Neidio i'r prif gynnwy

Pa ysbytai fydd gennym yn y dyfodol

Gwnaethom y penderfyniad i adeiladu Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn dilyn ein hymgynghoriad Trawsnewid Ein Gwasanaeth Iechyd yn 2018, ac mae bellach yn rhan o’n strategaeth hirdymor. Gweler Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd) am fwy o wybodaeth ar ein hymgynghoriad blaenorol a’n strategaeth.

Ni fydd llawer o newid i’r ysbytai canlynol:

  • Bydd Ysbyty Bronglais yn parhau i ddarparu gwasanaethau brys, gofal mewn argyfwng a gofal wedi’i gynllunio, gydag achosion mwy arbenigol yn cael eu trosglwyddo i’rYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, yn ogystal â safleoedd rhanbarthol ar gyfer gofal mwy critigol, fel sy’n digwydd yn awr.
  • Bydd Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i ddarparu gofal mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu, yn ogystal â gofal meddygol aciwt i oedolion gyda chymorth diagnostig. Bydd hyn yn cynnwys gwelyau cleifion mewnol dros nos dan arweiniad meddygon ymgynghorol er mwyn i gleifion dderbyn gofal yn lleol.

Bydd y ddau ysbyty hefyd yn trosglwyddo achosion mwy arbenigol i’rYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, yn ogystal â safleoedd rhanbarthol eraill ar gyfer gofal mwy critigol, fel sy’n digwydd yn awr.

Y prif newidiadau i ysbytai fydd y canlynol:

  • Bydd ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn cael eu haddasu i fod yn ysbytai cymunedol. Bydd y ddau yn darparu canolfannau gofal brys 24/7 dan arweiniad meddygon teulu. Bydd ganddynt gyfleusterau ar gyfer gweithdrefnau achosion dydd, yn ogystal â therapi a gwelyau dan arweiniad nyrsys ar gyfer anghenion llai critigol ac adsefydlu. Bydd cymorth diagnostig (pelydr-x, uwchsain ac ati) yn parhau, yn ogystal â chlinigau cleifion allanol a chlinigau eraill.
  • Ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd fydd y prif safle ysbyty ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn ein rhanbarth (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro). Bydd yn darparu gwasanaethau plant, oedolion ac iechyd meddwl arbenigol mewn modd mwy canolog. Bydd yn gweithredu fel ein HunedTrawma a’n prif Adran Achosion Brys.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: