Neidio i'r prif gynnwy

Teithio a thrafnidiaeth

Rhan allweddol o’n strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach yw dod â gofal yn nes at adref a lleihau teithio ar gyfer derbyniadau diangen i’r ysbyty neu arosiadau hir.

Mae ein Hachos Busnes Rhaglen (agor mewn dolen newydd),  yn cynnwys buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau cymunedol yn agos at eich cartref. Bydd hyn yn sicrhau y gallwch barhau i gael eich gofal yn bennaf yn eich cartref a’ch cymunedau eich hun, neu o ysbytai mwy lleol. Byddech hefyd yn dod yn ôl i’r cyfleusterau a’r gwasanaethau lleol hyn neu i’ch cartref eich hun, yn gynt ar ôl arhosiad yn yr ysbyty. Ein nod yw i bobl fod angen arhosiad byr yn unig yn ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio (72 awr).

Rydym wedi clywed bod trafnidiaeth a mynediad i’rYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, mewn argyfwng neu ar gyfer gofal wedi’i gynllunio, yn destun pryder i staff a’n cymunedau.

Mae’n hanfodol bod cleifion, staff ac ymwelwyr yn gallu cael mynediad at wasanaethau, gan gynnwys ein hysbytai. Mae angen i’n Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd fod yn hygyrch gyda chysylltiadau trafnidiaeth da.

Un o’n heriau yw ein bod yn darparu gwasanaethau gofal iechyd ar draws ardal fawr, chwarter tir Cymru, a hynny mewn mannau gwledig yn bennaf.

Mae cael llawer o gyfleusterau ar draws ein hardal yn lleihau amser teithio, ond yn golygu bod ein gwasanaethau clinigol yn fwy bregus – gallwch ddarllen mwy am hyn ar dudalen 15.

Er mwyn mynd i’r afael â phryderon am ein cynlluniau ar gyfer ysbyty newydd, waeth beth fo’r tri safle penodol, rydym yn datblygu StrategaethTrafnidiaeth a Hygyrchedd. Bydd hwn yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth i’r ysbyty a’n gwasanaethau cymunedol. Mae trafnidiaeth yn eang a bydd yn ymdrin â materion megis trafnidiaeth cleifion brys a chleifion nad ydynt yn rhai brys, trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol, teithio gan staff, datgarboneiddio, meysydd parcio a darpariaeth tacsis neu gludwyr.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: