Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd ein cymunedau

Mae ein poblogaeth yn parhau i dyfu, ac mae pobl yn byw’n hirach, sy’n newyddion da. Fodd bynnag, mae’n golygu bod pobl hefyd yn profi mwy o flynyddoedd o salwch neu anabledd a bod angen mwy o gymorth arnynt i aros yn iach ac yn annibynnol. Yn ardal Hywel Dda, mae oedran cyfartalog pobl hefyd yn cynyddu’n gyson ac mae bron i chwarter ohonoch dros 65 oed.Wrth i’n poblogaeth heneiddio, mae mwy o bobl yn byw gydag un neu fwy o gyflyrau cronig. Dyw pobl ddim bob amser yn gwneud y dewisiadau gorau o ran eu ffordd o fyw, er enghraifft yr hyn yr ydym yn ei fwyta a pha mor egnïol ydym. Credwn y bydd hyn yn cynyddu’r galw ar wasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: