Neidio i'r prif gynnwy

Pam fod angen i ni newid

Rydym yn rhannu’r un weledigaeth â’n cymunedau – i ni oll fyw bywydau iach a llawen. Rydym yn cydnabod na fydd ein gwasanaethau iechyd, fel y maent yn cael eu trefnu ar hyn o bryd, yn gwireddu’r weledigaeth honno’n effeithiol a disgrifiwn rai o’r heriau isod.

Ers 2017, rydym wedi bod yn siarad â chi gydag ymgysylltiad rheolaidd am ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal, ac fe wnaethom ymgynghori â chi yn 2018 yn yr ymgynghoriadTrawsnewid Ein Gwasanaeth Iechyd, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am hynny drwy fynd i’n gwefan ac ymweld â dolenni defnyddiol yn yr adran Dogfennau Technegol (agor menw dolen newydd).

Yn ymgynghoriad 2018, fe wnaethom ofyn i chi am ofal yn y gymuned a gofal mewn ysbyty. Fe wnaethom ddysgu bod cael gofal a chymorth lle mae ei angen arnoch yn bwysig a dylai hyn fod mor lleol â phosibl, er eich bod yn deall bod adegau pan fydd yn rhaid i chi deithio i gael gofal. Clywsom hefyd eich bod yn pryderu am deithio a thrafnidiaeth, a sut y byddwch yn cyrraedd ac yn cael mynediad at wasanaethau iechyd yn y dyfodol. Mae hyn yn bennaf oherwydd ein daearyddiaeth a’n hardaloedd anghysbell, ond mae hefyd yn gysylltiedig â sut rydym yn defnyddio technoleg.

Fe wnaethom wrando, a’r canlyniad oedd ein strategaeth iechyd a gofal hirdymor, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw Bywydau Iach a gyhoeddwyd yn 2019.

Gallwch ddarllen y strategaeth drwy fynd i’n gwefan ac i’r adran Dogfennau Technegol (agor menw dolen newydd).

Uchelgais gyffredinol ein strategaeth yw symud o wasanaeth sydd ond yn trin salwch i wasanaeth sy’n cadw pobl yn iach, yn atal afiechyd neu waethygu afiechyd, ac yn darparu unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch yn gynnar (h.y. system llesiant).

Mae hyn yn cynnwys gwaith yn ein cymunedau i ddarparu cymorth a gofal mwy cydgysylltiedig, a hynny mor lleol i chi â phosib.

Er enghraifft, rydym yn datblygu cynlluniau i gynnig cyfleusterau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro lle gallwch gael profion, gofal a thriniaeth ac apwyntiadau. Bydd gan rai o’r rhain welyau dros nos, megis yn Nyffryn Aman, Cylch Caron (Tregaron), Llanymddyfri a De Sir Benfro, ac ni fydd gwelyau dros nos gan rai, megis Aberaeron ac Aberteifi (wedi’u cyflwyno eisoes), Caerfyrddin, Cross Hands, Abergwaun, Hwlffordd, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Llanelli, Aberdaugleddau, Arberth, Neyland, Pentre Awel a Dinbych-y-pysgod.

Bydd hyn yn sicrhau y gallwch barhau i gael eich gofal yn bennaf yn eich cartref eich hun a’ch cymuned leol, neu o ysbyty sy’n lleol i chi. Byddech hefyd yn dod yn ôl i’r cyfleusterau a’r gwasanaethau lleol hyn, neu i’ch cartref eich hun, yn gyflymach ar ôl arhosiad yn yr ysbyty. Ein nod yw i bobl fod angen arhosiad byr yn unig yn yrYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio (hyd at 72 awr), gyda gofal yn y gymuned i’w cefnogi.

Er mwyn dod yn system llesiant, mae angen inni ddarparu gofal arbenigol o safon na ellir ei ddarparu mewn mannau eraill yn ein cymunedau, mewn ysbytai sy’n addas i’r diben.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: