Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad amserol mewn argyfwng

Rydyn ni’n gwybod bod rhai ohonoch chi’n bryderus iawn am fynediad prydlon at ofal mewn argyfwng.

Yn ystod ymgynghoriad Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd yn 2018, canfuom fod 93% o boblogaeth Hywel Dda o fewn amser teithio un awr mewn car i’w Hadran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf. Roedd hwn yn ystyried argaeledd ysbyty newydd o fewn y parth rhwng ac yn cynnwys Arberth a Sanclêr, Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth acYsbyty Treforys yn Abertawe.

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) hefyd wedi asesu ei galwadau ac wedi trosi’r amseroedd teithio hyn yn amseroedd teithio cyfartalog (gan ddefnyddio cyflymderau ffyrdd cyfartalog, yn hytrach na chyflymder 999). Roedd hyn yn dangos bod tua 98% o’r digwyddiadau o fewn awr i naill ai parth ysbyty newydd,Ysbyty Bronglais neuYsbyty Treforys. Mae’n bwysig nodi bod clinigwyr, gan gynnwys meddygon ymgynghorol, yn ymateb i rai argyfyngau sy’n dod i’r lleoliad mewn cerbyd ffordd neu Ambiwlans Awyr, a elwir yn Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). Mae darparu’r gofal hwn yn y man a’r lle yn lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â theithio i ganolfan driniaeth. Rydym yn falch o fod wedi gweld gwelliannau yn y mynediad i Ambiwlans Awyr Cymru, sydd wedi cynyddu i wasanaeth 24/7 ers mis Gorffennaf 2020.

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am amseroedd teithio i’r safleoedd drwy fynd i’n gwefan ac i’r adran Dogfennau Technegol. (agor mewn dolen newydd) Gelwir yr adroddiad yn Ddadansoddiad Technegol Dewis SafleWAST ac mae’n rhan o sawl adroddiad a gynhwyswyd yn Adroddiadau’r Bwrdd Cyhoeddus ar 4 Awst 2022. Mae’n cynnwys dadansoddiad o amseroedd teithio presennol fesul gwahanol drafnidiaeth, gan gynnwys llwybrau bysiau a threnau, yn ogystal â cheir a chludiant brys.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: