Ym mis Chwefror 2022, gwnaethom anfon Achos Busnes Rhaglen i Lywodraeth Cymru.
Mae Achos Busnes Rhaglen yn ddogfen lefel uchel, sy’n ceisio sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen fuddsoddi. Gallwch ddarllen y ddogfen lawn drwy fynd i yn yr adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd).
Mae’n amlinellu’r achos dros yr adeiladau a’r seilwaith sydd eu hangen arnom i gyflawni ein strategaeth hirdymor – Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach.
Mae’n ceisio’r buddsoddiad mwyaf mewn iechyd a llesiant y bydd gorllewin Cymru erioed wedi’i weld, tua £1.3biliwn. Mae’n adeiladu ar ein haddewid i ddod â chymaint o ofal â phosibl yn nes atoch. Mae’n cynnwys:
Os bydd yn llwyddiannus yn y cam cyntaf hwn, yna mae tri cham pellach, a allai gymryd sawl blwyddyn, i sicrhau’r buddsoddiad eithaf sydd ei angen i ddarparu’r cyfleusterau a restrir uchod, gan gynnwys yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Weithiau, cytunir ar hyn mewn rhannau llai, felly gallai prosiectau o fewn y rhaglen gael eu hariannu ar adegau gwahanol.
Rydym wedi penderfynu ymgynghori â chi ar y safle posibl ar gyferYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn awr, cyn cael buddsoddiad, oherwydd ein bod wedi ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus â chi ac oherwydd bod ein gwasanaethau’n fregus, ac ni allwn golli amser wrth gyflawni ein gweledigaeth.
Bydd ein hymgynghoriad i leihau’r opsiynau neu nodi safle a ffafrir yn parhau tra byddwn yn aros am adborth gan Lywodraeth Cymru. Mae datblygiad ein hysbyty newydd yn amodol ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru, a, phe na bai cyllid yn cael ei gytuno, ni fyddem yn gallu prynu’r safle ar gyfer yr ysbyty newydd.
Ar gyfer buddsoddiadau mawr fel hyn, mae’r cam nesaf hefyd yn cynnwys adolygiad annibynnol o’r model clinigol (y ffordd rydym yn bwriadu darparu gofal), y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gomisiynu. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd pellach y bydd y buddsoddiadau yr ydym yn eu ceisio yn ein helpu i ddarparu’r gofal cywir i’n cymunedau yn y dyfodol.