Neidio i'r prif gynnwy

A wyddoch chi

Wrth i ni ystyried opsiynau ar gyfer ysbytai ac ymgynghori ar hyn yn 2018, fe wnaethom ddiystyru opsiynau i ddatblygu naill aiYsbyty Glangwili neuYsbyty Llwynhelyg felYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio. Roedd hyn oherwydd y byddai’r pellter teithio yn ormodol i bobl yn y sir gyfagos (h.y. teithio yn ormodol i bobl yn Sir Gaerfyrddin petai wedi’i leoli yn Llwynhelyg a theithio yn ormodol i bobl yn Sir Benfro petai wedi’i leoli yng Nglangwili).

Fe wnaethom hefyd ddiystyru’r opsiwn i ddatblygu ysbytai Glangwili a Llwynhelyg felYsbytai Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio oherwydd na fyddai hyn yn mynd i’r afael â’r broblem gyda chynnal ein rotâu meddygol sy’n arwain at wasanaethau bregus i’n cymunedau.

Dewiswyd y parth daearyddol cyffredinol ar gyfer yr ysbyty newydd, rhwng a chan gynnwys Sanclêr ac Arberth, gan ei fod yn daith o fewn awr mewn car i’r mwyafrif o boblogaethau ein hardal.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: