Neidio i'r prif gynnwy

Manteision cael Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio newydd

Bydd ysbyty newydd yn rhoi llawer o gyfleoedd i ni wella gofal i chi:

  • Bydd amgylchedd pwrpasol newydd yn ein galluogi i fodloni safonau ar gyfer gofal iechyd modern a gwella profiad y claf a’r staff.
  • Bydd lleihau dyblygu rhai gwasanaethau ar draws safleoedd yn caniatáu i ni’r cwmpas i ddarparu gwell gofal, er enghraifft mynediad at uwch benderfynwyr clinigol yn gyflym (h.y. 24/7).
  • Mae mwy o wasanaethau y gallem eu cynnig o ysbyty newydd, o fewn ffiniau Hywel Dda, nad ydym yn gallu eu cynnig ar hyn o bryd (rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer darparu rhai gwasanaethau arbenigol megis radiotherapi, gwasanaethau niwroleg a gwasanaethau cathetreiddio cardiaidd).
  • Y profiad yr ydym wedi’i weld mewn mannau eraill yw bod staff eisiau mynd i weithio mewn ysbytai newydd gan fod ganddynt y cyfleusterau a’r technolegau diweddaraf a gallant ddarparu er llesiant gweithwyr.
  • Byddai hefyd yn caniatáu i ni gynnig rotâu mwy deniadol (er enghraifft llai o oriau anghymdeithasol) i staff meddygol a hyfforddeion, a darparu cyfleusterau addysg iechyd, academaidd, ymchwil ac arloesi ar y safle, ar gyfer yr holl staff clinigol, gan gynnwys nyrsys a therapyddion.
  • Trwy wahanu gofal wedi’i gynllunio a gofal brys yn yr ysbyty newydd, byddwn yn osgoi’r risg y bydd gweithgarwch brys yn effeithio’n negyddol ar ofal wedi’i gynllunio drwy lawdriniaethau yn cael eu canslo.
  • Bydd addasu Glangwili a Llwynhelyg fel ysbytai cymunedol gyda chyfleusterau ar gyfer gofal a gwelyau cam-i-fyny neu gam-i-lawr, a gwasanaethau cymunedol cryfach, yn golygu y byddwn yn rhyddhau’r rhan fwyaf o gleifion o’rYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio i’w cartrefi eu hunain neu i ysbytai mwy lleol, a hynny o fewn 72 awr.
  • Byddai cynllunio a darparu gofal yn wahanol, a chael adeiladau modern ac effeithlon, yn ein cefnogi i leihau ein hôl troed carbon ac yn ein helpu i gyrraedd ein targed o leihau allyriadau carbon gan 34% erbyn 2030. Bydd hyn yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: