Neidio i'r prif gynnwy

Archwilio safleoedd posibl ar gyfer ysbyty newydd – yr hyn a ddysgom ac a wnaethom

Cytunwyd ar barth daearyddol cyffredinol yr ysbyty newydd – rhwng Arberth a Sanclêr – oherwydd dyma’r ardal a fyddai’n golygu bod y rhan fwyaf o’n poblogaeth o fewn awr i adran achosion brys (naill ai yn yr ysbyty hwn,Ysbyty Bronglais, Aberystwyth neuYsbyty Treforys, Abertawe).

Rydym wedi gwneud llawer o waith i gyfyngu ar yr opsiynau ar gyfer lleoliadau penodol:

  • Fe wnaethom edrych am safleoedd a gofyn i chi am enwebiadau safle o fewn y parth yn ystod ymarfer ymgysylltu yn haf 2021, o’r enw Adeiladu Dyfodol Iachach ar ôl COVID-19. Fe wnaeth hyn, ynghyd â’n hymarfer bwrdd gwaith ein hunain, ein helpu i nodi 11 o safleoedd posibl. Gallwch ddarganfod mwy am hyn trwy ymweld â’n gwefan a throi at y dolenni defnyddiol yn yr adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd). Fe wnaethom hefyd ofyn i chi beth oeddech chi’n meddwl oedd yn bwysig i ni ei ystyried wrth lunio rhestr fer o safleoedd, er mwyn i ni allu defnyddio’r adborth hwn.
  • Fe wnaeth cynrychiolwyr o’r cyhoedd (o bob rhan o’n hardal) ynghyd â staff ac arbenigwyr, ein helpu i lunio rhestr fer o bum safle rhwng Hydref 2021 a Chwefror 2022 – enw’r safleoedd ar y pryd oedd safle C Hendy-gwyn ar Daf, safle J Sanclêr, safle 12 Hendy-gwyn ar Daf, safle 17 Sanclêr, a safle 7 Arberth.
  • Edrychodd pedwar ‘grŵp arfarnu tir’ ar y pum safle o safbwynt ystyriaethau clinigol, ystyriaethau ariannol ac economaidd, ystyriaethau gweithlu ac ystyriaethau technegol, gan gynnwys yr hyn a oedd yn bwysig i’r cyhoedd. Gallwch ddarllen adroddiadau manylach o bob un ohonynt drwy fynd i’n gwefan ac edrych ar yr adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd) (fe’u gelwir yn Adroddiadau Allbwn Arfarnu Technegol).


Yng Nghyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd ar 4 Awst 2022, clywodd aelodau’r Bwrdd Iechyd holl allbynnau’r grwpiau arfarnu tir. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn gan y grwpiau, sy’n cynnwys manylion ynghylch sut a pham y cafodd y rhestr hwy o safleoedd eu lleihau i’r pump a ystyriwyd, drwy fynd i’n gwefan a gweld y Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd)o’r enw Adroddiadau Bwrdd Cyhoeddus 4 Awst 2022.

Yn y cyfarfod hwn, dywedodd y Bwrdd y dylai dau safle yn Hendy-gwyn ar Daf (safleoedd 12 a C) ac un o’r safleoedd yn Sanclêr (safle 17) barhau i gael eu hystyried a chytunwyd yn unfrydol i ymgynghori â’r cyhoedd ar y safleoedd hyn.

Fe wnaethant ddiystyru dau o’r pum safle, am y rhesymau canlynol:

  • Sanclêr (safle J) – Y safle hwn oedd â’r sgôr risg uchaf yn seiliedig ar nodweddion y safle megis anawsterau gyda mynediad brys i’r safle a bod yn fwy pellennig o ganol tref. Sgoriodd hefyd dipyn yn is na’r safleoedd eraill yn y broses arfarnu technegol gyda’r cyhoedd.
  • Arberth (safle 7) – Mae gan y grŵp gwerthuso clinigol bryderon am y safle hwn, oherwydd ei leoliad a'r effaith y gallai hyn ei gael ar gynaliadwyedd y gwasanaeth. Roeddent yn pryderu y gallai’r safle hwn arwain at ostyngiad yn nifer y bobl sy’n dewis cael eu babanod yn Hywel Dda, yn hytrach nag ymhellach i’r dwyrain, a allai hefyd effeithio ar ofal newyddenedigol a phediatrig. Gallai hyn achosi risg i’r swm critigol o weithgarwch sydd ei angen i gadw gwasanaethau’n ddiogel ac yn gynaliadwy. Gallai hefyd gael effaith negyddol ar nifer y gwelyau a gedwir ac ar gadw statws hyfforddai, sef ein gallu i hyfforddi meddygon, nyrsys, a bydwragedd
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: