Neidio i'r prif gynnwy

Teulu Jones – ein teulu darluniadol – Rhys Jones

Rhys, a truck driver, sits on his sofa Mae Rhys Jones yn briod â merch Alun Jones, Sioned. Mae’n 52 oed ac yn byw yn y Tymbl, ger Llanelli.Yn yrrwr lori pellter hir, mae’n gweithio oriau hir. Roedd yn arfer byw ar fwyd sothach ac mae ei ben-gliniau yn rhoi llawer o boen iddo yn dilyn ei ddyddiau rygbi. Mae wedi colli pwysau yn ddiweddar ac wedi rhoi’r gorau i ysmygu.

Mae’r tîm orthopedig yn dweud y gallai Rhys elwa o lawdriniaeth i’w ben-glin ynYsbyty Tywysog Philip, Llanelli. Mae’n bosib y bydd ei lawdriniaeth yn cael ei gohirio cwpl o weithiau oherwydd argyfyngau a phroblemau staffio. O fewn 18 mis mae’n cael llawdriniaeth lwyddiannus yn yr ysbyty. Fodd bynnag, mae’n ei chael hi’n anodd mynychu ffisiotherapi dilynol yn yr ysbyty yn yr wythnosau yn dilyn y llawdriniaeth, wrth iddo gael trafferth cael aelod o’r teulu i’w yrru yno.

Pan fydd yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd ar agor, byddai Rhys yn cael ei lawdriniaeth yno. Byddai ei lawdriniaeth yn llai tebygol o gael ei gohirio gan eu bod wedi dylunio’r ysbyty fel bod gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn cael eu darparu mewn gwahanol ardaloedd. Yn dilyn y llawdriniaeth, byddai Rhys yn cael ffisiotherapi mewn cyfleuster iechyd cymunedol ger y Tymbl. Nid oes rhaid iddo fynd yn ôl i’rYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio gan fod ganddo apwyntiad dilynol gyda’r ymgynghorydd ar-lein gan ddefnyddio ei gyfrifiadur.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: