Neidio i'r prif gynnwy

Beth fydd yn digwydd os na fyddwn yn newid

Mae ein hymgynghoriad blaenorol yn 2018 a’n strategaeth hirdymor wedi amlygu’r risgiau i’n gwasanaethau os na fyddwn yn newid. Os fyddwn yn gwneud dim, ni fyddwn yn gallu ymdrin â’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd, yn enwedig gan boblogaeth sy’n heneiddio ac sydd ag anghenion iechyd cymhleth, a disgwyliadau o ran darpariaeth gofal iechyd modern. Mae prinder staff, problemau recriwtio, a phwysau ar yr arian sydd ar gael yn debygol o arwain at sefyllfa lle byddai pobl leol yn wynebu’r canlynol:

  • Amseroedd aros hirach mewn Adrannau Achosion Brys.
  • Mwy o lawdriniaethau mewn ysbytai yn cael eu gohirio.
  • Gwelyau ysbyty annigonol.
  • Colli cyfleoedd i atal salwch neu osgoi dirywiad.
  • Seilwaith a gallu technolegol yn gwaethygu.
  • Mwy o broblemau o ran gallu recriwtio a chadw meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys priodol i ofalu amdanoch.
  • Gwasanaethau bregus, sy’n golygu risg uwch o newidiadau neu doriadau i wasanaethau heb eu cynllunio gyda rhai gwasanaethau neu weithdrefnau meddygol yn dod i ben, a gallai olygu bod cleifion yn teithio ymhellach, hyd yn oed i fyrddau iechyd cyfagos.

Yn bwysicaf oll, bydda’i gwneud dim yn debygol o olygu’r canlynol:

  • Safonau diogelwch is
  • Effaith gwaeth ar iechyd
  • Cyfraddau goroesi is

Nid ydym am weld hyn yn digwydd ac mae ein strategaeth yn ceisio newid ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Mae taid a nyrs yn rhannu eu pryderon os na fyddwn yn newid

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: