Bydd ein StrategaethTrafnidiaeth a Hygyrchedd yn cytuno ar weledigaeth ar gyfer cyfleoedd system drafnidiaeth ar draws ardal Hywel Dda, yn ogystal â model trafnidiaeth i wasanaethu’r ysbyty newydd.
Rydym yn ymwybodol o gynlluniau cenedlaethol eraill, ac yn eu cefnogi, i wneud gwelliannau i drafnidiaeth, teithio llesol ac aer glân.
Mae’r rhain yn cynnwys Cynllun Aer Glân i Gymru: Aer Iach, Cymru Iach (2020) a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae’r holl bolisïau hyn wedi’u cysylltu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) (agor mewn dolen newydd).
Fel rhan o gynllunio trafnidiaeth ar gyfer yr ysbyty newydd yn y dyfodol, byddwn hefyd yn ystyried ystyriaethau economaidd ehangach ac yn ceisio cefnogi pobl a busnesau i wneud dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy.