Neidio i'r prif gynnwy

Gweithlu

Mae gennym lai o staff nag sydd eu hangen, yn gweithio gyda’i gilydd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, i ddarparu ansawdd y gofal a maint y gofal y dymunwn ei ddarparu ac sydd ei angen arnoch. Oherwydd bod ein gwasanaethau wedi’u rhannu ar draws pedwar safle ysbyty, mae ein meddygon yn cyflenwi mwy o shifftiau neu rotâu nag mewn rhai sefydliadau GIG eraill (er enghraifft efallai y bydd angen gweithio shifftiau penwythnos yn amlach nag mewn rhai mannau). Yn ei dro, mae hyn yn golygu nad ydym yn cael ein gweld fel lle deniadol i weithio gan fod pobl yn pryderu efallai na fyddant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt o weithio fel rhan o dîm ac i gefnogi eu gyrfaoedd. Rydym yn gweithio i newid y ffordd yr ydym yn cael ein gweld ond erys anawsterau o ran recriwtio staff, ac rydym yn dibynnu gormod ar staff asiantaeth drud. Mae hyn yn arwain at anallu i ddarparu gofal o’r ansawdd uchaf – nid oherwydd gallu’r unigolion yn y rolau dros dro hyn, ond oherwydd eu bod yn anghyfarwydd â chanllawiau a gweithdrefnau lleol ac aelodau eraill y tîm. Mae hyn yn peri risg o ansawdd gofal gwaeth i chi a gwasanaethau bregus a allai chwalu, ac y mae’n arwain at broblemau ariannol sylweddol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: