Er ein bod yn ymgynghori’n ffurfiol â chi ar y tri safle ysbyty posibl, mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn ar gyfleoedd neu syniadau ar gyfer lleihau rhwystrau trafnidiaeth. Rydym hefyd am ystyried effaith amgylcheddol a chyfleoedd ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tyˆ gwydr a gwella ansawdd aer, fel bod ein cynlluniau yn cael yr effaith leiaf ar yr amgylchedd a’n bod mor wyrdd (cynaliadwy) â phosibl.