Neidio i'r prif gynnwy

Dyfodol cynaliadwy

Mae gennym Gynllun Cyflawni Datgarboneiddio mewn ymateb i uchelgais Llywodraeth Cymru i GIG Cymru gyfrannu at darged sero net ar gyfer y sector cyhoeddus cyfan erbyn 2030. Gallwch ddarllen hwn yn llawn drwy fynd i’n gwefan a gweld y dolenni i’r dogfennau defnyddiol (agor mewn dolen newydd) . Mae’r cynllun hwn yn ymdrin â gwelliannau mewn meysydd fel rheoli carbon, adeiladau, trafnidiaeth, caffael, cynllunio ystadau a defnydd tir, a darparu gofal cynaliadwy sy’n gwneud y defnydd gorau o dechnolegau a datblygiadau mewn meddygaeth.

Ein nod, a gefnogir gan yr Achos Busnes Rhaglen yw i drawsnewid iechyd a gofal yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a lleihau ein hôl troed carbon 34% erbyn 2030. Ein nod yw bod yn sefydliad enghreifftiol i’r GIG a’r sector cyhoeddus ehangach.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: