapïau ychwanegol ym mhob ysbyty yn cael eu darparu mewn dwy i bedair blynedd a byddent yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Nid oes gan yr opsiwn hwn lai o safleoedd sydd angen mewnbwn gofal critigol arbenigol nag ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu'r cyfle lleiaf i wella'r her staffio a gwella safonau gofal i gleifion.

Byddai'r opsiwn hwn yn gwneud y trefniant dros dro yn barhaol.

Felly, nid oes mwy o gleifion i’w trosglwyddo rhwng ysbytai nag ar hyn o bryd. Ni fyddai unrhyw deithio ychwanegol ychwaith i ymwelwyr sy'n gleifion nag sydd ar hyn o bryd.

Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu costau staffio tua £553k. Ni fyddai unrhyw gostau adeiladu ac offer.

*Byddai trosglwyddiadau rhwng ysbytai ar gyfer cleifion gofal critigol yn defnyddio'r Gwasanaeth Trosglwyddo Oedolion Gofal Critigol (ACCTS). Gallwch ddarllen mwy am hyn yn y ddogfen ‘mewnwelediad cleifion a theithio’ sydd ar gael yn adran Dogfennau Ategol ein tudalennau gwe.

27/05/25
008 - Opsiynau ar gyfer dermatoleg

Opsiynau ar gyfer dermatoleg

 

Beth yw dermatoleg?
Mae gwasanaethau dermatoleg yn diagnosio ac yn trin clefydau’r croen, y gwallt a'r ewinedd ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion.

Gwasanaethau dermatoleg presennol
Ers y pandemig COVID-19, mae gwasanaethau dermatoleg, gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol a mân lawdriniaethau wedi'u darparu'n bennaf gan Ysbyty Tywysog Philip. Mae clinig wythnosol wedi ei gynnal yng Nglangwili. Mae ffotograffiaeth feddygol wedi'i lleoli yng Nglangwili a ffototherapi, ond nid yw'r olaf yn rhedeg ar hyn o bryd.

Ni ddarperir gwasanaeth o Fronglais ac nid oes gwasanaeth yn cael ei ddarparu o Lwynhelyg ar hyn o bryd oherwydd materion Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC).

Yn y gymuned, cynhelir clinigau dan arweiniad nyrsys yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi ac Ysbyty De Sir Benfro.

Materion y mae'r opsiynau'n ceisio mynd i'r afael â nhw
Mae'r gwasanaeth yn wynebu sawl her. Mae hyn yn cynnwys mwy o gleifion yn aros i gael eu gweld (na chyn y pandemig COVID-19), prinder cenedlaethol mewn dermatolegwyr ymgynghorol, a meddygon yn gadael y gwasanaeth. Mae hyn yn golygu bod apwyntiadau iechyd yn cael eu canslo weithiau a bod cleifion yn aros am amser hir.

Ym mhob un o'r pedwar opsiwn arfaethedig, byddai gwasanaethau prif ysbyty yn cael eu dwyn ynghyd yn barhaol yn Ysbyty Tywysog Philip. Ni fyddai unrhyw wasanaethau yn cael eu darparu o Fronglais, Glangwili na Llwynhelyg.

Nod y newid hwn yw gwella effeithlonrwydd gwasanaeth a pharhad gofal i gleifion, cadw a chyflogi staff, a denu dermatolegwyr ymgynghorol i Hywel Dda.

Mae'r pedwar opsiwn yn wahanol ar sail lleoliadau arfaethedig y ddarpariaeth gymunedol.

Opsiwn A 

Beth yw’r opsiwn?

Prif wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip, dim gwasanaeth ym Mronglais, Glangwili na Llwynhelyg. Clinigau dan arweiniad nyrsys (gan gynnwys mân lawdriniaethau) a gedwir yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi. Cyflwyno rhai clinigau dan arweiniad nyrsys yn Ysbyty Dyffryn Aman.

Effeithiau’r opsiwn
Nid oes unrhyw ddarpariaeth gymunedol yn Sir Benfro yn yr opsiwn hwn felly byddai cleifion o'r ardal hon yn teithio ymhellach.
Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu costau staffio tua £226k. Byddai costau adeiladu ac offer tua £1.454m.

Opsiwn B

Beth yw’r opsiwn?

Prif wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip, dim gwasanaeth ym Mronglais, Glangwili na Llwynhelyg. Clinigau dan arweiniad nyrsys a gedwir yn Ysbyty De Sir Benfro. Rhai mân lawdriniaethau mewn rhai practisau meddygon teulu.
 

Effeithiau’r opsiwn
Nid oes unrhyw ddarpariaeth gymunedol yng Ngheredigion yn yr opsiwn hwn felly byddai cleifion o'r ardal hon yn teithio ymhellach. Gallai darpariaeth meddygon teulu, a allai fod o unrhyw le yn ardal Hywel Dda, leihau teithio i rai cleifion. 
Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu costau staffio tua £287k. Byddai costau adeiladu ac offer tua £1.454m.

Opsiwn C

Beth yw’r opsiwn?

Prif wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip, dim gwasanaeth ym Mronglais, Glangwili na Llwynhelyg. Clinigau dan arweiniad nyrsys (gan gynnwys mân lawdriniaethau) a gedwir yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi a chlinigau dan arweiniad nyrsys yn Ysbyty De Sir Benfro. Cyflwynwyd rhai clinigau pediatrig dan arweiniad nyrsys yng Nghanolfan Iechyd Cross Hands. Rhai mân lawdriniaethau mewn rhai practisau meddygon teulu.

Effeithiau’r opsiwn
Mae'r opsiwn hwn yn cadw rhai gwasanaethau dermatoleg ym mhob un o siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro. Gallai darpariaeth meddygon teulu, a allai fod o unrhyw le yn ardal Hywel Dda, leihau teithio i rai cleifion.
Byddai clinigau'n cael eu darparu mewn man addas ar gyfer plant a phobl ifanc yn yr opsiwn hwn (nad yw wedi'i ddarparu yn Opsiwn A a B).
Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu costau staffio tua £287k. Byddai costau adeiladu ac offer tua £1.454m.

Opsiwn D

Beth yw’r opsiwn?

Prif wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip, dim gwasanaeth ym Mronglais, Glangwili na Llwynhelyg. Clinigau dan arweiniad nyrsys (gan gynnwys mân lawdriniaethau) a gedwir yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi a chlinigau dan arweiniad nyrsys yn Ysbyty De Sir Benfro. Cyflwynwyd rhai clinigau pediatrig dan arweiniad nyrsys yng Nghanolfan Iechyd Cross Hands.

Effeithiau’r opsiwn
Mae'r opsiwn hwn yn cadw rhai gwasanaethau dermatoleg ym mhob un o siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro.
Byddai clinigau'n cael eu darparu mewn man addas ar gyfer plant a phobl ifanc yn yr opsiwn hwn (nad yw wedi'i ddarparu yn Opsiwn A a B).
Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu costau staffio tua £175k. Byddai costau adeiladu ac offer tua £1.454m.

*Byddai'r ddarpariaeth yr un fath ar gyfer pob opsiwn arfaethedig yn y gwasanaeth hwn. Byddai clinigau ysbyty yn cael eu dwyn ynghyd yn Ysbyty Tywysog Philip o fewn dwy flynedd. Byddai gofal yn y gymuned a chlinigau a gwelliannau i wasanaethau ysbyty, megis adleoli'r uned ffototherapi, ystafelloedd triniaeth ychwanegol, a staff, yn cael eu rhoi ar waith ym mlynyddoedd dau i bedwar a byddent yn amodol ar ariannu staff.

27/05/25
009 - Opsiynau ar gyfer llawfeddygaeth gyffredinol frys

Opsiynau ar gyfer llawfeddygaeth gyffredinol frys

 

Beth yw llawfeddygaeth gyffredinol frys?
Mae Llawfeddygaeth gyffredinol frys ar gyfer argyfyngau abdomenol yn bennaf, weithiau mae angen gweithredu ar frys i achub bywyd claf. Er bod angen llawdriniaethau weithiau, gall gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol frys hefyd gynnwys arsylwadau, cyngor, a thriniaethau eraill neu feddyginiaeth.

Gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol frys presennol
Mae’r gwasanaeth llawfeddygaeth gyffredinol frys ar gyfer oedolion yn unig, mae plant a phobl ifanc sydd angen llawfeddygaeth gyffredinol frys yn cael eu trin trwy wasanaethau ysbytai plant (yng Nglangwili a Bronglais yn ardal Hywel Dda).

Materion y mae'r opsiynau'n ceisio mynd i'r afael â nhw
Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol frys llawn, gan gynnwys llawdriniaethau meddygol, i oedolion yn cael eu darparu yn ysbytai Glangwili, Bronglais a Llwynhelyg. Mae cleifion Ysbyty Tywysog Philip yn cael eu cludo i Ysbyty Glangwili i gael llawdriniaeth ac i wella.

Mae'n anodd darparu llawfeddygaeth gyffredinol frys yn ddiogel yn ein tri ysbyty. Rydym yn dibynnu ar staff nad ydynt yn barhaol (locwm), a gallant fod yn llai cyfarwydd â ffyrdd lleol o weithio. Mae anawsterau wrth gyflogi llawfeddygon sydd â'r sgiliau cywir.

Mae adolygiad clinigol cenedlaethol yn argymell llai o unedau llawfeddygaeth gyffredinol yng Nghymru a Hywel Dda. Byddai hyn yn dod â mwy o arbenigedd ynghyd i lai o safleoedd ac yn fwy cynaliadwy a deniadol i staff.

Oherwydd prinder llawfeddygon ymgynghorol ar gyfer Glangwili a Llwynhelyg yn ne ein hardal, rydym yn bwriadu dod â nhw at ei gilydd yn un tîm. Byddai'r ddau opsiwn arfaethedig yn cyflawni hyn i wahanol raddau.

Byddai'r rhan fwyaf o gleifion nad oes angen llawdriniaeth arnynt yn aros ar safle eu hysbyty agosaf yn y ddau opsiwn.

Byddai'r ddarpariaeth yr un fath ar gyfer pob opsiwn arfaethedig yn y gwasanaeth hwn. Byddai llawdriniaethau cyffredinol brys yn cael eu dwyn ynghyd yng Nglangwili a Llwynhelyg o fewn y ddwy flynedd gyntaf. Byddai'r gwasanaeth llawfeddygaeth gyffredinol frys yn rhoi mwy o fewnbwn i SDECs yn y ddau ysbyty o fewn dwy i bedair blynedd, yn amodol ar ariannu staff.

Yn y ddau opsiwn, byddai angen i gleifion gael eu trosglwyddo i’r man cywir ar gyfer llawdriniaeth gan wasanaethau cludiant gofal iechyd, megis Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru neu’r Gwasanaeth Trosglwyddo Oedolion Gofal Critigol. Gallai hyn gynyddu’r tebygolrwydd o oedi mewn triniaeth. Byddai’r risg hon yn cael ei lleihau trwy gydweithio â gwasanaethau cludiant gofal iechyd i sicrhau y gellir gwneud darpariaeth briodol ar gyfer cludo cleifion yn ddiogel ac yn amserol.

Opsiwn A 

Beth yw’r opsiwn?

Byddai llawfeddygon ymgynghorol llawdriniaethau cyffredinol brys yn cael eu lleoli ym Mronglais a Glangwili, gan ddarparu gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol frys llawn gan gynnwys llawdriniaethau meddygol. Byddai cleifion yn Llwynhelyg sydd angen llawdriniaeth yn cael eu cludo i Ysbyty Glangwili ar gyfer eu llawdriniaeth, cyn dychwelyd i Llwynhelyg pan yn addas i wella. Ni fydd gwasanaeth llawdriniaethau cyffredinol brys yn Ysbyty Tywysog Philip, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, gyda chleifion yn cael eu cludo i Ysbyty Glangwili ar gyfer eu llawdriniaeth a'u hadferiad.

Effeithiau’r opsiwn
Yr opsiwn hwn yw'r mwyaf cynaliadwy ar gyfer cyflogi llawfeddygon ymgynghorol. Byddai'r cyhoedd hefyd yn glir ynghylch ble y byddai llawdriniaethau’n cael eu cynnal. Byddai'r opsiwn hwn yn effeithio ar yr holl gleifion sy'n agosach at Lwynhelyg sydd angen llawdriniaeth, a fyddai'n cael eu cludo i Ysbyty Glangwili yn lle hynny, yn ogystal â'u hymwelwyr yn teithio ymhellach.

Mae costau staffio tua £267k ac mae costau adeiladu ac offer tua £1.345m.

Opsiwn B

Beth yw’r opsiwn?

Byddai llawfeddygon ymgynghorol llawdriniaethau cyffredinol brys yn cael eu lleoli ym Mronglais, a naill ai yng Nglangwili neu Llwynhelyg bob yn ail wythnos i ddarparu llawdriniaethau meddygol. O ganlyniad, ar rai wythnosau byddai cleifion yn cael eu llawdriniaethau yn eu hysbyty agosaf, ac ar wythnosau eraill, byddent yn cael eu trosglwyddo i'r ysbyty lle mae llawdriniaeth yn cael ei chyflawni’r wythnos honno. Ni fydd gwasanaeth llawfeddygaeth gyffredinol frys yn Ysbyty Tywysog Philip, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, gyda chleifion yn cael eu cludo i Ysbyty Glangwili ar gyfer eu llawdriniaeth a'u hadferiad.

Effeithiau’r opsiwn
Yr opsiwn hwn yw'r lleiaf cynaliadwy ac effeithlon i'w reoli. Byddai angen cludo cleifion sy'n byw yn agosach at Ysbyty Glangwili sydd angen llawdriniaeth ar yr wythnos y mae'r gwasanaeth yn gweithredu o Llwynhelyg a byddai eu hymwelwyr yn teithio ymhellach. Er hynny, byddai’n lleihau effeithiau teithio i rai cleifion o Sir Benfro a’u hymwelwyr o gymharu ag Opsiwn A.

Mae angen ychwanegol gyda'r opsiwn hwn i ofal llawfeddygol aros yn Ysbyty Glangwili ar gyfer plant a phobl ifanc (pediatreg) ar wythnosau pan fydd y gwasanaeth yn gweithredu yn Llwynhelyg. Mae risg yn ein gallu i staffio digon o lawfeddygon yn yr opsiwn hwn.

Mae costau staffio tua £267k ac mae costau adeiladu ac offer tua £1.345m.

27/05/25
010 - Opsiynau ar gyfer endosgopi

Opsiynau ar gyfer endosgopi

 

 

Beth yw endosgopi?
Mae endosgopi yn driniaeth a ddefnyddir i edrych y tu mewn i'r corff. Ar gyfer cleifion dros 16 oed, mae gweithdrefn endosgopi yn archwilio tu mewn organ neu geudod y corff.

Gwasanaethau endosgopi presennol
Yn Hywel Dda, mae endosgopi yn gweithredu o Fronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Mae rhai o’r meysydd endosgopi y cyfeiriwn atynt yn cynnwys triniaethau ar gyfer sgrinio’r coluddyn, y rhai i edrych ar y system dreulio ( gastroberfeddol), y llwybrau anadlu a’r system anadlu (anadlol), a’r system wrinol neu’r system atgenhedlu i ddynion (wroleg).

Ymhlith y gwasanaethau endosgopi a ddarperir o Fronglais mae sgrinio'r coluddyn, gastroberfeddol ac wroleg. Ymhlith y gwasanaethau endosgopi a ddarperir gan Ysbyty Glangwili mae sgrinio'r coluddyn, gastroberfeddol, anadlol ac wroleg. Ymhlith y gwasanaethau endosgopi a ddarperir gan y Tywysog Philip mae sgrinio'r coluddyn, gastroberfeddol, anadlol ac wroleg. Ymhlith y gwasanaethau endosgopi a ddarperir yn Llwynhelyg mae sgrinio'r coluddyn a'r stumog a'r perfedd. Nid yw'r un o'r gweithdrefnau endosgopi hyn yn cael eu darparu o safleoedd cymunedol ar hyn o bryd.

Materion y mae'r opsiynau'n ceisio mynd i'r afael â nhw
Y prif faterion sy’n effeithio ar ein gwasanaeth endosgopi yw galw cynyddol ac anawsterau o ran cyflogi digon o staff endosgopi i ddarparu gwasanaethau ar draws llawer o safleoedd. Os na fyddwn yn cynyddu gweithgaredd, bydd rhestrau aros ar gyfer cleifion yn mynd yn hirach.

Ym mhob opsiwn, byddai rhai triniaethau endosgopi yn parhau i gael eu darparu ar draws y pedwar prif safle ysbyty.

Mae'r opsiynau'n ystyried cynyddu gweithgarwch fel y gallwn weld mwy o gleifion a lleihau amseroedd aros i gleifion ond trwy wahanol ffyrdd, a ddisgrifir isod.
 

Opsiwn A 

Beth yw’r opsiwn?

Byddai gwasanaethau gastroberfeddol a gwasanaethau sgrinio'r coluddyn yn parhau ym mhob un o'r pedwar safle. Yn y Tywysog Philip, byddai'r uned yn ehangu o ddwy i dair ystafell driniaeth. Byddai hyn yn helpu i ddod â thriniaethau endosgopi anadlol ac wroleg ynghyd.  Mae hyn yn golygu na fyddai Bronglais yn cynnig wroleg mwyach, fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fyddai Glangwili bellach yn cynnig anadlol ac wroleg, fel y mae ar hyn o bryd.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai sesiynau clinigol yn cael eu cynyddu fesul cam i gyfateb â'r galw yn y dyfodol ym mlynyddoedd dau i bedwar, yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai gan bobl sy’n byw yn ne-ddwyrain ein hardal lai i’w deithio oherwydd bod gweithdrefnau endosgopi anadlol ac wroleg yn cael eu darparu gan y Tywysog Philip. Byddai’n rhaid i bobl sy’n byw yng Ngheredigion a Sir Benfro, yn ogystal â phobl yn Sir Gaerfyrddin sy’n byw yn nes at Ysbyty Glangwili, deithio ymhellach i gael y triniaethau hyn.

Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu costau staffio tua £1.321m. Byddai costau adeiladu ac offer tua £3.603m.

Opsiwn B

Beth yw’r opsiwn?

Byddai'r holl sgrinio coluddion yn symud i safle cymunedol newydd (lleoliad heb ei nodi eto) wedi'i neilltuo ar gyfer y gwasanaeth. Byddai hyn yn rhyddhau rhywfaint o gapasiti ar safleoedd ysbytai i ofalu am gleifion eraill. Byddai gweithdrefnau endosgopi gastroberfeddol, anadlol ac wroleg yn parhau ar yr un safleoedd ysbyty ag ar hyn o bryd.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai sesiynau ychwanegol yn cael eu darparu ar brif safleoedd ysbytai ar ôl symud sgrinio coluddion i safle cymunedol newydd, yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai symud sgrinio coluddion allan o ysbytai ac i safle cymunedol newydd yn caniatáu mwy o apwyntiadau o fewn gwasanaethau ysbyty i weld mwy o gleifion.

Mae’n bosibl y bydd angen i rai cleifion deithio ymhellach i gael sgrinio’r coluddyn, tra bydd eraill, yn dibynnu ar leoliad y safle cymunedol newydd, yn teithio llai o bellter.

Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu costau staffio tua £1.743m. Byddai costau adeiladu ac offer tua £4.882m.

Opsiwn C 

Beth yw’r opsiwn?

Yn yr opsiwn hwn, byddai capasiti yn cael ei gynyddu gan oriau gwaith estynedig (yn ddiweddarach gyda'r nos o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac ar benwythnosau) yn y Tywysog Philip. Byddai hyn yn caniatáu i'r holl driniaethau endosgopi anadlol ac wroleg gael eu darparu yn y Tywysog Philip. Mae hyn yn golygu na fyddai Bronglais yn cynnig wroleg mwyach, fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fyddai Glangwili bellach yn cynnig anadlol ac wroleg, fel y mae ar hyn o bryd. Byddai sgrinio coluddion a gweithdrefnau gastroberfeddol yn parhau yn y pedwar prif ysbyty fel y maent ar hyn o bryd. Byddai Glangwili yn gallu gweld mwy o gleifion gastroberfeddol nag ar hyn o bryd.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai sesiynau clinigol yn cael eu cynyddu fesul cam i gyfateb â'r galw yn y dyfodol ym mlynyddoedd dau i bedwar, yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai gan bobl sy’n byw yn ne-ddwyrain ein hardal lai i’w deithio oherwydd bod gweithdrefnau endosgopi anadlol ac wroleg yn cael eu darparu gan y Tywysog Philip. Byddai'n rhaid i bobl sy'n byw yng Ngheredigion a Sir Benfro yn ogystal â phobl yn Sir Gaerfyrddin sy'n byw'n agosach at Ysbyty Glangwili, deithio ymhellach i gael y triniaethau hyn.

Mae'r opsiwn hwn yn cynnig mwy o hyblygrwydd i gleifion gael triniaeth y tu allan i oriau gwaith gyda'r nos neu ar benwythnosau yn Ysbyty Tywysog Philip, a bod yr offer sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio dros fwy o oriau.

Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu costau staffio tua £1.984m. Byddai costau adeiladu ac offer tua £3.603m.

27/05/25
011 - Opsiynau ar gyfer offthalmoleg

Opsiynau ar gyfer offthalmoleg

 

Beth yw offthalmoleg?
Offthalmoleg yw trin cyflyrau ac anafiadau llygaid, a thriniaethau llawfeddygol, ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.

Gwasanaethau offthalmoleg presennol
Darperir gwasanaethau ysbyty offthalmoleg o Fronglais (achosion dydd a chleifion mewnol), Glangwili (diagnosteg, achosion dydd, cleifion mewnol, cleifion allanol a gofal llygaid brys), Tywysog Philip (diagnosteg, cleifion allanol a chleifion mewnol) a Llwynhelyg (diagnosteg, cleifion allanol a chleifion mewnol). Yn y gymuned, darperir clinigau cleifion allanol mewn nifer o leoliadau. Mae Ysbyty Dyffryn Aman yn darparu gofal ar gyfer achosion dydd. Darperir gwasanaethau diagnostig a chleifion allanol o Ganolfan Gofal Integredig Aberteifi, Clinig Llygaid Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, a Chanolfan Gofal Integredig Aberaeron.

Materion y mae'r opsiynau'n ceisio mynd i'r afael â nhw
Byddai dod â gwasanaethau offthalmoleg ynghyd mewn llai o safleoedd, ym mhob opsiwn a ddisgrifir isod, yn arwain at nifer o fanteision. Mae hyn yn cynnwys lleihau'r amser y mae cleifion yn ei dreulio ar restrau aros, lleddfu prinder staff, darparu mwy o gyfleoedd hyfforddi, a gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon. Gall effeithio ar y safleoedd y mae staff yn gweithio ohonynt.

Byddai pob opsiwn yn lleihau nifer yr adeiladau ar wahân y darperir gwasanaethau ohonynt. Byddai hyn yn gofyn am fwy o le ym mha bynnag brif ysbyty a fyddai'n darparu gwasanaethau offthalmoleg ysbyty.

Ym mhob opsiwn, byddai gwasanaethau cleifion allanol Ceredigion yn aros yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi a Chlinig Llygaid Ffordd y Gogledd, heb unrhyw wasanaeth yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberaeron (mae newidiadau ymhlith opsiynau ar gyfer safleoedd cymunedol yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro).

Ym mhob opsiwn byddai Ysbyty Llwynhelyg yn parhau i gynnig rhai gwasanaethau diagnosteg a chleifion allanol yn Sir Benfro.

Byddai gwasanaethau pigiad llygaid rheolaidd yn cael eu cynnal ar bob safle sy'n darparu gwasanaethau cleifion allanol.

Opsiwn A 

Beth yw’r opsiwn?

Byddai gwasanaethau prif ysbyty, gan gynnwys gofal llygaid brys, yn cael eu dwyn ynghyd yng Nglangwili. Byddai Ysbyty Llwynhelyg yn parhau i gynnig rhai gwasanaethau diagnosteg a chleifion allanol. Ni fyddai Bronglais na'r Tywysog Philip yn darparu gwasanaethau mwyach. Byddai Ysbyty Dyffryn Aman yn darparu achosion dydd (ar gyfer cataractau) ond nid cleifion allanol (ar gyfer pigiadau llygaid).

Cyflawni’r opsiwn
Byddai'r opsiwn hwn yn cael ei weithredu mewn dwy i bedair blynedd a byddai'n amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Gwasanaethau prif ysbyty yn cael eu darparu o lai o safleoedd felly yn fwy cynaliadwy a mwy o gyfle i leihau amseroedd aros cleifion nag Opsiwn B.
Ni fyddai unrhyw wasanaethau cleifion mewnol nac achosion dydd ym Mronglais yn yr opsiwn hwn (ym mhob opsiwn, mae cleifion allanol yn aros yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi a Chlinig Llygaid Ffordd y Gogledd) ac felly byddai cleifion o Geredigion yn teithio ymhellach o gymharu ag Opsiwn B ac C.
Mae gwasanaethau prif ysbyty yn cael eu dwyn ynghyd yng Nglangwili ac felly byddai’n rhaid i gleifion o Sir Benfro a’r rhai yn Sir Gaerfyrddin sy’n byw’n agosach at y Tywysog Philip (na Glangwili) deithio ymhellach.
Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu costau staffio tua £156k. Byddai costau adeiladu ac offer tua £3.656m ym mhob opsiwn.

Opsiwn B 

Beth yw’r opsiwn?

Byddai gwasanaeth prif ysbyty, gan gynnwys gofal llygaid brys, yn cael ei ddwyn ynghyd yn Ysbyty Tywysog Philip. Byddai Ysbyty Llwynhelyg yn parhau i gynnig rhai gwasanaethau diagnosteg a chleifion allanol. Ni fyddai Glangwili yn darparu gwasanaethau mwyach. Byddai'r gwasanaethau presennol yn aros ym Mronglais. Byddai Ysbyty Dyffryn Aman yn cadw gwasanaethau cleifion allanol (ar gyfer pigiadau llygaid) ond nid achosion dydd (ar gyfer cataractau).
Yn ogystal ag Ysbyty Llwynhelyg sy'n darparu diagnosteg a chleifion allanol ym mhob opsiwn, byddai cleifion allanol hefyd yn cael eu cynnal mewn lleoliad cymunedol (safle heb ei gadarnhau eto) yn Sir Benfro.

Byddai gwasanaeth cleifion allanol hefyd yn cael eu cynnal mewn lleoliad cymunedol (safle heb ei gadarnhau eto) yn Sir Benfro.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai'r opsiwn hwn yn cael ei ddarparu o fewn dwy flynedd ac o fewn y cyllid staffio presennol ar gyfer y gwasanaeth.

Effeithiau’r opsiwn
Gan fod y gwasanaethau presennol yn aros ym Mronglais gan ymgynghorydd ymweld, nid yw'r gwasanaeth mor gynaliadwy. Byddai llai o effaith ar amseroedd aros cleifion nag Opsiwn A. Ond byddai'r opsiwn hwn yn cynnal rhywfaint o ofal yn nes at y cartref i gleifion sy'n byw yn agosach at Fronglais.

Mae gwasanaethau prif ysbyty yn cael eu dwyn ynghyd yn Ysbyty Tywysog Philip ac felly byddai’n rhaid i gleifion o Sir Benfro a’r rhai yn Sir Gaerfyrddin sy’n byw’n agosach at Glangwili (na’r Tywysog Philip) deithio ymhellach.

Ni ddisgwylir i'r opsiwn hwn gynyddu costau staffio. Byddai costau adeiladu ac offer yn £3.656m ym mhob opsiwn.

Opsiwn C 

Beth yw’r opsiwn?

Byddai gwasanaethau prif ysbyty, gan gynnwys gofal llygaid brys, yn cael eu dwyn ynghyd yng Nglangwili. Byddai Ysbyty Llwynhelyg yn parhau i gynnig rhai gwasanaethau diagnosteg a chleifion allanol. Ni fyddai'r Tywysog Philip yn darparu gwasanaethau mwyach. Byddai'r gwasanaethau presennol yn aros ym Mronglais (achosion dydd a chleifion mewnol). Byddai gan Ysbyty Dyffryn Aman wasanaethau cleifion allanol (ar gyfer pigiadau llygaid) ond nid achosion dydd (ar gyfer cataractau).

Cyflawni’r opsiwn
Byddai'r opsiwn hwn yn cael ei ddarparu o fewn dwy i bedair blynedd a byddai'n amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Gan fod y gwasanaethau presennol yn aros ym Mronglais gan ymgynghorydd ymweld, nid yw'r gwasanaeth mor gynaliadwy. Byddai llai o effaith ar amseroedd aros cleifion nag Opsiwn A. Ond byddai'r opsiwn hwn yn cynnal rhywfaint o ofal yn nes at y cartref i gleifion sy'n byw yn agosach at Fronglais.

Mae gwasanaethau prif ysbyty yn cael eu dwyn ynghyd yng Nglangwili ac felly byddai’n rhaid i gleifion o Sir Benfro a’r rhai yn Sir Gaerfyrddin sy’n byw’n agosach at y Tywysog Philip (na Glangwili) deithio ymhellach.’

Byddai costau staffio yn cynyddu £156k. Byddai costau adeiladu ac offer yn £3.656m ym mhob opsiwn.

27/05/25
012 - Opsiynau ar gyfer orthopedeg

Opsiynau ar gyfer orthopedeg

 

Beth yw orthopedeg?
Mae orthopedeg, a elwir hefyd yn llawdriniaeth orthopedig, yn canolbwyntio ar ofalu am y system gyhyrysgerbydol a'i rhannau, fel esgyrn, cymalau a meinwe meddal. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag orthopedeg wedi'i gynllunio ac nid orthopedeg brys (trawma).

Gwasanaethau orthopedeg presennol
Mae pob un o'n prif ysbytai yn darparu gwasanaethau orthopedig wedi'u cynllunio. Mae Bronglais a’r Tywysog Philip yn darparu gwasanaethau cleifion allanol, cleifion mewnol ac achosion dydd, mae Glangwili yn darparu gwasanaethau cleifion allanol, ac mae Llwynhelyg yn darparu gwasanaethau cleifion allanol ac achosion dydd. Rydym hefyd yn darparu clinigau cleifion allanol orthopedig yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod. Mae ein staff yn darparu clinigau cleifion allanol yn Ysbyty Tywyn, sy’n cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i leihau rhywfaint o deithio i gleifion.

Gwnaed newidiadau dros dro i orthopedeg arfaethedig yn ardal Hywel Dda oherwydd pandemig COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys rhoi'r gorau i'r gwaith hwn am gyfnod o amser. Ym mis Mai 2021, trosglwyddwyd gofal cleifion mewnol yn Llwynhelyg i Ysbyty Tywysog Philip (achosion dydd yn parhau). Roedd hyn oherwydd safonau cenedlaethol newydd, a heb yr adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â hyn yn yr ysbyty.

Materion y mae'r opsiynau'n ceisio mynd i'r afael â nhw
Y brif her mewn gwasanaethau orthopedig yw bod angen inni gynyddu ein gweithgarwch i leihau amseroedd aros hir i gleifion. Mae angen inni hefyd fodloni’r safonau cenedlaethol newydd, sy’n cynnwys cael ardaloedd wardiau orthopedig pwrpasol i wella diogelwch a gwasanaeth meddygol orthopedig 24/7 ar gyfer cleifion gofal wedi’i gynllunio.

Ym mhob un o’r opsiynau arfaethedig byddai cleifion y mae angen iddynt aros dros nos (cleifion mewnol) yn cael eu gofal yn Ysbyty Bronglais, Tywysog Philip, neu Castell-nedd Port Talbot (sy’n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe), ac nid yn Llwynhelyg. Byddai hyn yn gwneud y newid dros dro yn barhaol.

Byddai triniaethau achosion dydd yn cael eu darparu ym Mronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg ym mhob opsiwn. Byddai mwy o achosion dydd yn digwydd yn Llwynhelyg gan y byddai'r ysbyty'n canolbwyntio ar achosion llai cymhleth.

Byddai gwasanaethau cleifion allanol yn parhau ym Mronglais, Glangwili, Tywysog Philip, Llwynhelyg, ac yn y cyfleusterau cymunedol a ddarperir iddynt o hyn ymlaen, ym mhob opsiwn.

Opsiwn A

Beth yw’r opsiwn?
Byddai Llwynhelyg yn cynnig gwasanaethau cleifion allanol ac yn canolbwyntio ar fwy o gleifion ac achosion dydd llai cymhleth. Byddai Ysbyty Tywysog Philip yn cynnig gwasanaethau cleifion allanol a byddai’n cario ein gofal cynlluniedig mwy cymhleth (cleifion mewnol ac achosion dydd) ar gyfer cleifion lleol a rhanbarthol. Byddai Bronglais yn parhau i gynnig gwasanaethau cleifion allanol, cleifion mewnol ac achosion dydd, a byddai Glangwili yn parhau i gynnig gwasanaethau cleifion allanol.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai'r opsiwn hwn yn sicrhau newidiadau i ysbytai o fewn dwy flynedd a chyllid staffio presennol ar gyfer y gwasanaeth. Byddai mwy o gymorth therapi yn cael ei roi ar waith ym mlynyddoedd dau i bedwar a byddai'n amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai canolbwyntio’r math o waith a wneir yn Llwynhelyg i fod yn llai cymhleth yn cefnogi cynnydd mewn llawdriniaethau yn gyffredinol.

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys gweithio'n rhanbarthol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae hyn yn cefnogi eu cleifion a allai fod angen gofal yn Ysbyty Tywysog Philip, neu ar gyfer ein cleifion a allai fod angen gofal yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ar gyfer triniaethau penodol. O dan yr opsiwn hwn, efallai y byddai cleifion yn cael cynnig gofal y tu allan i ardal Hywel Dda a byddent yn teithio ymhellach ar gyfer hyn.

Fel yn awr, oherwydd y newid dros dro, byddai cleifion o Sir Benfro yn parhau i deithio i Ysbyty Tywysog Philip, ar gyfer llawdriniaethau dros nos (claf mewnol).

Byddai costau staffio yn cynyddu £174k yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £66k.

Opsiwn B

Beth yw’r opsiwn?
Byddai Llwynhelyg yn cynnig gwasanaethau cleifion allanol ac yn canolbwyntio ar fwy o gleifion ac achosion dydd llai cymhleth. Byddai Llwynhelyg yn gweld achosion dydd ychwanegol drwy oriau gwaith hirach. Byddai'r Tywysog Philip yn cynnig gofal wedi'i gynllunio mwy cymhleth i gleifion allanol (cleifion mewnol ac achosion dydd) i gleifion lleol a rhanbarthol. Byddai Bronglais yn parhau i gynnig gwasanaethau cleifion allanol, cleifion mewnol ac achosion dydd, a byddai Glangwili yn parhau i gynnig gwasanaethau cleifion allanol.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai'r opsiwn hwn yn sicrhau newidiadau i ysbytai o fewn dwy flynedd a chyllid staffio presennol ar gyfer y gwasanaeth. Byddai mwy o gymorth therapi yn cael ei roi ar waith ym mlynyddoedd dau i bedwar a byddai'n amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai canolbwyntio’r math o waith a wneir yn Llwynhelyg i fod yn llai cymhleth ac ymestyn oriau gwaith yn cefnogi cynnydd mewn llawdriniaethau yn gyffredinol.

Gall patrymau gwaith ar gyfer staff amrywio oherwydd oriau gwaith hirach.

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys gweithio'n rhanbarthol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel y disgrifir yn Opsiwn A. Mae'n bosibl y cynigir gofal i gleifion y tu allan i ardal Hywel Dda a byddent yn teithio ymhellach ar gyfer hyn.

Byddai cleifion o Sir Benfro yn parhau i deithio i Ysbyty Tywysog Philip, ar gyfer llawdriniaethau dros nos (claf mewnol), fel y maent yn ei wneud yn awr oherwydd y newid dros dro.

Byddai costau staffio yn cynyddu £174k yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £66k.

Opsiwn C

Beth yw’r opsiwn?
Byddai Llwynhelyg yn cynnig cleifion allanol ac yn canolbwyntio ar fwy o gleifion ac achosion dydd llai cymhleth.

Byddai Ysbyty Tywysog Philip yn cynnig gofal wedi’i gynllunio mwy cymhleth i gleifion allanol (cleifion mewnol ac achosion dydd), gan roi blaenoriaeth i gleifion Hywel Dda sydd ag anghenion uwch, yn hytrach na chleifion rhanbarthol. Byddai'r opsiwn hwn yn cynyddu gweithgarwch orthopedig ymhellach trwy ddarparu gwelyau ychwanegol yn Ysbyty Tywysog Philip. Byddai Bronglais yn parhau i gynnig gwasanaethau cleifion allanol, cleifion mewnol ac achosion dydd, a byddai Glangwili yn parhau i gynnig gwasanaethau cleifion allanol.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai'r opsiwn hwn yn sicrhau newidiadau i ysbytai o fewn dwy flynedd a chyllid staffio presennol ar gyfer y gwasanaeth. Byddai mwy o gymorth therapi yn cael ei roi ar waith ym mlynyddoedd dau i bedwar a gwelyau ychwanegol yn y Tywysog Philip ymhen pedair blynedd neu fwy, yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai canolbwyntio’r math o waith a wneir yn Llwynhelyg i fod yn llai cymhleth yn cefnogi cynnydd mewn achosion dydd yn gyffredinol.

Byddai cleifion o Sir Benfro yn parhau i deithio i Ysbyty Tywysog Philip, ar gyfer llawdriniaethau dros nos (claf mewnol), fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd fel rhan o'r newid dros dro.

Nid yw’r opsiwn hwn yn cyd-fynd cystal â’r dull gweithio rhanbarthol oherwydd ei fod yn rhoi blaenoriaeth i gleifion Hywel Dda sydd ag anghenion uwch, yn hytrach na chleifion rhanbarthol, yn Ysbyty Tywysog Philip.

Byddai costau staffio yn cynyddu £1.122m yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £66k.

Opsiwn D

Beth yw’r opsiwn?
Byddai Llwynhelyg yn cynnig gwasanaethau cleifion allanol ac yn canolbwyntio ar fwy o gleifion ac achosion dydd llai cymhleth. Byddai Ysbyty Tywysog Philip yn cynnig gofal wedi'i gynllunio mwy cymhleth i gleifion allanol (cleifion mewnol ac achosion dydd) i gleifion lleol a rhanbarthol.
Byddai Bronglais yn parhau i gynnig gwasanaeth cleifion allanol, a mwy o wasanaethau gleifion mewnol ac achosion dydd, i ddarparu llawdriniaeth i fwy o gleifion, a byddai Glangwili yn parhau i gynnig gwasanaethau cleifion allanol.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai'r opsiwn hwn yn sicrhau newidiadau i ysbytai o fewn dwy flynedd a chyllid staffio presennol ar gyfer y gwasanaeth. Byddai mwy o gymorth therapi yn cael ei roi ar waith ymhen pedair blynedd neu fwy a byddai'n amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai canolbwyntio’r math o waith a wneir yn Llwynhelyg i fod yn llai cymhleth yn cefnogi cynnydd mewn achosion dydd yn gyffredinol.

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys gweithio'n rhanbarthol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel y disgrifir yn Opsiwn A. Mae'n bosibl y cynigir gofal i gleifion y tu allan i ardal Hywel Dda a byddai angen iddynt deithio ymhellach ar gyfer hyn.

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys gwasanaeth cynyddol ym Mronglais i ddarparu llawdriniaeth i fwy o gleifion.

Byddai cleifion o Sir Benfro yn parhau i gael eu llawdriniaethau cleifion mewnol dros nos yn Ysbyty Tywysog Philip, a allai fod ymhellach o'u cartrefi, yn unol â'r trefniant dros dro.

Byddai costau staffio yn cynyddu £712k yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £66k.

27/05/25
013 - Opsiynau ar gyfer radioleg

Opsiynau ar gyfer radioleg

 

Beth yw radioleg?
Mae radioleg yn defnyddio technegau delweddu (fel pelydrau-x) i wneud diagnosis, trin a monitro clefydau ac anafiadau a nodir yn y corff.

Mae gwasanaethau radioleg diagnostig yn cynnwys delweddu i helpu i wneud diagnosis o glefyd neu gyflwr. Mae gwasanaethau radioleg ymyriadol yn defnyddio gwahanol fathau o ddelweddu i drin cyflyrau drwy dywys cathetrau neu nodwyddau bach drwy’r corff neu gymryd biopsïau.

Gwasanaethau radioleg presennol
Darperir gwasanaethau diagnostig brys yn ein prif ysbytai 24/7; a darperir gwasanaethau wedi’i gynllunio pum niwrnod yr wythnos, yn ystod y dydd yn unig. 

Darperir gwasanaethau radioleg ymyriadol ar gyfer cleifion mewnol ysbytai neu ar gyfer achosion dydd wedi’u cynllunio, a ddarperir ar hyn o bryd bum niwrnod yr wythnos yn ystod y dydd yn unig ym mhrif ysbytai Hywel Dda. Darperir gwasanaethau pelydr-X yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, Ysbyty Llanymddyfri, Ysbyty De Sir Benfro ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod.

Materion y mae'r opsiynau'n ceisio mynd i'r afael â nhw
Mae radioleg wedi gweld cynnydd mawr mewn gweithgarwch ar draws pob ysbyty. Ar yr un pryd, mae prinder staff yn ein hatal rhag darparu gwasanaethau am oriau hirach. Ceir anawsterau hefyd o ran cynnal a chadw offer cyfoes ar draws pob safle.

Byddai dod â rhai gwasanaethau radioleg ynghyd ar lai o safleoedd, sy’n cael ei gynnig yn ein holl opsiynau, yn caniatáu inni weld mwy o gleifion a byddai’n mynd i’r afael â rhai heriau o ran y gweithlu, ond mae effaith bosibl ar o ble mae staff yn gweithio. Ni fyddai unrhyw un o’r opsiynau’n mynd i’r afael yn llawn â heriau cyflogi ar gyfer rolau radioleg ymyriadol.

Byddai gwasanaethau pelydr-X yn aros yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod. Ni fyddent yn cael eu darparu o Lanymddyfri a De Sir Benfro ym mhob opsiwn, felly byddai’n rhaid i bobl sy’n byw’n agosach at yr ysbytai hyn deithio ymhellach i gael eu pelydrau-x nag y maent ar hyn o bryd.

Byddai mwy o weithgarwch hefyd yn creu gwaith ychwanegol ar gyfer darpariaeth trosglwyddo cleifion nad ydynt yn rhai brys ym mhob opsiwn.

Yn ein holl opsiynau ar gyfer radioleg, rydym yn cadw radioleg ddiagnostig brys 24/7 ym mhob un o’r pedwar ysbyty. 

Opsiwn A

Beth yw’r opsiwn?

Darperir radioleg ddiagnostig wedi'i gynllunio a radioleg ymyriadol achosion dydd wedi'i gynllunio (o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y dydd) o Fronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Ni fyddai Glangwili yn darparu radioleg ddiagnostig wedi'i gynllunio ond byddai'n darparu'r holl radioleg ymyriadol i gleifion mewnol (dydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y dydd). Byddai cleifion sydd angen hyn mewn ysbytai eraill yn cael eu trosglwyddo mewn ambiwlans i Ysbyty Glangwili.

Byddai gwasanaethau pelydr-X yn aros yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod. Ni fyddent yn cael eu darparu o Lanymddyfri a De Sir Benfro.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai gwasanaethau pelydr-X o ysbytai Llanymddyfri a De Sir Benfro yn cael eu dileu o fewn dwy flynedd. Byddai gweddill yr opsiwn yn cael ei ddarparu o fewn pedair blynedd, yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai Glangwili yn gallu canolbwyntio ar radioleg ddiagnostig brys, heb fod angen amserlennu radioleg ddiagnostig wedi'i chynllunio (a allai fel arall fod mewn perygl o ganslo).

Mae gwahanu radioleg ymyriadol cleifion mewnol ac achosion dydd rhwng safleoedd yn lleihau’r risg o ganslo triniaethau achosion dydd oherwydd gweithgarwch cleifion mewnol, gan gael effaith gadarnhaol ar amseroedd aros.

Byddai’r opsiwn hwn yn golygu y byddai cleifion mewnol sydd angen radioleg ymyriadol ym Mronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg, yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Mae llai o gapasiti hefyd i weld cleifion yn yr opsiwn hwn o gymharu ag opsiynau eraill sy'n darparu oriau estynedig ar gyfer y gwasanaeth. Mae hyn yn golygu llai o gyfle i leihau amseroedd aros arferol.

Oherwydd bod radioleg ymyriadol cleifion mewnol ac achosion dydd yn cael eu cynnal ar wahanol safleoedd, mae’r opsiwn hwn yn cael llai o effaith ar fynd i’r afael â heriau cyflogi staff ym maes radioleg ymyriadol. Gallai hyn olygu ein bod yn dibynnu ar staff i gyflenwi gwaith mewn safleoedd amgen i gefnogi oriau estynedig.

Glangwili fyddai’r unig safle sy’n darparu radioleg ymyriadol i gleifion mewnol, felly byddai cleifion sydd angen hyn o ysbytai eraill Hywel Dda yn cael eu trosglwyddo mewn ambiwlans i Ysbyty Glangwili.

Byddai costau staffio yn cynyddu £537k yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £2.345m.

Opsiwn B

Beth yw’r opsiwn?

Byddai radioleg ddiagnostig wedi'i gynllunio (wedi'i ymestyn o bum niwrnod i saith niwrnod yr wythnos, yn ystod y dydd), cleifion mewnol ymyriadol, a radioleg achosion dydd (Llun-Gwener, yn ystod y dydd), yn cael eu darparu o Fronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Byddai gwasanaethau pelydr-X yn aros yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod. Ni fyddent yn cael eu darparu o Lanymddyfri a De Sir Benfro.

Byddai radioleg ddiagnostig wedi'i gynllunio hefyd yn cael ei ddarparu o ganolbwynt diagnostig newydd ac unswydd (safle i'w gadarnhau), mewn lleoliad cymunedol, nad yw'n rhan o'r opsiynau eraill.

Byddai'r canolbwynt newydd hwn a'r oriau gwaith estynedig ar gyfer radioleg ddiagnostig wedi'i gynllunio yn golygu y gallai Ysbyty Tywysog Philip ac Ysbyty Llwynhelyg ddarparu ffocws canser penodol.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai gwasanaethau pelydr-X o ysbytai Llanymddyfri a De Sir Benfro yn cael eu dileu o fewn dwy flynedd. Byddai gweithredu gwasanaethau ysbyty fesul cam a chyflogi rolau ychwanegol yn cael eu cyflawni ym mlynyddoedd dau i bedwar, yn amodol ar ariannu staff. Mae canolfan ddiagnostig newydd yn brosiect ar raddfa fawr a byddai angen achos busnes i sicrhau cyllid o tua £48m gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r broses yn cymryd sawl blwyddyn i’w chyflawni ac mae’n amodol ar sicrhau’r cyllid hwnnw.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai oriau estynedig mewn diagnosteg a gynlluniwyd yn lleihau amseroedd adrodd fel y gallai cleifion gael eu diagnosis yn gyflymach.

Byddai'r ffocws canser pwrpasol yn y Tywysog Philip a Llwynhelyg yn darparu profion lluosog ar yr un diwrnod yn yr un lleoliad yn hytrach na sawl diwrnod ar wahanol safleoedd, gyda diagnosis cyflymach i gleifion.

Yr opsiwn hwn yw’r unig un sydd â chanolbwynt diagnostig radioleg ranbarthol. Byddai hyn hefyd yn rhoi diagnosis cyflymach i gleifion ond byddai angen mwy o staff a llawer mwy o arian nag opsiynau eraill.

Byddai staffio ychwanegol yn caniatáu ar gyfer diwrnodau estynedig ar gyfer rhai gwasanaethau, gan leihau amseroedd adrodd a phwysau ar staff presennol. Byddai cael mwy o staff yn osgoi’r lefel uwch o gostau sydd gennym ar hyn o bryd oherwydd dibynnu ar oramser a staff dros dro (locwm).

Mae’r newid sifft i saith niwrnod yr wythnos, 12 awr y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm, yn fwy deniadol i radiograffwyr.

Byddai costau staffio yn cynyddu £1.720m yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £48.444m, sy'n llawer mwy nag opsiynau eraill oherwydd y cynnig i sefydlu canolfan ddiagnostig newydd yn y gymuned.

Opsiwn C

Beth yw’r opsiwn?

Byddai radioleg ddiagnostig wedi'i gynllunio (Llun-Gwener, yn ystod y dydd) yn cael ei ddarparu ym Mronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Byddai radioleg ymyriadol cleifion mewnol ac achosion dydd (Llun-Gwener, yn ystod y dydd) yn cael eu dwyn ynghyd ym Mronglais a Glangwili ac ni fyddai'n cael ei ddarparu yn Ysbyty Tywysog Philip na Llwynhelyg.

Byddai gwasanaethau pelydr-X yn aros yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod. Ni fyddent yn cael eu darparu o Lanymddyfri a De Sir Benfro.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai gwasanaethau pelydr-X o ysbytai Llanymddyfri a De Sir Benfro yn cael eu dileu o fewn dwy flynedd. Byddai gweddill yr opsiwn yn cael ei ddarparu o fewn dwy i bedair blynedd, yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Mae gwasanaethau diagnostig wedi’i gynllunio yn Ysbyty Tywysog Philip a Llwynhelyg yn cael eu hamddiffyn rhag cansladau oherwydd ni fyddai radioleg ymyriadol cleifion mewnol yn cael ei ddarparu ar y safleoedd hynny.

Byddai canolbwyntio'r holl waith ymyriadol ar ddau safle (yn hytrach na phedwar) hefyd yn lleihau maint y galwadau diagnostig brys sy'n achosi canslo.

Nid yw oriau gwaith diagnostig cynlluniedig yn cael eu hymestyn yn yr opsiwn hwn, felly mae llai o gyfle i leihau amseroedd aros nag yn Opsiwn B a D.

Byddai effaith gadarnhaol ar ddiogelwch gan y byddai'n gwella pwysau staffio drwy ddod â staff ymyriadol ynghyd.

Byddai costau staffio yn cynyddu £380k yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £2.345m.

Opsiwn D
Beth yw’r opsiwn?

Byddai radioleg ddiagnostig wedi’i gynllunio yn cael ei hymestyn o bum niwrnod i saith niwrnod yr wythnos, yn ystod y dydd, ym Mronglais, Glangwili, y Tywysog Philip, a Llwynhelyg.

Byddai radioleg ymyriadol cleifion mewnol yn cael ei ddwyn ynghyd yng Nglangwili a'i ymestyn i 24/7. Byddai radioleg ymyriadol achosion dydd (Llun-Gwener, yn ystod y dydd) yn cael ei ddarparu ym Mronglais, Tywysog Philip, a Llwynhelyg.

Byddai gwasanaethau pelydr-X yn aros yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod. Ni fyddent yn cael eu darparu o Lanymddyfri a De Sir Benfro.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai gwasanaethau pelydr-X o ysbytai Llanymddyfri a De Sir Benfro yn cael eu dileu o fewn dwy flynedd. Byddai gweithredu gwasanaethau ysbyty fesul cam a chyflogi rolau ychwanegol yn cael eu cyflawni ym mlynyddoedd dau i bedwar, yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Byddai cynyddu staffio yn caniatáu i rai gwasanaethau gael eu cynnig saith niwrnod, yn hytrach na phum niwrnod yr wythnos. Byddai hyn yn gwella amseroedd adrodd ac amseroedd aros i gleifion.

Nod yr opsiwn hwn yw darparu staff ychwanegol. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer diwrnodau estynedig i rai gwasanaethau, gan leihau amseroedd adrodd a phwysau ar staff presennol. Byddai cael mwy o staff yn osgoi’r lefel uwch o gostau sydd gennym ar hyn o bryd oherwydd dibynnu ar oramser a staff dros dro (locwm).

Mae'r newid sifft i saith niwrnod yr wythnos, 12 awr y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm, yn fwy deniadol i radiograffwyr.

Byddai costau staffio yn cynyddu £1.040m yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £2.345m.

27/05/25
014 - Opsiynau ar gyfer strôc

Opsiynau ar gyfer strôc

 

Beth yw strôc?
Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy'n bygwth bywyd ac sy'n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd yn cael ei dorri i fwrdd. 

Gwasanaethau strôc presennol
Ar hyn o bryd, mae unedau strôc ym mhob un o’r pedwar prif ysbyty: Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg. 

Materion y mae'r opsiynau'n ceisio mynd i'r afael â nhw
Nid yw'r gwasanaeth yn bodloni safonau clinigol ac nid oes digon o staff i'w gefnogi. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau nad ydynt cystal ag y gallent fod.

Mae tystiolaeth yn dangos bod canlyniadau a safonau yn well os caiff gwasanaethau eu dwyn ynghyd a'u darparu o lai o ysbytai. Byddai dod â gwasanaethau ynghyd hefyd yn helpu i gadw a chyflogi staff, gan wneud y gwasanaeth yn fwy cynaliadwy.

Rydym yn edrych ar ddau opsiwn gwahanol ar gyfer sut y gellid darparu gwasanaethau strôc.

Yn y ddau opsiwn byddai ambiwlans yn mynd â chlaf yr amheuir strôc i’w hysbyty agosaf – naill ai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip neu Lwynhelyg. Byddai'r holl ysbytai hyn yn gallu darparu sgan asesiad cychwynnol a thriniaeth gychwynnol o thrombolysis pe bai angen. Mae thrombolysis yn broses lle mae cyffur yn cael ei roi i glaf i dorri clotiau gwaed i lawr a dychwelyd cyflenwad gwaed i'r ymennydd.

Yn ein holl opsiynau, byddai Bronglais a Glangwili yn dod yn ysbytai trin a throsglwyddo ar gyfer strôc. Byddai hyn yn golygu, yn dilyn gofal cychwynnol, y byddent yn cael eu trosglwyddo i rywle arall o fewn Hywel Dda (yn wahanol rhwng ein hopsiynau, gweler isod) neu i ganolfan arbenigol arall yn rhywle arall, yn unol â’u hanghenion.

Byddai gofal cleifion mewnol yn cael ei ddarparu ymhellach oddi cartref i rai cleifion yn y ddau opsiwn, ac mae hyn yn cael effaith ar deuluoedd a gofalwyr. Byddai llwyfannau ar-lein yn cael eu darparu i gadw teuluoedd mewn cysylltiad a byddem yn anelu at gael pobl adref yn gynt gyda chymorth gwasanaeth cymunedol.

Opsiwn A

Beth yw’r opsiwn?

Byddai gan Ysbyty Tywysog Philip a Llwynhelyg unedau strôc, gyda gwasanaeth arbenigol 12 awr y dydd. Mae hyn yn golygu y byddai cleifion strôc o’r ysbytai trin a throsglwyddo ym Mronglais a Glangwili yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Tywysog Philip neu Lwynhelyg ar gyfer eu gofal strôc fel claf mewnol (oni bai bod angen gofal arnynt gan ganolfan arbenigol, fel Bryste, fel ar hyn o bryd).

Cyflawni’r opsiwn
Byddai Ysbytai Tywysog Philip a Llwynhelyg yn aros fel unedau strôc yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. Byddai Ysbyty Tywysog Philip yn cael ei ehangu yn ystod y ddwy flynedd gyntaf i ddarparu gofal i gleifion o ysbytai trin a throsglwyddo. Byddai uned strôc Llwynhelyg yn cael ei hehangu i ddarparu gofal i gleifion o ysbytai trin a throsglwyddo o fewn dwy i bedair blynedd, yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Mae’r opsiwn hwn yn lleihau breuder y gwasanaeth strôc ac yn codi safonau drwy ddod â’r gweithlu ynghyd i lai o safleoedd, a darparu’r gwasanaeth 12 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, yn hytrach na saith awr a hanner y dydd, bum niwrnod yr wythnos, fel sydd gennym ar hyn o bryd.

Byddai angen trosglwyddiadau ychwanegol ac amserol rhwng ysbytai, ond i nifer llai nag yn Opsiwn B.

Byddai llai o gleifion ac ymwelwyr yn teithio ymhellach i gael gofal strôc yn yr opsiwn hwn nag Opsiwn B oherwydd byddai uned strôc Llwynhelyg yn darparu triniaeth gychwynnol claf mewnol i gleifion strôc, yn ogystal ag Ysbyty Tywysog Philip.

Byddai costau staffio yn cynyddu £3.439m yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £930k.

Opsiwn B

Beth yw’r opsiwn?

Byddai gan Ysbyty Tywysog Philip uned strôc gyda gwasanaeth arbenigol 24 awr y dydd. Mae hyn yn golygu y byddai cleifion strôc o’r ysbytai trin a throsglwyddo (Bronglais a Glangwili), ac o uned strôc Llwynhelyg, yn cael eu trosglwyddo fel arfer i’r Tywysog Philip am 72 awr o ofal dros nos (claf mewnol). Yn dilyn hyn, byddai gofal dros nos barhaus cleifion yn cael ei ddarparu naill ai yn yr uned strôc yn Ysbyty Tywysog Philip, neu yn yr uned strôc yn Llwynhelyg.

Cyflawni’r opsiwn
Byddai'r opsiwn hwn yn cael ei weithredu'n llawn yn y ddwy flynedd gyntaf, yn amodol ar ariannu staff.

Effeithiau’r opsiwn
Mae’r opsiwn hwn yn lleihau breuder y gwasanaeth strôc ac yn codi safonau drwy ddod â’r gweithlu ynghyd i lai o safleoedd.

Mae’n caniatáu ar gyfer cydgrynhoi pellach nag Opsiwn A drwy ddwyn ynghyd y 72 awr gyntaf o ofal (y tu hwnt i driniaeth gychwynnol) ar gyfer cleifion strôc yn ardal Hywel Dda ar un safle ysbyty. Mae’r opsiwn hwn yn lleihau breuder y gwasanaeth strôc ymhellach oherwydd ei fod yn darparu 24 awr o wasanaeth arbenigol, saith niwrnod yr wythnos (yn hytrach na 12 awr yn Opsiwn A). Byddai hyn yn caniatáu 72 awr gyntaf o ofal dwysach, canlyniadau gwell i gleifion, a byddai'n fwy deniadol i ddarpar staff.

Byddai mwy o drosglwyddiadau nag Opsiwn A oherwydd bod cleifion o Llwynhelyg yn cael eu trosglwyddo i'r uned strôc yn Ysbyty Tywysog Philip i gael mynediad at ofal, am y 72 awr gyntaf fel arfer.

Byddai mwy o gleifion ac ymwelwyr yn teithio ymhellach i gael gofal strôc nag Opsiwn A oherwydd bod yr holl gleifion (gan gynnwys y rhai yn Sir Benfro) yn cael eu trosglwyddo i'r uned strôc yn Ysbyty Tywysog Philip fel arfer am 72 awr o ofal (y tu hwnt i driniaeth gychwynnol).

Byddai’r opsiwn hwn yn canolbwyntio therapi arbenigol ar lai o safleoedd nag Opsiwn A, a fyddai’n sicrhau effeithlonrwydd yn y gweithlu, ac o bosibl yn fwy deniadol i staff y dyfodol, ac yn gwella safonau a chanlyniadau i gleifion.

Byddai costau staffio yn cynyddu £4.978m yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladu ac offer yn £920k.

27/05/25
015 - Opsiynau ar gyfer wroleg

Opsiynau ar gyfer wroleg

 

Beth yw wroleg?
Mae wroleg yn gofalu am gleifion sy'n oedolion â chyflyrau sy'n effeithio ar system y llwybr wrinol ymhlith dynion a menywod (e.e., yr arennau, y bledren) a'r llwybr atgenhedlu ymhlith dynion (y ceilliau, y pidyn, a'r prostad).

Gwasanaethau wroleg presennol
Darperir gwasanaethau wroleg ar hyn o bryd ym mhob un o'r pedwar prif ysbyty. Mae Bronglais yn darparu gwasanaethau cleifion allanol, achosion dydd a thriniaethau diagnostig, gan gynnwys achosion brys cyfyngedig lle’r amheuir canser. Mae Glangwili yn darparu triniaethau brys, gwasanaethau cleifion allanol, achosion dydd a diagnostig, gan gynnwys brys lle’r amheuir canser. Mae Tywysog Philip yn darparu gwasanaethau cleifion allanol, achosion dydd, cleifion mewnol a thriniaethau diagnostig, gan gynnwys achosion brys lle’r amheuir canser. Mae Llwynhelyg yn darparu gwasanaethau cleifion allanol, achosion dydd a thriniaethau diagnostig, gan gynnwys achosion brys lle’r amheuir canser.

O safbwynt staffio, nid yw'r model hwn yn gynaliadwy ac mae'n arwain at gleifion yn aros am amser hir.

Er mai dim ond un opsiwn ar gyfer wroleg a gyflwynir, mae hyn oherwydd bod modd cyfuno'r holl syniadau a gyflwynwyd yn ystod y cam datblygu opsiynau yn un opsiwn. Nid yw’n opsiwn a ffefrir gan ein bod yn croesawu syniadau newydd gan bobl.
 

Yr opsiwn arfaethedig

Beth yw’r opsiwn?

Yr opsiwn ar gyfer wroleg yw dod â’r holl gleifion wroleg dros nos (cleifion mewnol) ynghyd yn Ysbyty Tywysog Philip (yn hytrach nag yn Ysbyty Glangwili a Thywysog Philip fel ar hyn o bryd). Mae Ysbyty Tywysog Philip wedi’i nodi fel y safle mwyaf addas oherwydd ei fod yn caniatáu ar gyfer gweithio’n agos gyda gwasanaethau endosgopi yn yr ysbyty hwn.

Mae’r opsiwn hefyd yn cynnwys datblygu canolbwynt diagnostig wroleg yn Ysbyty Tywysog Philip i ddod â’r holl ddiagnosteg wroleg ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a diagnosteg wroleg ar gyfer gwasanaethau brys lle’r amheuir canser ar gyfer holl ardal y Bwrdd Iechyd ynghyd.

Byddai cleifion allanol, achosion dydd a diagnosteg arall yn aros ym Mronglais a Llwynhelyg.

Dim ond achosion brys sy'n dod drwy'r adran frys y byddai Glangwili yn gofalu amdanynt

Cyflawni 
Byddai gwasanaethau diagnostig a gwasanaethau cleifion allanol ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn dod at ei gilydd yn Ysbyty Tywysog Philip ymhen dwy flynedd. Byddai'r opsiwn yn cael ei weithredu'n llawn gan ddatblygu uned ddiagnostig cyn pen dwy i bedair blynedd, yn amodol ar ariannu staff.
 

Effeithiau’r opsiwn
Byddai’n wasanaeth mwy effeithlon, gan olygu y byddai’r rhan fwyaf o gleifion wroleg yn cael gwell canlyniadau o ran mynediad cyflym at driniaeth, lleddfu symptomau ac ansawdd triniaeth.

Byddai dod â’r gwasanaeth ynghyd yn hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a fyddai’n helpu i gadw a chyflogi staff. Gallai hyn effeithio ar o ble mae rhai staff yn Sir Gaerfyrddin yn gweithio.

Dylai dod â gwasanaethau ynghyd arwain at lai o ymweliadau ysbyty i gleifion. Mae hyn oherwydd ei bod yn fwy tebygol y gellir cynnal apwyntiadau lluosog mewn un lleoliad ar yr un diwrnod.

Byddai cleifion allanol, llawdriniaethau achosion dydd a thriniaethau diagnostig nad ydynt yn achosion brys lle’r amheuir canser yn aros yn y prif ysbytai, ac eithrio Glangwili, er mwyn lleihau amseroedd teithio i gleifion sydd angen yr apwyntiadau hyn.

Byddai'n rhaid i gleifion yng Ngheredigion, Sir Benfro deithio ymhellach i gael diagnosteg wroleg ar gyfer achosion brys lle’r amheuir canser. Byddai'n rhaid i bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin ac yn agosach at Ysbyty Glangwili nag Ysbyty Tywysog Philip deithio ymhellach i gael gofal cleifion mewnol a diagnosteg, gan gynnwys gwasanaethau brys lle’r amheuir canser.

Byddai costau staffio yn cynyddu £120k a chostau adeiladu ac offer tua £1.003m.

27/05/25
016 - Beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer ein prif ysbytai?

Beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer ein prif ysbytai?

 

Gallai newidiadau i’n naw maes gwasanaeth clinigol yn sgil yr ymgynghoriad effeithio ar y modd y cânt eu trefnu yn ein pedwar prif ysbyty.

Gallai rolau ein hysbytai fod fel a ganlyn:

  • Ysbyty Bronglais darparu gwasanaethau fel y mae ar hyn o bryd, er y gallai rhai arbenigeddau gael eu darparu ar safleoedd gwahanol Hywel Dda
  • Ysbyty Glangwili darparu mwy o ofal acíwt* a gofal brys, gyda rhywfaint o ofal wedi’i gynllunio yn cael ei symud i safleoedd eraill, naill ai yn ôl gwasanaeth neu yn ôl cyflwr iechyd
  • Ysbyty Tywysog Philip darparu mwy o ofal wedi’i gynllunio, yn arbennig ledled ardal ehangach lle caiff gwasanaethau eu darparu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Ysbyty Llwynhelyg darparu mwy o ofal wedi’i gynllunio llai cymhleth, yn arbennig yn ardal Hywel Dda, gyda mynediad cychwynnol at ofal acíwt yn parhau ar y safle, ond y cleifion â’r anghenion mwyaf yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili.

Sylwch, ym mhob un o’r opsiynau, nad oes unrhyw newidiadau i sut mae pobl yn cael mynediad at ofal brys, neu ofal mân anafiadau, yn unrhyw un o’r safleoedd.

27/05/25
017 - Effeithiau posibl newid ar bobl

Effeithiau posibl newid ar bobl

 

Rhaid inni sicrhau bod ein cynigion ar gyfer gwasanaethau iechyd yn deg i bawb a chymryd gofal penodol i ystyried pobl sy’n agored i niwed neu sydd â nodweddion gwarchodedig.

Rydym eisoes wedi gweithio gyda grwpiau sy’n cynrychioli pobl agored i niwed a byddwn yn parhau i wneud hynny i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys drwy gydol ein hymgynghoriad.

Rydym wedi cynhyrchu Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer pob un o’n naw gwasanaeth. Mae’r rhain yn ystyried effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl newid ar bobl, a sut rydym yn eu lleihau.

Mae hyn yn cynnwys ystyried sut rydym yn parhau i ddiogelu a hyrwyddo amgylchedd dwyieithog ar gyfer ein cleifion a’n staff. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod gan ein cymuned nifer uwch na’r cyfartaledd o siaradwyr Cymraeg. Rydym hefyd wedi ystyried materion teithio a chludiant y gallai opsiynau effeithio arnynt.

Byddai rhai opsiynau yn yr ymgynghoriad hwn (gan gynnwys o fewn gofal critigol, llawfeddygaeth gyffredinol frys, a strôc) yn arwain at drosglwyddo mwy o gleifion gan wasanaethau GIG rhwng ysbytai. Gallai opsiynau eraill yn yr ymgynghoriad hwn olygu newidiadau i ble y darperir eich gofal neu driniaethau wedi’i cynllunio. Byddai hyn yn effeithio ar eich taith o’r cartref i’r ysbyty.

Gallwch ddarllen mwy am effeithiau cydraddoldeb yn ein Dogfen Ymgynghori (agor mewn dolen newydd).

Mae gennym hefyd ddogfen ategol o’r enw Effeithiau Cleifion a Theithio a dogfen astudiaeth achos o’r enw Astudiaethau Achos Teulu Jones sy’n gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi am effeithiau amser teithio. Gallwch ddod o hyd i’r rhain ar ein tudalennau gwe yn yr ardal Dogfennau Ategol.

27/05/25
018 - Sut gallwch chi gymryd rhan

Sut gallwch chi gymryd rhan

 

Cymerwch amser i ddarllen y ddogfen hon ac yna dywedwch wrthym beth yw eich barn.

Gallwch wneud hyn drwy:

  • cwblhau’r holiadur ar-lein: biphdd.gig.cymru/cynllun-gwasanaethau-clinigol neu ar ffurf copi caled (gallwch ofyn am gopi o’r pwyntiau cyswllt isod) a’i
  • bostio i:
    Opinion Research Services
    FREEPOST SS1018,
    PO Box 530,
    Abertawe,
    SA1 1ZL
    ni fydd angen stamp
  • arnoch anfon neges e-bost atom: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
  • siarad â ni yn un o’n digwyddiadau (ewch i’r wefan uchod i weld manylion digwyddiad lleol neu ar-lein), neu drwy ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5) (cyfraddau galwadau lleol).

Y dyddiad cau i roi eich barn i ni, fel y gellir cynnwys eich barn yn yr ymgynghoriad, yw 31 Awst 2025

27/05/25
019 - Beth sy'n digwydd â'ch adborth?

Beth sy’n digwydd â’ch adborth?

 

 

Rydym wedi contractio sefydliad ymchwil annibynnol, Opinion Research Services, i gasglu a dadansoddi’r holl adborth a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Bydd adborth gan unigolion yn ddienw, efallai y bydd safbwyntiau a ddarperir gan sefydliadau neu bobl sy’n gweithredu’n swyddogol yn cael eu cyhoeddi’n llawn.

I weld datganiad preifatrwydd llawn ein
Bwrdd Iechyd, ewch i
biphdd.gig.cymru/CGC-dogfennauategol

Gellir gweld datganiad preifatrwydd Opinion Research Services yn
www.ors.org.uk/privacy

Bydd Opinion Research Services yn darparu dadansoddiad annibynnol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Bydd grŵp prosiect ar gyfer yr ymgynghoriad hefyd yn cyflwyno argymhelliad i Gyfarwyddwyr ac Aelodau Annibynnol y Bwrdd Iechyd, yn ystod gaeaf 2025/26, ar y ffyrdd posibl ymlaen ar gyfer cyfyngu neu ddewis opsiynau.

Bydd aelodau’r Bwrdd yn ystyried y cyfan y maent wedi’i glywed cyn, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn. Bydd hyn yn cynnwys yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a gwybodaeth ategol arall, sydd ar gael ar ein tudalennau gwe ymgynghori. Byddant hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a allai ddod i’r amlwg, megis syniadau newydd, o’r ymgynghoriad.

Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bwysig rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, yn enwedig pan fyddwch chi wedi cymryd yr amser i rannu eich barn gyda ni.

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd yn gyhoeddus, gyda phobl naill ai’n gallu mynychu’n bersonol neu wylio ar-lein. Byddwn yn hysbysebu’r cyfarfod hwn ar ein gwefan ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Instagram).

 

 

22/05/25
020 - Diolch yn fawr

Os hoffech gael gwybod canlyniad yr ymgynghoriad hwn, ymunwch â’n cynllun cynnwys ac ymgysylltu Siarad Iechyd / Talking Health drwy:
anfon neges e-bost i hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
ffonio 0300 303 8322 (cyfraddau galwadau lleol)
ysgrifennu atom yn: FREEPOST HYWEL DDA HEALTHBOARD

Diolch yn fawr

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: